Skip to main content

Gwelliannau ym Mharc Coffa Ynysangharad

Ynyangharad Park grid

Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau'r holl waith i osod goleuadau stryd newydd a gwella'r llwybr troed ym Mharc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd.

Cafodd y gwaith ei gynnal trwy gydol 2021 i gyflawni'r buddsoddiad o £1.199 miliwn i barc poblogaidd Pontypridd gan ddefnyddio £1.185 miliwn gan Lywodraeth Cymru trwy gyllid Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a chyfraniad o £14,000 gan y Cyngor.

Mae'r pecyn cyllido wedi galluogi'r Cyngor i adnewyddu llwybrau'r parc. Mae hefyd wedi cyfrannu at osod goleuadau stryd LED wedi'u huwchraddio gyda cholofnau golau stryd newydd er mwyn darparu amgylchedd diogel i bawb sy'n defnyddio'r parc.

Yn ogystal, mae cyfleuster newid newydd wedi'i ddarparu yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Mae'r cyfleuster newydd yn cynnwys lle i newid a thoiledau ar gyfer pobl ag anableddau.

Mae cyllid Parc Rhanbarthol y Cymoedd hefyd yn cynnwys cynnal Cynllun Gwarcheidwaid yn y parc, ac mae'n un o 12 lleoliad rhanbarthol ar gyfer gweithgareddau natur a chyfleoedd ysbrydoledig i gysylltu â natur. Bydd Groundwork Cymru yn cyflwyno'r cynllun ac yn croesawu pobl o bob oed a demograffeg ar gyfer gweithgareddau megis creu gerddi cymunedol, prosiectau tyfu a theithiau cerdded llesol.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Rwy’n falch iawn bod y cynllun sylweddol yma gwerth £1.199 miliwn sydd wedi'i ariannu'n bennaf gan gynllun Parc Rhanbarthol y Cymoedd bellach wedi adnewyddu rhannau helaeth o Barc Coffa Ynysangharad. Mae'r parc yn ofod hyfryd y mae trigolion Pontypridd ac ymwelwyr sy'n dod o bell ac agos yn ei fwynhau. Mae'r gwelliannau i'r goleuadau stryd a llwybrau troed wedi'u cyflawni ar draws y parc.

“Rydyn ni hefyd yn falch iawn bod Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, lleoliad sy'n croesawu pawb yn y gymuned, wedi cael cyfleuster newid newydd o ganlyniad i arian y cynllun Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Heb os, mae hyn wedi cynyddu hygyrchedd y lleoliad i'r holl ddefnyddwyr.

“Mae buddsoddiad parhaus pellach ar y gweill ar gyfer Parc Coffa Ynysangharad drwy gyllid sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Bydd y cyllid yma'n cael ei ddefnyddio i adnewyddu rhai o nodweddion rhestredig Gradd 2 gwreiddiol y parc, er enghraifft adnewyddu'r safle seindorf a'r ardd isel. Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau yn y parc erbyn mis Hydref eleni.

“Bydd yr arian hefyd yn ei gwneud hi'n bosibl i agor canolfan newydd, Canolfan Calon Taf. Bydd yn cael ei redeg gan adran Addysg i Oedolion y Cyngor a bydd yn ganolfan addysg yn y gymuned i ddatblygu cynulleidfaoedd a darparu cyfleoedd pwysig ar gyfer cyfranogi, dysgu ac ymgysylltu yn y gymuned.”

Wedi ei bostio ar 19/07/21