Dyma'r cyfan sydd angen i chi ei wybod am y gwaith dros yr haf ar Ffordd Mynydd Maerdy - gan gynnwys manylion am gau'r ffordd, trefniadau bysiau, yr angen am y gwaith a pham ei fod yn cael ei gyflawni nawr.
Mae'r Cyngor eisoes wedi rhoi rhybudd ymlaen llaw y bydd yn cau ffordd yr A4233, rhwng Rhiw'r Mynach yn Aberdâr a Heol yr Orsaf ym Maerdy. Bydd y ffordd ar gau rhwng 8am a 6pm o bob dydd Llun i ddydd Gwener – rhwng dydd Llun, 26 Gorffennaf, a dydd Mercher, 1 Medi. Bydd arwyddion clir ar gyfer llwybr arall i fodurwyr, a bydd mynediad yn parhau i gerbydau'r gwasanaethau brys.
Pa waith sy'n cael ei gyflawni'r haf yma?
Mae hyn yn rhan o'r ymdrech barhaus i liniaru materion strwythurol ar ochr y mynydd a achoswyd gan dywydd digynsail Storm Dennis ac achosion eraill o dywydd garw. Bydd y gwaith penodol dros yr haf yn mynd i’r afael â chwymp yr arglawdd uwchben rhan o'r ffordd, er mwyn cynyddu gwytnwch. Mae'r gwaith yn rhan o ymdrech ehangach i sicrhau dyfodol yr A4233, yn dilyn ymlaen o'r gwaith draenio sylweddol ym mis Hydref 2020 o ganlyniad i dirlithriad bach yn ystod Storm Dennis. Dyma ymdrech barhaus i ddarparu rhaglen gynnal a chadw wedi'i chynllunio y bydd angen iddi barhau yn y dyfodol.
Pam fod angen i'r ffordd gau, a pham ei bod wedi'i hamserlennu yn ystod y dydd?
Mae nodweddion y ffordd a thopograffeg y llwybr mynydd yn peri anhawster o ran lleihau aflonyddwch. Mae ystyried yma'n flaenoriaeth i'r Cyngor wrth amserlennu gwaith. Ystyriaeth allweddol arall yw diogelwch y gweithlu a modurwyr. Yn anffodus, mae'r ffordd yn rhy gul i gynnal traffig byw yn ddiogel tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo, ac mae'r lleoliad agored, ei uchder a natur arbenigol y cynllun yn gwneud gweithio dros nos yn anymarferol.
Felly, mae'r gwaith wedi'i gynllunio yn ystod y dydd dros wyliau'r haf er mwyn tarfu cyn lleied â phosib - gan y bydd y ffyrdd yn debygol o fod yn llai prysur yn ystod y cyfnodau teithio brig, a chan osgoi'r aflonyddwch tebygol i gludiant o'r cartref i'r ysgol.
Fydd cau'r ffordd yn effeithio ar wasanaethau bysiau lleol?
Pan fydd y ffordd ar gau, fydd gwasanaeth arferol Stagecoach 172 (Aberdâr i Ben-y-bont ar Ogwr / Porthcawl) ddim yn weithredol rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Mae'r Cyngor wedi trefnu bod gwasanaeth bws gwennol yn gweithredu trwy gydol y cyfnod yma, er mwyn cynnal mynediad i gludiant cyhoeddus i'r holl drigolion.
Bydd adnoddau ychwanegol yn cael eu dyrannu i'r gwasanaeth 172, fel bydd yn gweithredu heb stop i'r ddau gyfeiriad o Orsaf Fysiau Aberdâr i Orsaf Fysiau Tonypandy, trwy Bontypridd. Bydd yn cwrdd â'r bws gwennol yn Nhonypandy, a fydd yn teithio yn ôl ac ymlaen i Faerdy. Mae modd gweld amserlen y bws gwennol yma.
Bydd pob taith o Aberdâr yn cychwyn yn gynharach a bydd amseroedd teithio yn cynyddu – ond mae trefniadau ar waith i sicrhau bod cwsmeriaid yn talu'r prisiau arferol. Ffoniwch Traveline Cymru (0800 464 000) i gael gwybodaeth am yr amserlen.
Pam fod gwaith yn cael ei gyflawni'n fwy aml ar y llwybr yma nag ar lwybrau eraill?
Mae ein ffyrdd mynydd serth yn brwydro'n erbyn yr elfennau yn gyson, ac roedd Storm Dennis yn atgof byw o'r anawsterau mae'n rhaid i ffyrdd fel yr A4233 ar Fynydd Maerdy eu hwynebu. Oni bai am waith cynnal a chadw sylweddol y Cyngor ar Ffordd Mynydd Maerdy yn ystod y blynyddoedd diwethaf, byddai natur y difrod a gafodd ei achosi gan Storm Dennis wedi cau'r ffordd am gyfnod amhenodol. Er mwyn osgoi digwyddiad tebyg yn y dyfodol a allai arwain at gau'r ffordd dros gyfnod hir, bydd y gwaith i sefydlogi'r llethrau a diogelu'r ffordd yn digwydd dros sawl blwyddyn.
Felly mae'r Cyngor yn gweithio'n barhaus i sicrhau dyfodol yr A4233, a bydd angen cynllunio gwaith pellach y tu hwnt i'r haf yn rhan o'r ymdrech barhaus yma. Mae gwaith atgyweirio neu gynnal a chadw yn tarfu am gyfnod, ond dyma hefyd sy'n gwneud y gwahaniaeth rhwng bod y ffordd ar gael ac ar agor yn y dyfodol neu beidio.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion unwaith eto am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus yn ystod y gwaith sydd ar ddod dros yr haf.
Wedi ei bostio ar 26/07/21