Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf unwaith eto'n falch o fod yn cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost 2021 (dydd Mercher, 27 Ionawr) a'i thema 'Byddwch yn Oleuni yn y Tywyllwch.'
Oherwydd cyfyngiadau COVID-19, eleni rydyn ni'n gofyn i'r cyhoedd a staff y Cyngor dreulio peth amser ar y diwrnod, yn niogelwch eu cartrefi a'u gweithleoedd eu hunain, yn myfyrio ar erchyllterau'r cyfnod gwaethaf yn hanes y byd - lle cafodd miliynau o bobl eu lladd mewn ffordd greulon yn nwylo Natsïaid yr Almaen, a'r hil-laddiadau a ddilynodd hynny.
MaeByddwch yn Oleuni yn y Tywyllwch yn ddatganiad byd-eang ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2021, gan annog pob un ohonon ni i ystyried gwahanol fathau o 'dywyllwch,' megis erledigaeth ar sail hunaniaeth, gwybodaeth anghywir, ac achosion o wrthod cyfiawnder. Mae hefyd yn gyfle i ni ystyried y nifer o wahanol ffyrdd o 'fod yn oleuni', megis gwrthsefyll casineb, gweithredoedd sy’n dangos cefnogaeth, achub pobl a thaflu goleuni ar wybodaeth anwir.
Os yw'n ddiogel gwneud hynny, rydyn ni'n gofyn i'r cyhoedd gynnau cannwyll ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2021, dydd Mercher, 27 Ionawr, gan dynnu sylw at thema'r achlysur byd-eang eleni.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am faterion Cydraddoldeb ac Amrywioldeb:
“Mae'r cyfnod heriol rydyn ni'n byw drwyddo ar hyn o bryd yn dangos y gorau o'r hyn y mae modd i ddynoliaeth ei gyflawni, ond hefyd, drwy rai o'r damcaniaethau cynllwynio a'r gamdriniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n dangos agwedd fwy tywyll ar ein byd.
"Mae'n bwysig bod y byd yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost. Byddwn ni'n parhau i wneud ein rhan cyhyd ag y gallwn ni, gan sicrhau y bydd eraill yn parhau i gynnau cannwyll ymhell ar ein holau.
"Rhaid peidio byth ag ailadrodd y cyfnod tywyll yma o hanes ac mae'n bwysig ein bod ni’n nodi ac yn cofio achlysuron teimladwy fel yr Holocost.
“I lawer ohonom ni, bydd Diwrnod Cofio'r Holocost 2021 yn wahanol i flynyddoedd blaenorol. Fydd dim gwasanaeth coffa yn Rhondda Cynon Taf eleni, ond mae ein hymrwymiad mor gryf ag erioed.
“Mae gyda ni gyfrifoldeb i sicrhau nad yw erchyllterau fel hyn yn digwydd eto ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rhaid dysgu o'r gorffennol er mwyn creu dyfodol mwy diogel a gwell ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”
Rhwng 1941 ac 1945, ceisiodd y Natsïaid ddifa holl Iddewon Ewrop. Caiff yr ymgais systematig bwriadol yma i lofruddio pobl Ewrop ei adnabod fel cyfnod yr Holocost.
Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig wedi marw mewn getoau, gwersylloedd gweithio a gwersylloedd difa, neu wedi'u lladd drwy gael eu saethu.
Cafodd dros 1.1 miliwn o bobl eu llofruddio yn Auschwitz-Birkenau – 90% o'r rheiny'n Iddewon.
Wedi ei bostio ar 27/01/2021