Skip to main content

Gwaith gwella cwteri ar yr A4059 rhwng Abercynon ac Aberpennar

A4059 Storm Dennis

Storm Dennis, Chwefror 2020

Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn gwneud gwaith sylweddol i wella tair cwter draenio ar yr A4059 rhwng Aberpennar ac Abercynon. Bydd hyn yn rhoi mwy o wytnwch mewn man isel â hanes o lifogydd, a effeithiwyd yn ddiweddar gan Storm Dennis.

Mae'r cynllun yn cynnwys newid y gorchuddion cwteri presennol yn unedau mwy a gosod chwe siambr cwteri 600mm newydd a fydd yn cael eu gosod ar ddraen cludo newydd. Bydd y draen yn mynd o dan y ffordd gerbydau gan ddefnyddio tyllau archwilio newydd ar naill ochr y ffordd. Bydd dŵr glaw yn cael ei gludo i Afon Cynon, ac felly mae angen adeiladu cefnfur a llecyn concrit newydd.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan y Cyngor o Ddydd Llun, 2 Awst, a bydd yn para oddeutu pythefnos yn ystod y gwyliau'r ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Bydd cerbydau tua'r de yn cael eu dargyfeirio ar hyd y gilfan ger y brif ffordd er mwyn cynnal llif y traffig dwy ffordd ar bob adeg. Felly fydd y gilfan ddim ar gael i bobl barcio trwy gydol y cynllun.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid llawn o Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal y gwaith gwella pwysig yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Bydd gwaith gwella draenio sylweddol yn cychwyn ar ddechrau mis Awst ar yr A4059 rhwng Aberpennar ac Abercynon - gan anelu at ddarparu mwy o wytnwch yn y lleoliad yma yn ystod cyfnodau o law trwm. Rwy'n falch bod y Cyngor wedi sicrhau cyllid llawn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith.

“Bydd y Cyngor yn gosod cwteri mawr mewn man isel sydd wedi’i effeithio gan lifogydd yn y gorffennol - gan gynnwys yn ystod tywydd digynsail Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, pan orlifodd cylfat mynydd. Roedd y ffordd ar gau am ddau ddiwrnod er mwyn aros i'r ardal ddraenio. Mae'r gwaith sydd ar ddod yn bwriadu lliniaru'r risg o lifogydd ar y ffordd. Os bydd yn gorlifo, bydd y gwaith yn ein caniatáu ni i ailagor y prif lwybr yma trwy Gwm Cynon yn gyflymach.

“Dyma'r cynllun Ffyrdd Cydnerth diweddaraf sy'n darparu gwelliannau draenio wedi'u targedu yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon. Yn y lle cyntaf, derbyniodd y Cyngor gyllid gwerth £4.9miliwn i wella 16 lleoliad yn 2020/21, ac yna fe sicrhaodd gyllid ychwanegol gwerth £2.75miliwn ym mis Mawrth 2021 i symud ymlaen ymhellach â gwaith mewn 19 lleoliad a nodwyd. Hyd yn hyn, mae cynlluniau nodedig wedi'u cyflawni i Ffordd Lliniaru Porth yn Ynys-hir yr haf diwethaf, yr A4059 o Ben-y-waun i Drecynon ar ddechrau'r flwyddyn yma, a'r gwaith ar yr A4059 Ffordd Osgoi Aberdâr sy'n parhau.

“Mae'r gwaith sydd ar ddod ar yr A4059 rhwng Abercynon ac Aberpennar wedi'i drefnu ar gyfer gwyliau haf yr ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal dros bythefnos, gan gynnal llif y traffig i'r ddau gyfeiriad gan ddefnyddio'r gilfan, gynt y brif ffordd, ar gyfer traffig tua'r de. Diolch ymlaen llaw i ddefnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad yn ystod y cynllun.”

Wedi ei bostio ar 16/07/2021