Bydd y Cabinet yn derbyn diweddariad ar fuddsoddiad ac ymrwymiad y Cyngor i ehangu addysg Cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf, gan weithio tuag at y cyflawniadau sy wedi'u hamlinellu yn ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP).
Bydd yr aelodau'n trafod canfyddiadau'r adroddiad ddydd Iau, 28 Ionawr, sy'n amlinellu'r camau sy wedi'u cymryd er mwyn gweithio tuag at y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg - sy'n darparu cyfeiriad strategol i'r broses o gynllunio a darparu addysg Cyfrwng Cymraeg a throsolwg o'r camau sy wedi'u cyflawni. Cafodd y camau yma eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru i ddechrau ar gyfer y cyfnod rhwng 2017 a 2020, ond mae'r cyfnod wedi'i ymestyn i 2021 oherwydd pandemig COVID-19.
Mae'r adroddiad yn amlinellu mai Rhondda Cynon Taf sydd â'r ganran uchaf o ddisgyblion statudol sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, o'i chymharu â'r pedwar Awdurdod Lleol arall sy'n rhan o'r Gwasanaeth Addysg ar y Cyd - Consortiwm Canolbarth y De. Mae hyn wedi bod yn wir am y tair blynedd diwethaf, a chafodd 18.8% o ddisgyblion eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf yn ystod 2020.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod gan fwyafrif ysgolion cynradd Cymraeg Rhondda Cynon Taf leoedd yn weddill, gyda 28.1% o leoedd yn y sector yma. Ar achlysuron lle mae pwysau am leoedd wedi codi, mae'r Cyngor wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r rhain neu wedi rhoi rhaglenni ar waith i fynd i'r afael â'r materion o ran capasiti.
Mae'r Cyngor, ar y cyd â'r Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif, wedi ymrwymo i fuddsoddi £3.69 miliwn yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr gan ddarparu 48 lle ychwanegol ac wedi mynd ati i sefydlu Ysgol Garth Olwg fel ysgol 3-19, sy'n galluogi'r ysgol gynradd i ehangu i'r gofod dros ben sydd ar gael yn y sector uwchradd. Y bwriad yw cynyddu maint Ysgol Gynradd Dolau i ddarparu 540 o leoedd mewn ymateb i ddatblygiadau tai lleol, tra bydd capasiti Ysgol Gynradd Penderyn yn cynyddu ym mis Medi 2021 pan fydd yn dod yn ysgol Gymraeg yn unig. Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd ar safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn, gyda buddsoddiad arfaethedig o £10.7 miliwn.
Mae cynyddu ansawdd ac argaeledd darpariaeth cyfrwng Cymraeg blynyddoedd cynnar, wedi'i chydleoli mewn ysgolion cynradd, hefyd wedi bod yn flaenoriaeth - gyda £4 miliwn wedi'i fuddsoddi'n ddiweddar. Mae'r buddsoddiad yn cynnwys cyllid ar gyfer lleoliad gofal plant newydd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon i ddiwallu'r anghenion cymunedol, Cylch Meithrin pwrpasol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, a darparu lleoliad gofal plant a Dechrau'n Deg yn Ysgol Llanhari. Hefyd bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James, Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen, Ysgol Gynradd Dolau a Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant yn elwa o gyfleusterau newydd ac ailfodelu ar gyfer darpariaeth gofal plant a / neu Dechrau'n Deg ychwanegol.
Mae gan y mwyafrif o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf leoedd ar gael hefyd, gyda 23.1% o leoedd yn weddill yn y sector. Fodd bynnag, mae camau'n cael eu cymryd yn Ysgol Rhydywaun lle mae angen cynyddu'r capasiti yno. Mae'r Cyngor yn cynllunio buddsoddiad o £2.13 miliwn, gan ddefnyddio cyllid Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif i gynyddu capasiti'r ysgol o 1,040 i 1,225. Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy adeiladau llety addysgu a chyfleusterau chwaraeon ychwanegol a fydd wedi'u cwblhau cyn dechrau blwyddyn academaidd 2022/23.
Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu buddsoddiad diweddar mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg trwy Raglen Gyfalaf y Cyngor - gan gynnwys adnewyddu, ailfodelu ac adeiladau newydd. Mae enghreifftiau allweddol o brosiectau a gyflwynwyd yn ddiweddar yn cynnwys gwaith yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn.
Mae'r adroddiad ar gael i breswylwyr ei weld yn llawn ar wefan y Cyngor, ac mae wedi'i gynnwys yn yr agenda ar gyfer Cyfarfod y Cabinet ddydd Iau, 28 Rhagfyr.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae'r diweddariad blynyddol hwn gan y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn dangos bod y Cyngor yn cyfrannu'n weithredol at wella darpariaeth Cyfrwng Cymraeg ar draws y Fwrdeistref Sirol - gan gymharu'n ffafriol ag ardaloedd eraill Consortiwm Canolbarth y De o ran canran y disgyblion statudol sy'n cael mynediad at addysg Cyfrwng Cymraeg, a chyflwyno cynlluniau uchelgeisiol clir a buddsoddiad yn yr ardaloedd hynny sydd angen lleoedd Cymraeg ychwanegol.
“Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i gyfrannu at weledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, gan sicrhau y bydd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ymhen 30 mlynedd. Yn lleol, rydyn ni'n gweithio tuag at y nod yma trwy sicrhau bod darpariaeth addysg Cyfrwng Cymraeg ar gael o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg gynradd ac uwchradd.
“Bydd y Cyngor yn parhau i fonitro nifer y disgyblion sy'n mynychu ysgolion Cyfrwng Cymraeg, a bydd yn edrych ymlaen at y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd fydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni - fydd yn disodli'r cynllun cyfredol y tu hwnt i 2021. Bydd yn amlinellu ein cynlluniau strategol, ein gweithredoedd a'n hymrwymiadau i addysg Gymraeg. Bydd hefyd yn amlinellu nifer o gynlluniau arfaethedig fydd yn cael eu cwblhau dan Brosiectau Ysgolion 21ain Ganrif yn y dyfodol, fydd yn cynnwys adeiladu ysgolion newydd sbon i Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog ac Ysgol Gymraeg Cwm Rhondda yn y Cymer."
Wedi ei bostio ar 22/01/21