Skip to main content

Eisteddfod Genedlaethol yn RhCT wedi'i ohirio tan 2024

eisteddfod

Mae Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd y tair Eisteddfod Genedlaethol nesaf yn cael eu gohirio am flwyddyn arall (i'w cynnal yng Ngheredigion, Llyn ac Eifionydd, a Rhondda Cynon Taf, yn y drefn honno). Mae hyn bellach yn golygu y bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn RhCT yn 2024.

Daw’r cyhoeddiad diweddaraf yma yng ngoleuni datblygiadau parhaus y pandemig byd-eang COVID-19 ac mae’n dilyn y canllawiau a’r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ym mis Mawrth 2020, cafodd y penderfyniad ei wneud i ohirio’r achlysur rhwng 2022 a 2023 ond mae effeithiau parhaus yr argyfwng iechyd gwladol bellach wedi golygu bod angen gohirio ymhellach tan 2024.

Fodd bynnag, gan adeiladu ar lwyddiant y llynedd, bydd fersiwn ar-lein o’r ŵyl, AmGen, yn cael ei chynnal unwaith eto a bydd hyn yn rhedeg ar draws pob platfform yn ystod y flwyddyn. Caiff gwybodaeth bellach ei gyhoeddi gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddarach ar gyfer y rheiny sydd am gystadlu yng nghystadlaethau AmGen.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg: “Yng ngoleuni effeithiau parhaus pandemig byd-eang COVID-19 a’r cyfyngiadau sydd ar waith ar gynnal achlysuron cyhoeddus a chynulliadau cymdeithasol, mae’r Cyngor wedi cytuno i ohirio’r Eisteddfod Genedlaethol ymhellach tan 2024 yn dilyn trafodaethau gyda Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod.

“Mae hyn, wrth gwrs, yn newyddion hynod siomedig gan fy mod yn gwybod bod cynifer o'n trigolion yn edrych ymlaen at groesawu'r achlysur i'n Bwrdeistref Sirol, ond mae'r tair Eisteddfod wedi'u gohirio er budd diogelwch y cyhoedd a rhaid i hyn barhau i fod yn flaenoriaeth lwyr ar hyn o bryd.

“Edrychaf ymlaen at weithio gyda Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol i barhau â’n paratoadau ar gyfer cynnal yr achlysur mawreddog a hanesyddol yn 2024.”

Wedi ei bostio ar 27/01/21