Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn dechrau gwaith hanfodol i wella goleuadau traffig ar gyffordd yr A4119 â Heol Talbot - ar ôl cwblhau gwaith tebyg i'r ddau fynediad cyfagos i Barc Manwerthu Tonysguboriau mewn blynyddoedd blaenorol.
Bydd y gwaith diweddaraf yn cychwyn Ddydd Llun, 26 Gorffennaf, ac mae'n debygol o achosi oedi traffig yn yr ardal, yn enwedig yn ystod oriau brig. Mae'r gwaith wedi'i drefnu yn ystod gwyliau haf yr ysgol pan fydd disgwyl y bydd llai o draffig ar y ffordd. Rydyn ni'n cynghori defnyddwyr y ffordd i osgoi'r ardal os yw hynny'n bosibl.
Bydd y gwaith yn gwella'r signalau, sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes, gan osod y dechnoleg ddiweddaraf gyda system synhwyro fodern i fonitro amseriad y goleuadau er mwyn lleihau tagfeydd bob dydd. Bydd wyneb newydd yn cael ei osod ar y gyffordd yn rhan o'r gwaith, ynghyd â marciau ffordd newydd. Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat yn gontractwr y cynllun.
Bydd signalau traffig dros dro ar waith dros gyfnod y chwe wythnos o waith, er mwyn rheoli traffig tra bydd gwaith gwella yn cael ei gynnal ar y goleuadau parhaol. Bydd pob un o'r lonydd ar gyfer troi i'r chwith ar y gyffordd yma (Heol Talbot i'r A4119 tua'r de, Heol Talbot i'r A4119 tua'r gogledd a'r A4119 tua'r gogledd i Heol Talbot) hefyd ar gau am hyd at ddau ddiwrnod. Mae hyn wedi'i hamseru fel mai dim ond un rhan o'r ffordd fydd ar gau ar unrhyw adeg.
Bydd arwyddion ar y safle yn rhoi gwybod ymlaen llaw 7 niwrnod cyn cau'r rhannau o'r ffordd, a bydd arwyddion clir yn dangos y llwybrau dargyfeirio lleol. Does dim modd cynnal mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys, ond bydd y contractwr yn sicrhau mynediad i gerddwyr trwy gydol y cynllun.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eu hamynedd wrth i'r gwaith hanfodol yma gael ei gyflawni erbyn diwedd Awst 2021.
Wedi ei bostio ar 23/07/2021