Skip to main content

Tipiwch yn eich sgip eich hun

Flytipping Warning 2

Mae menyw o Ben-coed wedi dysgu'r ffordd galed, ar ôl iddi gael Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 am dipio anghyfreithlon yn sgip rhywun arall.

Wrth ymweld â pherthynas yn Rhondda Cynon Taf, penderfynodd y fenyw gael gwared ar ei hen garped o'r ystafell fyw mewn sgip yn nhŷ rhywun arall yng Nghlos y Toeon Cochion, Brynnau Gwynion.

Yn ddiweddarach, cafodd y cymydog sioc wrth ddod o hyd i eitem fawr yn y sgip yr oedden nhw wedi'i llogi i gael gwared ar eitemau o'u cartref nhw.

O ganlyniad i luniau teledu cylch cyfyng wedi'u darparu gan grŵp Gwarchod y Gymdogaeth lleol Mountain Hare, roedd modd datrys y dirgelwch a dal y person a oedd yn gyfrifol. Cafodd yr wybodaeth bwysig yma'i rhannu â Charfan Gorfodi Gofal y Strydoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedyn er mwyn cymryd camau gweithredu. Cysylltodd y garfan â'r fenyw, gan roi'r Hysbysiad Cosb Benodedig o £400 iddi ar gyfer tipio anghyfreithlon. Gallai methu â thalu arwain at achos llys, cofnod troseddol a dirwy lawer mwy.

Mae gweithred o'r fath yn ein hatgoffa i gyd bod dyletswydd gofal ar breswylwyr i gael gwared ar eu gwastraff mewn ffordd briodol a sicrhau bod eitemau'n cael eu rhoi i gwmni cludo gwastraff cofrestredig a fydd yn cael gwared arnyn nhw'n gyfreithlon. Gallai methu â gwneud hyn gostio llawer mwy i chi na llogi'ch sgip eich hun neu ymweld â'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol!

Dan ddyletswydd gofal preswylwyr yn Adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, rhaid i bobl (preswylwyr) sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei reoli mewn modd sydd ddim yn achosi niwed i iechyd pobl nac yn llygru'r amgylchedd. Mae'n berthnasol i unrhyw un sy'n storio gwastraff wedi'i reoli, p'un a yw'n ddomestig, yn fasnachol neu'n ddiwydiannol.

Yn unol â Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, mae'n drosedd i ddeiliad tŷ beidio â chymryd camau i sicrhau bod ei wastraff yn cael ei waredu'n briodol a'i fod yn cael ei drosglwyddo i gwmni cludo gwastraff cofrestredig yn unig. Gallai unrhyw un sydd ddim yn cymryd y camau yma wynebu dirwy fawr, fel y darganfuodd y fenyw yma!

Fydd achosion o dipio'n anghyfreithlon, taflu sbwriel neu beidio â chodi baw cŵn ddim yn cael eu goddef yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r achos diweddaraf yn dangos y bydd y Cyngor yn defnyddio pob un o'i bwerau, yn ogystal ag unrhyw luniau sydd ar gael gan deledu cylch cyfyng grwpiau cymunedol / Gwarchod y Gymdogaeth, i ddal unigolion sy'n gyfrifol am ddifetha ei drefi a'i gefn gwlad bob un tro.

Yn ogystal â chynnal gwiriadau rheolaidd ledled y Fwrdeistref Sirol ac ymateb i bryderon sy'n dod i law, mae gyda'r Cyngor nifer o gamerâu dirgel, teithiol sy'n cael eu gosod mewn lleoliadau allweddol er mwyn ceisio dal troseddwyr wrthi'n tipio'n anghyfreithlon.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Byddwn i'n annog preswylwyr i sicrhau eu bod nhw'n cael gwared ar y gwastraff yn y ffordd briodol neu y byddan nhw'n cael eu dal ac yn wynebu'r canlyniadau. Mae gyda'r Cyngor nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned lle mae modd mynd â mwyafrif y gwastraff sydd ddim yn gallu mynd i'ch bin arferol, gan gynnwys hen garpedi.

"Mae'r canolfannau yma'n yn sicrhau bod y broses ailgylchu a chael gwared ar wastraff yn haws i breswylwyr gan fod y safleoedd yn darparu ar gyfer eu hanghenion nhw'n benodol. 

“Mae’r cyfleusterau sydd ar gael ledled Rhondda Cynon Taf yn golygu bod yna ddim esgus i beidio â gweithredu’n gyfrifol a chael gwared ar eich gwastraff mewn ffordd ystyriol. O ganolfannau ailgylchu a gwastraff pwrpasol i wasanaethau ailgylchu bwyd a gwastraff sych o'ch stepen drws, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu ar eich cyfer."

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o Dipio'n Anghyfreithlon, Ailgylchu a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu fynd i www.rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 01/07/21