Skip to main content

Parhau i gau'r ffordd ar ddydd Sul yn sgil dymchwel Neuadd Bingo Pontypridd

Bingo Hall 1

DIWEDDARIAD: 21/07/21 - Cofiwch na fydd angen i gontractwr y Cyngor ar gyfer gwaith dymchwel Neuadd Bingo Pontypridd gau'r ffordd trwy ganol y dref ddydd Sul yma (25/07/21) fel y cafodd ei hysbysebu’n flaenorol. Mae hyn o ganlyniad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud. 

 

Mae contractwr y Cyngor sy'n dymchwel hen Neuadd Bingo a Chlwb Nos Angharad ym Mhontypridd angen parhau â’r gwaith ar ddau ddydd Sul arall. Mae hyn yn golygu cau'r ffordd yng nghanol y dref am ddau benwythnos arall.

Ar ôl dechrau'r gwaith dymchwel ym mis Mawrth, mae'r contractwr Walters Ltd yn parhau i wneud cynnydd sylweddol ar y safle amlwg. Bydd y gwaith yn galluogi'r Cyngor i ailddatblygu'r ardal ar gyfer y dyfodol, yn yr un modd ag y mae Llys Cadwyn wedi trawsnewid hen safle Cwm Taf.

Er mwyn cynnal y gwaith yn ddiogel, bu’n rhaid cau'r ffordd yng nghanol Pontypridd bob dydd Sul am dair wythnos ym mis Mehefin. Bydd y ffordd yn cau unwaith eto ar 18 Gorffennaf a 25 Gorffennaf, gyda'r gwaith yn dechrau am 7.30am.

Bydd busnesau Canol Tref Pontypridd AR AGOR yn ôl yr arfer a bydd mynediad i gerddwyr yn parhau.

Dyma'r ffyrdd bydd rhaid eu cau: Stryd y Taf (o'i chyffordd ogleddol â Stryd y Farchnad hyd at y Stryd Fawr), Stryd y Felin (rhwng rhif 1 ac 11a), y Stryd Fawr (yn gyfan gwbl) a Stryd y Farchnad (rhwng Stryd yr Eglwys a'i chyffordd ddeheuol â Stryd y Taf). Bydd arwyddion yn dargyfeirio gyrwyr drwy Stryd Traws y Nant, Heol Gelliwastad, Stryd Catrin a Heol Sardis.

Bydd mynediad i gerbydau i ganol y dref hyd at gyffordd ogleddol Stryd y Taf a Stryd y Farchnad. O’r fan honno, bydd modd i yrwyr deithio ar hyd Stryd y Farchnad a Stryd yr Eglwys, ond fydd dim modd iddyn nhw barhau ar Stryd y Taf. Noder: bydd mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys yn parhau. Fydd bysiau ddim yn cael eu heffeithio gan nad oes yna wasanaethau'n rhedeg trwy ganol y dref ar ddydd Sul.

Bydd y broses o ddymchwel yr adeiladau wedi dod i ben erbyn diwedd haf 2021. Derbyniodd y Cyngor arian gan Lywodraeth Cymru i brynu’r safle, ac mae hefyd wedi derbyn cyllid pellach gan y fenter Trawsnewid Trefi ar gyfer y gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Diolch unwaith eto i drigolion, busnesau lleol ac ymwelwyr Canol y Dref am eu cydweithrediad wrth i'r broses ddymchwel barhau.

Wedi ei bostio ar 13/07/2021