Skip to main content

Cyfarfod 'hybrid' cyntaf y Cyngor wedi'i gynnal gan ddefnyddio system weddarlledu

chambers-1 - Copy

Cynhaliodd y Cyngor ei gyfarfod gweddarlledu 'hybrid' cyntaf. Mynychodd Aelodau'r Cabinet a Swyddogion y cyfarfod wyneb yn wyneb yn Siambr y Cyngor, neu o bell trwy blatfform Zoom. Dyma'r cam cyntaf tuag at ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor yn fyw yn y dyfodol.

Dros y 14 mis diwethaf, yn sgil y pandemig, mae'r Cyngor wedi bod yn cynnal cyfarfodydd y Cyngor a'r Pwyllgorau o bell.

Cyfarfod y Cabinet ar Ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf oedd y Pwyllgor cyntaf i gynnal cyfarfod gan ddefnyddio'r system newydd, sy'n caniatáu i Aelodau, Swyddogion ac aelodau'r cyhoedd gymryd rhan ym musnes y Cyngor mewn ffordd fwy hygyrch a chyfleus. Dros y 14 mis diwethaf mae'r Cyngor wedi sicrhau bod recordiadau o gyfarfodydd y Cyngor ar gael i aelodau'r cyhoedd gael mynediad atyn nhw, ac mae'r dechnoleg newydd yn caniatáu i hyn ddigwydd yn gyflymach.

Bydd y dechnoleg hefyd yn caniatáu i gyfarfodydd gael eu darlledu'n fyw ar adeg eu cynnal, a fydd yn cael ei ddefnyddio mewn cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn sicrhau didwylledd a thryloywder pellach ym mhrosesau gwneud penderfyniadau'r Cyngor.

Mae'r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn gosod dyletswydd ar Gynghorau i roi trefniadau ar waith ar gyfer darlledu cyfarfodydd y Cyngor, er mwyn i aelodau o'r cyhoedd nad oes modd iddyn nhw fynychu'r cyfarfodydd fedru gweld a chlywed y trafodaethau.

Er mwyn gwella hygyrchedd a chymorth, mae gwelliannau o ran cyfranogiad y cyhoedd wedi'u rhoi ar waith yn Siambr y Cyngor er mwyn caniatáu i gyfarfodydd gael eu darlledu'n yn fyw yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Ddydd Mawrth oedd y cyfle cyntaf i Uned Busnes y Cyngor weddarlledu cyfarfod 'hybrid' o'r Cabinet. Gan fod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn gwella, mae rheoliadau Coronafeirws yn cael eu llacio ac mae modd i nifer gyfyngedig o bobl fynd i mewn i Siambr y Cyngor.

“Mae'r system yn ddarpariaeth hyblyg sydd wedi'i gwella'n fawr. Bydd yn cynyddu hygyrchedd i'r rhai sy'n rhan uniongyrchol o gyfarfodydd, ac yn cynyddu ymgysylltiad i aelodau'r cyhoedd sy'n dymuno dilyn trafodaethau o bell. Bwriad y Cyngor yw symud tuag at ddarlledu ei gyfarfodydd ffurfiol yn fyw o fis Medi. Mae hyn yn bosibl am y tro cyntaf o ganlyniad i'r dechnoleg newydd yma.

“Mae'r garreg filltir yma'n cyflawni ymrwymiad a wnaed gan y Cyngor yn 2017 i wella cyfranogiad y cyhoedd trwy ddarlledu cyfarfodydd. Bydd y gallu i gymryd rhan mewn trafodaethau ffurfiol yn rhithwir yn cefnogi ein huchelgais i wella amrywiaeth mewn democratiaeth.

“Fel y cytunwyd yn y cyfarfod llawn o'r Cyngor ym mis Mehefin 2021, rydyn ni bellach wedi cychwyn nifer o gyfarfodydd prawf i brofi sut mae'r system yn gweithio - gan flaenoriaethu'r Cabinet a Gwasanaethau Democrataidd i ddechrau, yn ogystal â’r Pwyllgorau Cynllunio a Datblygu a Throsolwg a Chraffu.

“Yr adborth cychwynnol a ddaeth i law yn dilyn cyfarfod ddydd Mawrth yw bod y dechnoleg newydd wedi gweithio’n dda, gan ganiatáu i Aelodau'r Cabinet a’r Swyddogion hynny yn y Siambr, yn ogystal â’r rhai a ymunodd o bell, gymryd rhan yn llawn yn nadleuon ac ystyriaethau Busnes y Cyngor. ”

Cafodd y system weddarlledu newydd ei hariannu yn rhan o Gyllideb 2020/21 y Cyngor. Er mwyn gwella'r offer, cafodd tri chais cyllid llwyddiannus eu sicrhau gan Lywodraeth Cymru trwy ei chynllun ariannu Democratiaeth Ddigidol, a gafodd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ym mis Rhagfyr 2020.

Roedd y Cyngor eisoes yn archwilio'r opsiwn o gynnal cyfarfodydd 'hybrid' o ganlyniad i ddeddfau cadw pellter cymdeithasol parhaus sy'n cyfyngu ar nifer y bobl sy'n gallu mynd i Siambr y Cyngor yn gorfforol ar unrhyw un adeg - yn ogystal ag awydd i allu parhau i gynnig yr opsiwn i fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd o bell. Roedd nifer o Gynghorwyr, Swyddogion ac aelodau o'r cyhoedd a gymerodd ran yng nghyfarfodydd y Cyngor o'r farn bod y cyfleuster yma'n hynod fuddiol yn ystod y pandemig.

Mae gan y system weddarlledu newydd nifer o fanteision pellach, a hynny ar ben y gallu i ganiatáu cyfarfodydd 'hybrid' a darlledu byw. Ymhlith y manteision mae dangos yn glir ein hatebolrwydd a thryloywder, gan annog ymgysylltiad a thrafodaeth trwy gynyddu gallu'r cyhoedd i fynd i gyfarfodydd, a chodi proffil y trafodaethau sydd y tu ôl i benderfyniadau'r Cyngor a'i bwyllgorau.

I wylio cyfarfod y Cabinet, dilynwch y ddolen yma.

Wedi ei bostio ar 26/07/21