Skip to main content

Cabinet i ystyried Cynnig Gwasanaeth Oriau Dydd i bobl ag anabledd dysgu

Yn y cyfarfod ddydd Mawrth 20 Gorffennaf, bydd y Cabinet yn trafod argymhelliad i'r Cyngor ymgysylltu ymhellach â phobl sydd ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u cynhalwyr, aelodau o staff a phartneriaid - i ddweud eu dweud ar ddyfodol gwasanaethau oriau dydd yn Rhondda Cynon Taf. Bydd yr aelodau yn cael y cyfle i gyd-baratoi strategaeth cyfleoedd oriau dydd newydd a fydd yn llywio opsiynau clir ar gyfer buddsoddi, ac yn gwella'r gwasanaethau sydd ar gael i bobl yn y gymuned er mwyn diwallu'u hanghenion yn well.

Cliciwch yma i weld fersiwn Hawdd ei Ddarllen sy'n esbonio'r broses.

Mae adroddiad gan Swyddog yn amlinellu'r angen i Wasanaeth Oriau Dydd y Cyngor wella a symud tuag at fodel blaengar sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r gymuned yn hytrach na'r dull traddodiadol a chyfredol o gynnig 'canolfan ddydd'. Bydd gwell ddewis ar gael i bobl ag anableddau dysgu trwy ddarparu cyfleoedd yn ystod y dydd sy'n berthnasol ac yn ystyrlon i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth ac sy'n eu cynorthwyo i fod yn annibynnol gymaint â phosibl. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi rhai o'r materion allweddol sy'n wynebu'r Cyngor o'r heriau a gyflwynwyd gan bandemig COVID-19, yn ogystal â llifogydd y llynedd.

Mae Gwasanaeth Oriau Dydd y Cyngor yn cynorthwyo tua 355 o oedolion sydd ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u cynhalwyr (gofalwyr), gydag ystod o wahanol anghenion cymorth - o bobl sydd angen ychydig iawn o gymorth i bobl sydd ag anghenion cymhleth. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu mewn tair canolfan dydd fawr yn y Gadlys, Trefforest a Llwynypia, yn ogystal ag 11 canolfan oriau dydd yn y gymuned fach a safleoedd mewn gweithleoedd, sy'n cynnwys rhai sydd wedi'u comisiynu'n allanol.

Yn ystod y pandemig, cynhaliodd y Cyngor ac elusen Cwm Taf People First sawl gweithgaredd ymgysylltu i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau dydd i ddysgu o'u profiadau yn ystod y pandemig ac i ddechrau'r broses o gynnig opsiynau yn y dyfodol.

Er bod yr adborth a dderbyniwyd yn nodi bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu yn barod yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan bobl sydd ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'u cynhalwyr, nododd hefyd yr angen i roi rhagor o bwyslais ar gynorthwyo ac annog pobl i wneud dewisiadau a chymryd cyfleoedd ystyrlon yn y gymuned. Mae'r rhain yn cynnwys cyflogaeth a chynnig cyfleoedd newydd gan hyrwyddo annibyniaeth, cynhwysiant cymdeithasol a deilliannau cadarnhaol.

Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo hyn ac yn cymryd dull cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu ehangach i ddatblygu strategaeth cyfleoedd oriau dydd newydd, bydd strategaeth ddraft yn cael ei chyhoeddi yn y dyfodol, er mwyn ymgynghori â'r cyhoedd yn ffurfiol, cyn i'r Cabinet wneud y penderfyniad terfynol.

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod Canolfan Oriau Dydd Trefforest yn parhau i fod ar gau dros dro oherwydd y difrod yn sgil y llifogydd. Bydd modd i'r Cabinet ystyried gwerthuso'r sefyllfa ymhellach pan fydd Strategaeth Ddrafft am Wasanaethau Oriau Dydd yn cael ei chyflwyno i'r aelodau.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau i Oedolion: “Mae Gwasanaethau Oriau Dydd yn elfen allweddol o'r cymorth mae'r Cyngor yn ei roi i bobl sydd ag anabledd dysgu, gan sicrhau cyfleoedd pwysig i gymryd rhan mewn gweithgareddau, er mwyn gwneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd a gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned. Mae gwaith ac ymrwymiad ein staff ymroddedig yn darparu seibiant hanfodol i gynhalwyr hefyd.

“Rydyn ni'n gwybod bod COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar y bobl sy'n defnyddio Gwasanaethau Oriau Dydd gan nad oedd modd i'r Cyngor, fel awdurdodau lleol eraill, gynnig cymaint o leoedd a oedd ar gael cyn y pandemig. Rydyn ni wedi ceisio, dan amgylchiadau anodd iawn, i weithio gyda phobl, eu teuluoedd a'u cynhalwyr i gadarnhau trefniadau cymorth ac rydyn ni'n falch bod y Cyngor wedi gallu cynnal gwasanaeth wedi'i flaenoriaethu ar gyfer pobl ag anghenion dwys trwy gydol y pandemig. Byddwn ni'n parhau i ailagor rhagor o leoliadau gwasanaeth oriau dydd wrth i gyfyngiadau COVID-19 leddfu.

“Ddydd Iau, bydd y Cabinet yn trafod adroddiad manwl sy'n crynhoi cynnig cyfredol y Cyngor, gan dynnu sylw at y ddeddfwriaeth amrywiol sy'n sbarduno newid yn y maes yma. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn glir bod gofyn i'r Cyngor foderneiddio a thrawsnewid ei ddarpariaeth bresennol, er mwyn addasu i anghenion pobl a'u disgwyliadau newidiol o wasanaethau modern.

“Mae’n amlwg o’r adborth a gafwyd eisoes bod yr ystod o opsiynau yn y Gwasanaeth yn gyfyngedig ar hyn o bryd ac yn sgil y pandemig a'r llifogydd, mae'n amlwg mai nawr yw’r amser iawn i ail-ystyried ac ail-werthuso ein cynnig. Er bod pobl a'u teuluoedd a'u cynhalwyr yn gwerthfawrogi'r Gwasanaeth yn fawr, mae'n bwysig ein bod ni'n ystyried moderneiddio'r ddarpariaeth nawr er budd defnyddwyr y dyfodol.

“Yr argymhelliad i’r Cabinet yw parhau â’r broses ymgysylltu trwy gynnal cyfres o achlysuron dros y misoedd nesaf. Byddai hyn yn ein galluogi i gyflwyno opsiynau clir ar gyfer buddsoddi a gwneud newidiadau ar gyfer y dyfodol, gan adlewyrchu barn y bobl. Bydd yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn y dyfodol yn ymateb i anghenion unigolyn, yn hytrach na bod yn rhaid i unigolyn ddod i arfer â'r gwasanaeth sydd ar gael.

“Bydd y Cabinet hefyd yn ystyried yr argymhelliad i gadw Canolfan Oriau Dydd Trefforest ar gau am y tro, fel bod modd gwerthuso opsiynau ar gyfer ei dyfodol yng nghyd-destun cynigion arfaethedig y Gwasanaethau Dydd ehangach."

Wedi ei bostio ar 16/07/2021