Cyn hir, bydd gwaith yn dechrau ger yr A4061, Heol yr Orsaf a Llyfrgell Treorci er mwyn gwneud y droedffordd ar y brif ffordd yn fwy llydan, cael gwared ar y bloc toiledau gwag a sicrhau bod nifer o strwythurau'r priffyrdd yn addas at y diben yn y dyfodol.
Mae gwaith cychwynnol wedi mynd rhagddo yn y fan yma dros yr wythnosau diwethaf, a hynny er mwyn paratoi ar gyfer contractwr y Cyngor, sef cwmni Walters Ltd, i ddechrau prif elfen y gwaith o ddydd Mercher, 14 Gorffennaf . Bydd y bloc toiledau gwag gyferbyn â Llyfrgell Treorci, wal yr afon sy'n cynnal y llain las, y fraich sy'n cynnal y droedffordd ar y briffordd a'r canllaw concrit ynghlwm i gyd yn cael eu dymchwel.
Bydd hyn yn golygu y bydd modd ymestyn y droedffordd ar Bont y Stiwt, ynghyd â rhan o'r droedffordd wrth ochr yr A4061 uwchben Nant Cwm-parc, a'u gwneud yn fwy llydan er mwyn creu llwybr teithio llesol. Bydd trawstiau dur y bont hefyd yn cael eu cryfhau, a bydd cored carreg bloc i lawr yr afon o'r bont yn cael ei gwella er mwyn helpu â bioamrywiaeth y nant.
Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ganol yr hydref a dim ond am ychydig o amser y bydd unrhyw darfu ar draffig. Rydyn ni'n rhagweld y bydd raid rheoli traffig ar yr A4061 yn ystod mis Hydref 2021. Byddwn ni'n rhannu manylion pellach maes o law.
Fydd dim modd defnyddio maes parcio'r llyfrgell trwy gydol y gwaith. Yn ystod oriau gwaith penodol, bydd arwyddion yn cyfeirio defnyddwyr y ffordd i faes parcio arall gyferbyn â siop y Co-op ble mae Marchnad Treorci'n cael ei chynnal.
Pan ddaw'r gwaith i ben, bydd y droedffordd ger y llyfrgell yn cael ei hadfer, yn ogystal â'r ffordd sy'n rhoi mynediad i'r maes parcio.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae contractwr penodedig y Cyngor wedi cychwyn ar nifer o ddarnau o waith sylweddol yn Nhreorci, gan gynnwys dymchwel y bloc toiledau gwag, gwella'r isadeiledd ac yn y pen draw, sicrhau bod Pont y Stiwt a'r cwrs dŵr sy'n rhedeg gerllaw yn addas at y diben yn y dyfodol.
“Bydd y gwaith hefyd yn gwneud y droedffordd wrth ymyl yr A4061 yn fwy llydan, gan greu llwybr teithio llesol i bawb ei rannu. Mae'r ardal yma'n brysur ac yn fach, ac mae'n cynnwys Theatr y Parc a'r Dâr a Llyfrgell Treorci, ynghyd ag archfarchnad, gorsaf reilffordd ac ysgol gyfun. Mae'r Cyngor yn parhau i ymgorffori cynlluniau teithio llesol yn rhan o'i waith gwella'r priffyrdd, a bydd modd i drigolion gymryd rhan eto yng ngham nesaf ein hymgynghoriad ar deithio llesol yn nes ymlaen eleni.
“Dyma ddiolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad wrth i ni gynnal y gwaith yma dros y misoedd nesaf. Gan y bydd maes parcio'r llyfrgell ar gau, byddwn ni'n darparu mannau parcio eraill yn agos iddi. Bydd hefyd angen rhywfaint o reoli traffig wrth i'r gwaith ddod at ei derfyn, a hynny er mwyn darparu ar gyfer y gwaith ar Heol yr Orsaf. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i fwrw ymlaen gyda'r gwaith gan darfu cyn lleied â phosibl."
Wedi ei bostio ar 12/07/21