Skip to main content

Rheoli Perygl Llifogydd – proses ymgysylltu â'r cyhoedd ar y gweill

m ash flooding

Y DIWEDDARAF: Er gwybodaeth, amser a dyddiad cau'r arolwg ar-lein sy'n rhan o'r gwaith ymgysylltu yw 5pm ddydd Mercher, 27 Ionawr. Gall trigolion gymryd rhan drwy e-bost hyd at 8 Chwefror.

Mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion a busnesau sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd y llynedd i lenwi arolwg a fydd yn helpu Swyddogion i goladu gwybodaeth leol, data digwyddiadau storm a gwybodaeth hanesyddol am lifogydd.

Cafodd Rhondda Cynon Taf ei tharo gan bedair storm yn olynol yn ystod 2020 – Storm Ciara (8-9 Chwefror), Storm Dennis (15-17 Chwefror), storm ddienw (21-24 Chwefror) a Storm Jorge (28 Chwefror - 1 Mawrth). Fe achosodd hyn y glawiad uchaf erioed ynghyd â'r lefelau a llifoedd afonydd uchaf erioed. Gwelodd y Fwrdeistref Sirol ei llifogydd mwyaf sylweddol ers y 1970au, gyda 1,476 o eiddo dan ddŵr.

Er ei fod yn cydnabod ymateb eang ac ymroddedig y Cyngor, cytunodd y Cabinet ar 11 o argymhellion ar gyfer gwella yn Rhagfyr 2020 – gyda'r nod o gyfyngu ar yr effaith ar gymunedau sydd mewn perygl yn ystod tywydd eithafol yn y dyfodol. Un o'r argymhellion a gafodd ei gytuno yw cynnal adolygiad cynhwysfawr i nodi'r ardaloedd preswyl a diwydiannol hynny sy'n debygol o fod fwyaf mewn perygl.

Gan ddechrau yn Ionawr 2021, mae'r Cyngor wedi penodi'r ymgynghorwyr Capita a Redstart i gynnal proses ymgysylltu â'r cyhoedd - gan weithio ar ran yr Awdurdod Lleol i gasglu gwybodaeth am lifogydd mewn cymunedau lleol.

Mae'r broses yma'n dilyn cynllun peilot llwyddiannus ym Mhentre, ac mae'r Cyngor bellach yn ei ehangu i gymunedau eraill yn y Fwrdeistref Sirol.  Mae taflenni sy'n amlinellu sut i gymryd rhan yn cael eu danfon i drigolion ym meysydd allweddol yr ymchwiliad, a bydd Redstart hefyd yn cynnal cyfres o ymweliadau safle.

Rydyn ni'n gofyn i drigolion a busnesau lenwi arolwg, sydd bellach ar gael ar-lein yma. Bydd yr adborth a ddaw i law yn ystod y broses yma'n helpu'r Cyngor i ddeall digwyddiadau storm yn well, a bydd unrhyw dystiolaeth sy'n ymwneud ag achos llifogydd yn bwydo i mewn i ddatblygiad a chyhoeddiad adroddiad ymchwilio Adran 19 o'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Mae modd i drigolion a busnesau gymryd rhan hefyd trwy anfon tystiolaeth drwy lun neu fideo trwy e-bost, ynghyd â disgrifiad o'r lleoliad: RCTFloodEvents@capita.com. Mae modd i'r rheini sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu fynediad i e-bost ffonio 07712538324 i drefnu amser ar gyfer cyfweliad ffôn byr, fel bod modd cofnodi eu tystiolaeth.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae helpu pobl, busnesau a chymunedau i adfer ar ôl y llifogydd ofnadwy'r llynedd – ynghyd â gwaith tuag at atgyweirio seilwaith sydd wedi’i ddifrodi ledled y Fwrdeistref Sirol – yn parhau i fod yn flaenoriaeth fawr i’r Cyngor.

“Aeth staff y Cyngor y tu hwnt i'w dyletswyddau i helpu pobl yn ystod amodau erchyll Storm Dennis – a buon nhw'n gweithio'n ddiflino yn ystod yr wythnosau a ddilynodd i helpu gyda'r gwaith glanhau ac adfer. Fodd bynnag, mae'r profiad a gafwyd yn y digwyddiad rhyfeddol yma wedi caniatáu inni asesu sut y mae modd gwella ein parodrwydd ar gyfer tywydd eithafol ymhellach. Caiff hyn ei amlinellu yn y 11 o argymhellion wedi'u targedu y cytunodd y Cabinet iddyn nhw yn Rhagfyr 2020.

“Rhan bwysig o’r broses yma yw nodi a deall ymhellach yr ardaloedd sydd â’r perygl mwyaf o lifogydd. Tuag at y nod yma, mae'r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr ag ymgynghorwyr mewn ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd, fel bod modd i drigolion ddweud wrthon ni sut cawson nhw eu heffeithio a rhannu eu gwybodaeth leol am lifogydd yn eu cymunedau.

“Mewn amgylchiadau arferol, byddai’r Cyngor yn ymgysylltu’n uniongyrchol â thrigolion a busnesau trwy gyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, fel sy'n wir gydag ymgynghoriadau cyfredol ar draws holl wasanaethau'r Cyngor, mae ein dull yn cael ei addasu i gydymffurfio â chyfyngiadau coronafeirws. Rydyn ni wedi derbyn ymgysylltiad rhagorol gan y rhai sydd wedi'u heffeithio ym Mhentre trwy'r dull ar-lein yma, ac rydyn ni bellach yn ymestyn y broses i gymunedau eraill.

“Mae’r arolwg bellach ar-lein, ac rydw i'n annog trigolion a busnesau sydd wedi'u heffeithio i gymryd rhan i helpu ein gwaith ymchwilio.”

Wedi ei bostio ar 12/01/21