Skip to main content

Achlysur Rhithwir Nos Galan yn llwyddiant!

nos galan

Mae'r Flwyddyn Newydd yn golygu bod y Rasys Nos Galan Rhithwir cyntaf erioed drosodd yn swyddogol, gyda chystadleuwyr o RhCT a ledled y byd wedi cwblhau eu her 5k ym mis Rhagfyr.

Os dydych chi ddim wedi uwchlwytho'ch tystiolaeth eto, gwnewch hynny cyn 8 Ionawr er mwyn hawlio eich medal a chrys-t.

Uwchlwythwch eich tystiolaeth yma: www.nosgalan.co.uk

Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 parhaus, penderfynodd Pwyllgor Nos Galan ar ddechrau mis Medi y byddai'r achlysur blynyddol yn cael ei gynnal yn rhithwir, gan roi mis cyfan i gystadleuwyr redeg y pellter gofynnol o 5k ym mis Rhagfyr. Yn anffodus, roedd y cyfyngiadau parhaus ar dyrfaoedd yn golygu bod dim modd croesawu Rhedwr Dirgel, na mwynhau'r cyffro y mae'r achlysur fel arfer yn ei greu yn Aberpennar.

Serch hynny, mae'r achlysur rhithwir nid yn unig wedi helpu i gadw ysbryd Guto Nyth Bran yn fyw, ond hefyd wedi creu galw mawr am leoedd - cafodd 2,600 o leoedd rasio eu bachu o fewn wythnos, sy'n nifer uwch nag erioed o'r blaen!

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Mae'r Flwyddyn Newydd yn nodi diwedd ar achlysur Nos Galan llwyddiannus arall, er ei fod e o natur wahanol iawn.

“Ar ôl blwyddyn anhygoel o anodd i’n cymunedau, roedd Pwyllgor Nos Galan yn benderfynol o sicrhau y gallai’r Rasys gael eu cynnal mewn modd diogel ond hwyliog, a phenderfynon nhw greu achlysur rhithwir.

“Roedd y galw am leoedd yn uwch nag erioed ac roedd y gefnogaeth yn ysgubol - gan amlygu pam yn union yr enillodd Rasys Nos Galan wobr 'Achlysur 5k Gorau'r DU' yn ddiweddar.

“Hoffwn ddiolch unwaith eto i bawb a gymerodd ran a’n noddwyr am barhau i gefnogi’r achlysur, ac rwy’n sicr yn gobeithio gweld y Rasys yn dychwelyd i'w ffurf arferol ar gyfer 2021.”

Wedi ei bostio ar 07/01/21