Mae nofiwr o Rondda Cynon Taf, Calum Jarvis, yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo, ac yn un o 27 o athletwyr o Gymru sy'n cynrychioli Tîm Prydain Fawr.
Dyma fydd y Gemau Olympaidd cyntaf ar gyfer 18 o’r 27 cystadleuydd, gan gynnwys Calum.
Bydd y grŵp o athletwyr elitaidd yn anelu at efelychu cyflawniadau'r Cymry yn Rio bum mlynedd yn ôl. Fe ennillon nhw 10 medal, sef y mwyaf erioed - a phedair ohonyn nhw'n fedalau aur.
Bydd Calum, sy'n 29 oed o Ystrad, Rhondda, yn cystadlu yn y ras gyfnewid dull rhydd 4x200 metr i ddynion. Daeth i'r amlwg fel aelod allweddol yn nhimau ras gyfnewid 4x200 metr Prydain dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Maer Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n anfon dymuniadau gorau gan bawb o adref i Calum, a fydd yn cynrychioli Prydain Fawr, Cymru a Rhondda Cynon Taf filoedd o filltiroedd i ffwrdd yn Tokyo.
“Dyma benllanw blynyddoedd o waith caled, ymrwymiad ac ymroddiad i’w gamp. Rydyn ni'n dymuno’n dda iddo ac yn rhannu yn ei falchder o’n cynrychioli ni yn y Gemau Olympaidd.”
Mae Calum, sy'n fab i'w rieni balch, Deborah a John Jarvis, yn hyfforddi yn y Ganolfan Berfformio Genedlaethol yng Nghaerfaddon, a'i hyfforddwyr yw Jol Finck.
Roedd e'n rhan o'r garfan a enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd 2015 a 2017, yn ogystal â Phencampwriaethau Ewropeaidd 2018. Fe gollodd allan ar Gemau Olympaidd Llundain 2012 a Rio 2016, ond mae wedi cystadlu dros Gymru mewn dwy o Gemau'r Gymanwlad - gan ennill medal arian yn y ras 200metr yn Glasgow 2014.
Cyn iddo fynd i'r Gemau Olympaidd, dywedodd Calum Jarvis: “Mae’n wych fy mod i'n cael gwisgo’r cit. Wnes i erioed amau'r peth a dweud y gwir - dim ond angen y cyfle oeddwn i. Doedd y pandemig ddim wedi helpu. Ond rydw i wedi ei gyflawni bellach. "
Wedi ei bostio ar 26/07/2021