Skip to main content

Galw Mawr am Hyfforddiant Defnyddio Diffibrilwyr ac Adfywio Cardio-pwlmonaidd (CPR)

def

Diolch i bawb sydd wedi cofrestru ar gyfer yr hyfforddiant defnyddio diffibrilwyr a CPR y mis yma. Mae’r sesiynau isod i gyd yn llawn erbyn hyn.

A fyddech chi'n gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng Cymorth Cyntaf? Mae modd i'ch gweithredoedd cyflym helpu i achub bywyd. Daeth hyn i'r amlwg mewn gêm yn ystod pencampwriaeth Ewro 2020 ym mis Mehefin.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnig cyrsiau hyfforddi Diffibriliwr a CPR AM DDIM mewn llyfrgelloedd ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod mis Gorffennaf. Yr oll sy'n rhaid i chi ei wneud yw cofrestru ar-lein a mynychu sesiwn hyfforddi o'ch dewis chi.

Mae modd i ataliad ar y galon ddigwydd i unrhyw un, ar unrhyw adeg, a phan fydd yn digwydd, mae pob eiliad yn bwysig. Mae modd i ddiffibrilwyr achub bywydau ac mae'n declyn amhrisiadwy i unrhyw un sy'n rhoi cymorth cyntaf.

Mae diffibrilwyr yn syml i'w defnyddio ac mae modd i unrhyw un eu defnyddio ar ôl derbyn hyfforddiant.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Rwy’n annog pawb i ystyried manteisio ar y cyfle hyfforddi rhad ac am ddim yma yn ein llyfrgelloedd - fe allai wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun.

“Mae'r rhai sydd wedi'u hyfforddi i wneud CPR a defnyddio Diffibriliwr yn fwy parod i ymateb i sefyllfa sy'n peryglu bywyd, pe bai un yn codi. Byddan nhw'n derbyn hyfforddiant i weithredu'n gyflym ac yn hyderus, mewn ffordd ddigynnwrf a bod yn barod i wneud hyn pan fydd wir angen."

Mae'r sesiynau hyfforddi Diffibriliwr a CPR AM DDIM yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol ar draws Rhondda Cynon Taf:

  • Llyfrgell Abercynon, dydd Llun, 12 Gorffennaf - 10.00am-11.30am (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell Tonypandy, dydd Llun, 12 Gorffennaf - 2.00pm-3.30pm (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell Pontyclun, dydd Mawrth 13 Gorffennaf - 2.00pm-3.00pm (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell Treorci, dydd Mawrth 13 Gorffennaf - 5.30pm-7.00pm (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell Pontypridd, dydd Mercher, 14 Gorffennaf - 4.30 pm-6.00pm (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell Rhydfelen, dydd Gwener 16 Gorffennaf - 10.00 am-11.30am (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Canolfan Garth Olwg, dydd Llun 19 Gorffennaf - 6.00pm-7.30pm (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell Hirwaun, dydd Mawrth 20 Gorffennaf - 10.00am-11.30am (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell Aberpennar, dydd Mercher 21 Gorffennaf - 10.00am-11.30am (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell Glynrhedynog, dydd Iau 22 Gorffennaf - 10.00am-11.30am (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell Llantrisant, dydd Iau 22 Gorffennaf - 2.00pm-3.30pm (Wedi'i archebu'n llawn)
  • Llyfrgell y Porth, dydd Gwener 23 Gorffennaf - 12.00pm-1.30pm (Wedi'i archebu'n llawn)

Bydd y cwrs yn cynnwys adnabod yr arwyddion a rheoli sefyllfa frys, hyfforddi ar ddefnyddio'r Diffibriliwr, dadebru (CPR), rôl cynorthwy-ydd cymorth cyntaf a thrin pobl anymatebol sydd wedi'u anafu.

Mae'r holl sesiynau hyfforddi, a ddarperir gan staff sydd wedi'u hyfforddi'n llawn, yn cael eu cynnal gan gadw at yr holl gyfyngiadau COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru. Cadwch eich lle ar-lein ar gyfer unrhyw un o'r cyrsiau hyfforddi Diffibriliwr a CPR uchod

www.Bookwhen.com/rct-online-courses

Mae hyfforddiant diffibriliwr a CPR ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Wedi ei bostio ar 02/07/2021