Skip to main content

Datganiad am y Lido - Y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor RhCT

Rwy’n hynod siomedig gyda phroblemau parhaus system docynnau Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, ac yn rhannu rhwystredigaethau’r cyhoedd gyda’r system yn methu o hyd neu’n rhedeg yn araf. 

Bore 'ma, roedd cyfanswm o 1,120 o docynnau ychwanegol ar gael ar gyfer Lido Ponty, gan gynnwys 160 o docynnau bob dydd dros y 7 diwrnod nesaf, ynghyd â'r 700 arferol ar gyfer dydd Iau nesaf. Roedd 1,800 o docynnau ar gael am 7.30am.

Unwaith eto, fe fethodd y system bore 'ma cyn rhedeg yn araf iawn. Mae'n gwbl annerbyniol bod y problemau gyda'r system docynnau yn parhau, ac er ein bod yn defnyddio cwmni cenedlaethol cydnabyddedig i redeg y system docynnau, mae Cyngor RhCT unwaith eto yn gorfod trafod ein pryderon gyda nhw a cheisio gweithredu ar frys i ddatrys y problemau. 

Dros y dyddiau diwethaf, er gwaethaf sawl newid a wnaed i'r system, mae'n amlwg bod problemau o hyd ac mae'n ddealladwy bod y cyhoedd yn teimlo'n rhwystredig. Rydw i wedi mynegi fy nheimladau yn glir a dywedais wrth Swyddogion y Cyngor bod rhaid i rywbeth newid ar unwaith. Maen nhw'n cydweithio gyda'r cwmni sy'n gyfrifol am y wefan er mwyn sicrhau hyn. 

Ar hyn o bryd mae galw digynsail am docynnau, a hyd yn oed gyda’r problemau technegol y bore yma, roedd pob un o’r 1,800+ o docynnau ar gyfer yr wythnos i ddod wedi’u harchebu erbyn 8.45am. 

Bydd gyda ni dros 850 o leoedd ar gael yn y Lido bob dydd o nawr ymlaen. Ambell ddiwrnod, mae dros 4,000 yn ceisio prynu tocynnau ar-lein. Mae'r galw yn fwy na'r nifer o leoedd sydd ar gael ar hyn o bryd, gan fod Lido Ponty yn dal i weithredu ar gapasiti llai yn sgil y pandemig. Hyd yn hyn, mae dros 40,000 eisoes wedi ymweld â Lido Ponty yn ystod y tymor yma. 

Serch hynny, rydw i wedi egluro i swyddogion Cyngor RhCT bod rhaid i'r cwmni sy'n darparu'r system docynnau ddatrys y problemau yma ar frys, neu bydd angen i ni edrych am ddarparwr arall. 

Hoffwn ymddiheuro i'r rhai sydd wedi cael anawsterau, ac rwy'n rhannu'ch rhwystredigaeth yn llwyr. Mae'r sefyllfa yn annerbyniol. 

Y Cynghorydd Andrew Morgan

Wedi ei bostio ar 22/07/2021