Skip to main content

Gwaith pellach wedi'i gynllunio yn rhan o'r cynllun i osod Pont Sant Alban newydd

St Albans bridge 2

Dyma roi gwybod i drigolion a defnyddwyr y ffordd y bydd Pont Sant Alban ym Mlaenrhondda yn cau yr wythnos nesaf. Mae hyn er mwyn cwblhau gwaith pellach sy'n rhan o'r cynllun a welodd y bont newydd yn cael ei hadeiladu'n llwyddiannus y llynedd.

Roedd y Cyngor wedi ailagor Pont Sant Alban i gerbydau, beicwyr a cherddwyr ym mis Rhagfyr 2020. Roedd y strwythur newydd sbon yma wedi cymryd lle'r hen bont a gafodd ei hadeiladu yn yr 1930au ac a oedd wedi cyrraedd diwedd ei hoes.

Pan ailagorodd y bont y mis diwethaf, cadarnhaodd y Cyngor y byddai'r contractwr Alun Griffiths Ltd yn parhau â'r gwaith ar draws y safle ehangach - ac y bydd angen cau'r bont nes ymlaen yn y flwyddyn newydd er mwyn ailosod saith o baneli parapet diffygiol a fydd yn gwella ansawdd esthetig y bont.

Dyma gadarnhau y bydd angen cau'r bont eto o ddydd Llun, 25 Ionawr, am wythnos, gan ddibynnu ar y tywydd. Bydd y contractwr yn cydymffurfio â'r canllawiau cadw pellter cymdeithasol diweddaraf.

Bydd y trefniadau ar gyfer defnyddwyr y ffordd a cherddwyr gafodd eu gweithredu yn ystod cyfnod cau'r bont y llynedd yn cael eu gweithredu unwaith eto. Bydd llwybr amgen ar gyfer traffig ar hyd Heol Blaenrhondda a Ffordd Blaen-y-Cwm - neu mae modd dilyn y llwybr yma yn y drefn wrthdro. Mae hyn yn cynnwys yr holl wasanaethau bysiau (trafnidiaeth ysgol, bysiau 120/130 a 121) a fydd yn cael eu dargyfeirio ar hyd Ffordd Blaen-y-Cwm. Fydd dim mynediad i gerbydau'r gwasanaethau brys nac i gerddwyr.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Cafodd Pont Sant Alban ym Mlaenrhondda ei hailagor cyn y Nadolig ar ôl i gynnydd da gael ei wneud y llynedd - diolch i ymrwymiad y Cyngor wrth gyflawni’r cynllun heriol yma i adeiladu pont newydd er budd y gymuned leol, gan ddefnyddio buddsoddiad sylweddol o fwy na £2 filiwn.

“Er bod y bont wedi gallu ailagor ar 11 Rhagfyr, mae gwaith wedi parhau ar draws y safle ehangach. Rhoddodd y Cyngor wybod y byddai angen cau'r bont eto yn y Flwyddyn Newydd er mwyn gwneud rhagor o waith. Mae'r gwaith yma wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnos nesaf. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn ystod cyfyngiadau Rhybudd Lefel 4 COVID-19 a dylai hyn helpu i leihau unrhyw aflonyddwch yn lleol.

“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol a defnyddwyr y ffyrdd am eu cydweithrediad parhaus wrth i’r Cyngor gwblhau’r gwaith hanfodol yma.”

Wedi ei bostio ar 21/01/21