Skip to main content

Prydles wedi'i chytuno ar gyfer Uned Fusnes Coed-elái

Coed Ely unit tenants

Rhys ac Andy Mallows

Gall y Cyngor gadarnhau bod y brydles bellach wedi'i llofnodi ar gyfer meddiannu'r uned fusnes fodern newydd ym Mharc Coed-elái, a'r tenant cyntaf fydd cwmni distyllu teulu'r Mallows.

Mae safle ehangach Parc Coed-elái wedi cael ei wireddu diolch i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, gan ddarparu hyd at 332,000 troedfedd sgwâr o le cyflogaeth. Cafodd distyllfa'r teulu yma ei sefydlu yn 2018 ac erbyn hyn mae'n cael ei redeg gan Andy a Rhys Mallows yma yn ne Cymru. Mae gan y ddau gyfoeth o wybodaeth ac angerdd aruthrol am gynhyrchu gwirodydd megis jin, rỳm, fodca a bwrbon.

Yn ddiweddar, mae’r cyd-gyfarwyddwr Rhys Mallows wedi cael ei gydnabod gyda Medal Ymerodraeth Prydain (BEM) yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer cynhyrchu diheintydd dwylo ar raddfa fawr yn ystod pandemig COVID-19, gan ddarparu cyflenwadau hanfodol i ysgolion a staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.

MeddaiAndy Mallows, cyd-gyfarwyddwr y Ddistyllfa: “Rwy’n falch iawn mai Distyllfa Teulu'r Mallows sydd wedi’i chadarnhau fel tenant yr unedau busnes modern newydd sbon ym Mharc Coed-elái. Dyma bennod newydd gyffrous i’n busnes distyllu a photelu.

“Bydd ein cartref newydd ym Mharc Coed-elái yn caniatáu i ni ehangu'r busnes ymhellach. Mae hyn yn dod â blwyddyn wych i ben i Mallows gyda chydnabyddiaeth Rhys am ei waith gwych yn ystod y pandemig, lansiad dwy eitem newydd ac unwaith eto, rydyn ni ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnesau Newydd Cymru 2021.

“Hoffwn estyn fy niolch i Gyngor RhCT a Llywodraeth Cymru ac edrychaf ymlaen at wneud Parc Coed-elái yn gartref inni.”

Ar 15 Ionawr, 2021, cafodd yr uned fusnes 30,000 troedfedd sgwâr, sydd hefyd yn cynnwys swyddfeydd, ei throsglwyddo yn swyddogol i'r Cyngor gan John Weaver Contractors ar ôl i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Tachwedd 2019 a pharhau trwy gydol y pandemig.

Mae'r uned newydd yn sefyll ar ran o hen safle pwll glo ym Mharc Coed-elái, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru ac wedi'i glustnodi ar gyfer ei ddatblygu yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae'r uned yn deillio o brosiect cyd-fenter gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor. Sicrhaodd y prosiect £2.58 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae'r adeilad, sef 3 Parc Coed-elái (CF39 8FR), yn cyflawni sgôr gadarnhaol am ei ddefnydd isel o garbon o dan feini prawf asesu sefydledig BREEAM.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Rwy’n falch iawn o weld yr uned fusnes fodern newydd ym Mharc Coed-elái ar hen safle Glofa Coed-elái, yn croesawu ei feddiannydd newydd sef Distyllfa Teulu'r Mallows.

“Dyma fusnes teuluol cyffrous ac arloesol sydd ag angerdd gwirioneddol am wirodydd ac maen nhw yn sicr yn rhoi De Cymru yn gadarn ar y map o fewn y sector hwnnw gyda’i ystod o gynhyrchion a gwasanaethau crefftwrol.

“Ar ôl cwblhau’r uned, derbyniodd y Cyngor nifer o ddatganiadau o ddiddordeb sy'n amlygu'r awydd am y math yma o lety busnes mewn ardaloedd strategol allweddol yn y Sir – gyda’r lleoliad penodol yma'n cael ei wasanaethu gan lwybr prifwythiennol yr A4119 gerllaw, y mae'r Cyngor wrthi'n ei ddeuoli ar hyn y bryd yn unol â'i ymrwymiad.

“Mae'r uned fusnes, wrth gwrs, yn rhan o safle ehangach Parc Coed-elái sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru – a llwyddodd y Cyngor i sicrhau mwy na £3.25 miliwn o gyllid allanol tuag at ei gyflawni.”

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Rwy’n falch iawn bod Distyllfa Teulu'r Mallows wedi penderfynu gweithredu ei fusnes o’r uned newydd ym Mharc Coed-elái. Mae hon yn garreg filltir enfawr i'r prosiect.

“Bydd cyfleuster potelu Distyllfa Teulu'r Mallows yn safle gweithgynhyrchu blaenllaw yn y DU, gan ddefnyddio egwyddorion blaengar y bydd modd eu rhannu ar draws y rhwydwaith yng Nghymru. Bydd y cyfleuster hefyd yn ychwanegu cydran hanfodol i gadwyn gyflenwi diodydd Cymru trwy ganiatáu i frandiau Cymru gael eu cynhyrchu, eu potelu a'u pecynnu yma yng Nghymru.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru sy'n fwy ffyniannus, a chreu lle diogel i fyw a gweithio ynddo. Mae Parc Coed-elái eisoes yn gwneud hynny'n union ac yntau'n darparu safleoedd ac adeiladau parod ar gyfer buddsoddi sy'n creu cyfleoedd economaidd gwerthfawr i'r cymunedau cyfagos ac sy'n helpu i ddiogelu'r economi ranbarthol yn y dyfodol mewn termau real iawn."

Ychwanegodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Rwy’n falch o weld y bydd Distyllfa Teulu'r Mallows yn cael ei sefydlu ar safle Parc Coed-elái. Mae hi bob amser yn gadarnhaol gweld buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn dwyn ffrwyth. Mae'r safle yma'n lleoliad rhagorol i'r busnes a fydd yn rhoi'r cyfle iddo dyfu yn y dyfodol. Rwy'n dymuno'r gorau i'r cyfarwyddwyr wrth iddyn nhw ddechrau ar y fenter newydd yma."

Wedi ei bostio ar 06/07/2021