Skip to main content

PUM cerbyd oedd wedi'u gadael wedi'u symud ymaith yng Nghwm-bach

Mae carfan gorfodi'r Cyngor wedi cymryd camau fel bydd modd i gyfleuster Parcio a Theithio Cwm-bach gael ei ddefnyddio unwaith eto, a hynny'n dilyn nifer o gwynion gan drigolion a Thrafnidiaeth Cymru.

Mae i'r cyfleuster (sy'n eiddo i'r Cyngor) 13 o fannau parcio ar gyfer cwsmeriaid sy'n parcio a theithio. Yn dilyn nifer o gwynion bod y maes parcio bob amser yn llawn o'r un cerbydau, cymerodd y Cyngor gamau i ymchwilio.

Yn y gorffennol, roedd y maes parcio'n cael ei ddefnyddio'n aml gan gymudwyr lleol a phobl oedd am fynd i siopa ac roedd hynny'n helpu i leihau tagfeydd yn y dref.

Ar ôl i'r garfan Gofal y Strydoedd a'r garfan materion Gorfodi Parcio Sifil gynnal ymchwiliad ar y cyd, darganfyddon nhw geir nad oedden nhw wedi symud ers sawl mis yn 9 o’r 13 man parcio.

O dan adran 2a o Ddeddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978, rhoddodd y carfanau hysbysiadau i'r 9 car a oedd yn gofyn bod y perchnogion yn symud y cerbydau cyn pen 7 diwrnod a thalu Hysbysiad Cosb Benodedig o £200. Byddai methu â chydymffurfio â'r hysbysiad yma'n arwain at gymryd camau pellach, hynny yw, symud y ceir ymaith a'u sgrapio o bosibl. Y perchnogion mae modd eu holrhain a fyddai'n ysgwyddo'r costau cysylltiedig trwy'r llysoedd pe bai angen. 

Ar ôl i'r hysbysiadau gael eu rhoi, cafodd pedwar car eu symud gan eu perchnogion a bydd rhaid iddyn nhw dalu Hysbysiad Cosb Benodedig o £200 fesul cerbyd.

Mae'r pum car sy'n weddill bellach wedi cael eu symud ymaith gan garfan gorfodi ar y cyd y Cyngor ac yn aros i'w perchnogion eu casglu – neu byddan nhw'n cael eu sgrapio a bydd yr ymchwiliad yn parhau i ddod o hyd i'r perchnogion ac adennill y costau perthnasol. Bydd methu â thalu’r gosb benodedig yn arwain at atgyfeirio’r mater i’r llysoedd a gallai hynny arwain at ddirwy o hyd at £2,500 a neu 3 mis o garchar. 

Mae'r neges yn glir – bydd carfanau gorfodi'r Cyngor yn cymryd y camau sydd eu hangen i sicrhau nad lle ar gyfer gadael baw cŵn, taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon na cheir wedi'u gadael mo'n Bwrdeistref Sirol. Mae trigolion RhCT yn haeddu byw mewn ardal sy'n rhydd rhag yr eitemau hyll yma sydd yn aml yn beryglus. Bydd unrhyw un sy'n cael ei ddarganfod yn difetha Rhondda Cynon Taf yn wynebu dirwy neu gamau cyfreithiol pan fydd angen. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Mae'r achos diweddaraf yma unwaith eto yn dangos gwaith tîm gwych gan ein carfanau gorfodi, sydd bellach yn golygu y caiff pobl y gymuned leol ddefnyddio'r cyfleuster unwaith eto.

“Mae'r garfan yn parhau i weithio'n ddiflino i sicrhau bod ein Bwrdeistref Sirol yn ardal lân, werdd i ni i gyd fyw a gweithio ynddi ac ymweld â hi. Unwaith eto, y lleiafrif sy'n difetha priffyrdd RhCT. Bydd y garfan yn parhau â'i gwaith gwych a dylai'r achos diweddaraf yma wneud i'r rheiny sydd o'r farn na chân nhw eu dal feddwl ddwywaith!"

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â rhoi gwybod am gerbydau sydd wedi'u gadael, tipio anghyfreithlon, baw cŵn a thaflu sbwriel yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/glanhaustrydoedd    
Wedi ei bostio ar 07/07/21