Bydd y Cyngor yn dechrau gosod technoleg ddigyffwrdd ar chwe chroesfan brysur i gerddwyr, yn rhan o gynllun peilot sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi mesurau trafnidiaeth gynaliadwy wrth ymateb i COVID-19.
Bydd y cynllun newydd yn golygu y bydd modd i gerddwyr roi llaw o dan synhwyrydd ar y croesfannau yma yn lle gwthio botwm. Mae'r dechnoleg synhwyro yma'n fwy dibynadwy ac effeithlon na'r system gwasgu botwm gyfredol, a bydd yn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu yn ystod y pandemig.
Bydd cynllun peilot y dechnoleg yma'n para am gyfnod o bedair wythnos. Bydd y cyfnod yn dechrau ddydd Llun 25 Ionawr. Bydd sticeri ac arwyddion yn cael eu gosod wrth bob croesfan i wneud cerddwyr yn effro i'r dechnoleg newydd. Bydd y rhain yn cael eu gosod cyn y bydd modd defnyddio'r dechnoleg - erbyn diwedd yr wythnos gobeithio.
Os na fydd unrhyw broblemau'n codi yn y cyfnod yma, mae'n bosibl bydd y dechnoleg yn cael ei gosod ar bob croesfan wedi'i rheoli drwy signal yn Rhondda Cynon Taf. Bydd y chwe lleoliad canlynol yn rhan o'r cynllun peilot cychwynnol:
- Stryd Morgan, Pontypridd (ger yr orsaf fysiau)
- Parc Manwerthu Tonysguboriau
- Heol Llwynypia, Tonypandy (ger siop Asda)
- Stryd Fawr, Glynrhedynog
- Heol Newydd, Aberpennar (i'r de o Neuadd y Dref)
- Yr A4059, Aberdâr (ger cylchfan Sobell/yr Ynys)
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu yn rhan o'r gefnogaeth sy wedi'i roi i gynghorau gan Lywodraeth Cymru, gafodd ei gyhoeddi gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ym mis Mehefin 2020 i wella diogelwch ac annog teithio llesol a chynaliadwy. Mae hyn er mwyn ymateb i'r pandemig, ond hefyd er mwyn cyflawni gwelliannau hir dymor.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor wedi croesawu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gynnal y cynllun peilot yma ar groesfannau. Bydd technoleg ddigyffwrdd ar gael ar chwe chroesfan brysur i gerddwyr ym Mhontypridd, Tonysguboariau, Tonypandy, Glynhredynog, Aberpennar ac Aberdâr. Bydd y gwaith gosod yn dechrau'n fuan a bydd y cynllun peilot yn para bedair wythnos.
“Bydd y dechnoleg yn helpu i atal y feirws rhag lledaenu yn ystod pandemig COVID-19, gan ein bod yn gwybod y gall fyw ar arwynebau am gryn amser. Ond mae'n bwysig nodi y bydd o fudd i ni yn y dyfodol hefyd. Mae'n fwy dibynadwy ac mae hefyd yn helpu pobl sydd â phroblemau symudedd ac sydd o bosibl yn ei chael hi'n anodd cyrraedd botwm er mwyn croesi'r ffordd yn ddiogel.
“Mae'r cynllun yma'n rhan o ymrwymiad y Cyngor i gynyddu'r ddarpariaeth cerdded a beicio leol a'i gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch Teithio Llesol yn Rhondda Cynon Taf, wrth i ni wahodd barn preswylwyr hyd at 12 Chwefror. Bydd hyn yn ein helpu i ddiweddaru ein Map Rhwydwaith Integredig, gan amlinellu'r llwybrau Teithio Llesol arfaethedig a fydd yn cael eu creu yn ystod y 15 mlynedd nesaf, i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru eleni."
Wedi ei bostio ar 26/01/21