Skip to main content

Diweddaru'r Cabinet ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig

Bydd y Cabinet yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Ariannol Tymor Canolig tair blynedd y Cyngor hyd at 2024/25 ddydd Mawrth 20 Gorffennaf. Mae hyn yn seiliedig ar ystod o ragdybiaethau modelu a bydd yn helpu i lywio a chefnogi gwaith paratoi cyllideb y Cyngor sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf (2022/23).

Mae'r adroddiad yma i'r Cabinet yn amlinellu model y sefyllfa ariannol ddiweddaraf i'r Cyngor dros y tair blynedd nesaf. Mae'n nodi y bydd canlyniad Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU yn ystod yr hydref eleni yn ffactor allweddol wrth bennu lefel y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Dyma'r cyllid sydd wedyn yn cael ei ddyrannu i Awdurdodau Lleol yng Nghymru.   

Mae'r adroddiad yn cydnabod y galw cynyddol a'r pwysau o ran costau y mae llawer o wasanaethau yn eu profi, yn enwedig gwasanaethau gofal cymdeithasol, a hefyd effaith economaidd enfawr y pandemig wrth symud ymlaen. Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod bod mwyafrif y costau ychwanegol a cholledion o ran incwm o ganlyniad i'r pandemig wedi'u hariannu hyd yma gan Lywodraeth Cymru, gyda pharhad y gefnogaeth ariannol yma'n gynyddol bwysig.

Mae'r adroddiad yn nodi rhagdybiaethau modelu manwl dros y cyfnod o dair blynedd ac mae'n cynnwys gwybodaeth am wariant refeniw, cynlluniau cyfalaf, cyllid a chronfeydd wrth gefn. Oherwydd yr ansicrwydd cyfredol ynghylch lefelau cyllido'r sector cyhoeddus yn y dyfodol, mae'r Cyngor wedi modelu ystod o lefelau setliad llywodraeth leol rhwng +2% a +4% y flwyddyn. Byddai pob un o'r rhain yn golygu diffyg yng nghyllideb y Cyngor. Er enghraifft, byddai lefel setliad o +4% i yn dal i olygu y bydd diffyg o £9.92 miliwn yn y gyllideb ar gyfer 2022/23.

Ochr yn ochr â blaenoriaeth barhaus y Cyngor o ymateb i'r pandemig a chynorthwyo â gwaith adfer o'i herwydd, a sicrhau ein bod yn cadw ein trigolion a'n busnesau yn ddiogel a'u cynorthwyo, mae'r adroddiad yn nodi bod opsiynau'n cael eu paratoi i fynd i'r afael â'r ystod bosibl o ddiffygion yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae maint y rhain yn dibynnu i raddau helaeth ar lefel y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu.

Ymhlith yr opsiynau mae cyfleoedd sy'n manteisio i'r eithaf ar effeithlonrwydd trwy ddefnyddio dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau, parhau i ddarparu Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor (gan gynnwys darparu cyfleusterau gofal ychwanegol), adolygu'r gofynion o ran y gweithlu a defnyddio adeiladau'r Cyngor, a chanolbwyntio'n barhaus ar egwyddorion Byw'n Annibynnol, Ymyrraeth Gynnar ac Atal, a chynyddu cyfleoedd i ddigideiddio a masnacheiddio.

Bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi'i ddiweddaru yn cael ei osod ger bron y Cyngor Llawn ym mis Medi a bydd ar gael i'r Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad yn rhan o'r broses ymgynghori ar Gyllideb ddrafft 2022/23.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol: “Mae adroddiad y Cabinet ddydd Mawrth yn rhoi gwybod i Aelodau am y gwaith sydd ar y gweill i alluogi pennu cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf a’r modelu ariannol tair blynedd ehangach hyd at 2024/25. Fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, bydd y Cyngor yn cynnal proses ymgynghori helaeth yr hydref yma, gan sicrhau bod trigolion a busnesau lleol yn gallu dweud eu dweud ar gyllideb y flwyddyn nesaf.

“Mae’n amlwg y bydd yr ansicrwydd presennol ynghylch lefel y setliad posib gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi'i phennu ei hun gan Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DU sydd ar ddod, yn cael effaith sylweddol ar y diffyg yn y gyllideb y bydd y Cyngor yn ei wynebu y flwyddyn nesaf – gyda phob 1% o newid yn cynrychioli gwerth £4 miliwn. Mae felly yn cael effaith uniongyrchol ar yr adnoddau sydd ar gael i'r Cyngor ac mae'n holl bwysig bod y Cyngor yn parhau â'i ddull disgybledig a chyfrifol o bennu cyllideb.

“Am nifer o flynyddoedd, mae’r Cyngor wedi gwneud hyn yn dda iawn. Mae'r dull cadarn o nodi a chyflawni mesurau i leihau'r gyllideb wedi caniatáu i ni gyflawni gwerth £4.6 miliwn o arbedion effeithlonrwydd yng nghyllideb 2021/22, ar ben arbedion o £6 miliwn ym mhob un o'r tair blynedd flaenorol. Cafodd hyn ei gyflawni heb unrhyw doriadau i wasanaethau, gan sicrhau buddsoddiad cyfalaf sylweddol o dros £102 miliwn yn 2020/21, ledled y Fwrdeistref Sirol.

“Mae hanes cryf iawn y Cyngor o bennu a darparu cyllidebau cytbwys, ochr yn ochr â buddsoddiad ychwanegol parhaus sylweddol ym mlaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol, yn deillio'n uniongyrchol o'r gwaith prydlon i gynllunio ymlaen llaw, blaenoriaethu gwariant a sicrhau arbedion yn y gyllideb.

“Serch hynny, rydyn ni'n wynebu heriau sylweddol o hyd ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus ac mae'n dod yn anoddach fyth gwneud arbedion flwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd gyda ni well ddealltwriaeth o lefel yr arbedion y bydd raid i'r Cyngor eu gwneud ar ôl y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn nes ymlaen eleni, a bydd y Cyngor yn rhannu'r newyddion diweddaraf am y sefyllfa yma â thrigolion a rhanddeiliaid."

Wedi ei bostio ar 16/07/2021