Skip to main content

Perchennog Cŵn Anghyfrifol yn cael dirwy o dros £350

Mae perchennog cŵn anghyfrifol wedi cael dirwy o dros £350 am fethu â glanhau ar ôl ei gŵn yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd dyn o Bontypridd wedi mynd â’i dri chi am dro mewn ardal gyfyngedig ym Mharc Dyffryn Taf, Trefforest, lle gwelodd rhywun gi yn baeddu a chododd y dyn mo'r baw.

Ym mis Hydref 2017 roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, pan roddodd Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith. Gan fod y gorchymyn wedi bod mor llwyddiannus, cafodd ei ymestyn ym mis Tachwedd 2020 i barhau i fynd i’r afael â’r mater annymunol yma.

Mae'r mesurau'n cynnwys y canlynol:

  • RHAID i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
  • RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ar bob adeg.
  • Rhaid i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd swyddog awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
  • Mae cŵn wedi eu GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae i blant, a chae chwaraeon sydd wedi'i farcio sy'n cael eu cadw a'u cynnal gan y Cyngor.
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg yn yr holl fynwentydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor.

Un o'r pryderon allweddol yr aeth y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i'r afael ag ef oedd baw cŵn ar gaeau chwaraeon, sydd nid yn unig yn ffiaidd ac yn anghyfleus, ond hefyd yn gallu achosi canlyniadau iechyd sy'n newid bywyd.

Methodd y dyn o Bontypridd ag ymgysylltu â Swyddogion Gorfodi’r Cyngor a chafodd y mater ei gyfeirio i Lys Ynadon Merthyr Tudful, lle cafwyd ef yn euog yn ei absenoldeb a gorchymyn i dalu cyfanswm o £374, sef Dirwy £220, Costau £120, Gordal Dioddefwr £34.

Mae'r neges gan y Cyngor yn glir - os ydy perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus gan Swyddog Gorfodi, bydd y Cyngor yn gweithredu ac yn dyrannu Hysbysiad Cosb Benodedig (FPN) gwerth £100. 

Mae'r dyn wedi sywleddoli os nad yw'r hysbysiad yn cael ei dalu, bydd modd i hyn arwain at achos llys a chael dirwy llawer yn fwy. Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar sianeli'r Cyfryngau Cymdeithasol hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth:

“Mae’r euogfarn ddiweddaraf yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â materion baeddu cŵn - os ydy perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus byddwn ni'n gweithredu ac yn rhoi dirwy o £100. Os byddwch chi'n methu â thalu'r ddirwy yma, mae'n bosibl y byddwch chi'n wynebu achos llys ac yn derbyn dirwy mwy yn ogystal â chofnod troseddol, fel y mae'r perchnogion cŵn anghyfrifol yma newydd ddysgu.

“Cafodd rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus eu cyflwyno ar ôl i drigolion ddweud wrth y Cyngor eu bod am weld camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol. Roedd hyn yn cynnwys meysydd fel ardaloedd chwarae sy'n cael eu defnyddio gan blant a lleiniau wedi’u marcio lle mae trigolion yn mwynhau chwarae chwaraeon.

“Byddai’n well gan y Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon - byddai wedi bod modd osgoi dirwyon pe bai pobl wedi ymddwyn yn gyfrifol ac wedi dilyn y rheolau.”

Yn ystod y tair wythnos ddiwethaf mae'r Cyngor wedi rhoi bron i 20 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rhai sydd wedi'u dal yn torri'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, neu'n ymgymryd â thipio anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r holl arian sy'n cael ei dderbyn yn sgil yr hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen er mwyn gwella ein Bwrdeistref Sirol ac ymateb i'r materion sy'n flaenoriaeth i'n trigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baeddu cŵn yn Rhondda Cynon Taf ymwelwch www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf - yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx

Wedi ei bostio ar 06/07/21