Mae'r Cyngor wedi paratoi Adroddiad Trosolwg sy'n nodi ac yn dadansoddi'r glawiad, cyrsiau dŵr a lefelau afonydd ar draws Rhondda Cynon Taf yn ystod tywydd digynsail Storm Dennis ym mis Chwefror 2020.
Mae'r adroddiad, sy'n ofynnol gan y Cyngor, yntau'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Adran 19), hefyd yn darparu crynodeb o effeithiau'r tywydd a'r prif fathau o lifogydd - ac yn rhoi trosolwg o rolau a chyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Risgiau. Dyw'r adroddiad ddim yn nodi achosion/rhesymau, camau gweithredu na gwaith mewn perthynas â'r digwyddiad storm.
Roedd y llifogydd a effeithiodd ar y Fwrdeistref Sirol ar Chwefror 15-16 (Storm Dennis), yn ôl yr adroddiad, yn ganlyniad i lawiad eithafol. Cyn iddo gyrraedd, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd chwe rhybudd tywydd - yn amrywio o Felyn i Ambr a Choch, wrth i ragfynegiadau glawiad gynyddu'n nes at y digwyddiad.
Mae'r adroddiad yn cadarnhau bod Storm Dennis wedi arwain at lifogydd mewnol i 1,498 o adeiladau ac wedi achosi llifogydd helaeth i seilwaith - gan gynnwys rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd, canol trefi, parciau busnes a chyfleusterau hamdden.
Yn y dyddiau yn dilyn Storm Dennis cafodd yr effeithiau sylweddol eu pennu trwy arolygiadau gan Garfan Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor, a chasglwyd gwybodaeth a sylwadau gan breswylwyr, Carfan Iechyd Cyhoeddus y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Dŵr Cymru (DCWW).
Mae asesiadau manwl o'r mecanweithiau llifogydd a'r effeithiau a achoswyd yn ystod y storm wedi'u paratoi ar gyfer ardaloedd unigol yn Rhondda Cynon Taf. Ymchwiliwyd i gyfanswm o 28 lleoliad ledled y Fwrdeistref Sirol, a bydd 19 o'r rhain yn arwain at baratoi adroddiadau Adran 19 fel sy'n ofynnol gan feini prawf Llywodraeth Cymru.
Mae modd dod o hyd i'r adroddiad llawn yma.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Carfan Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor wedi paratoi'r adroddiad Adran 19 yma i gofnodi trosolwg manwl o'r hyn a ddigwyddodd yng nghymunedau Rhondda Cynon Taf yn ystod Storm Dennis, a chyn hynny. Mae'n ddogfen gwbl hygyrch sydd ar gael i'r cyhoedd ei darllen.
“Mae’r adroddiad yn edrych ar linell amser digwyddiadau, gan gynnwys rhagolygon y tywydd cyn ac yn ystod y tywydd digynsail - ac yn darparu dadansoddiad o’r glawiad a sut roedd y cyrsiau dŵr cyffredin ac afonydd yn ymdopi. Mae hefyd yn canolbwyntio ar effeithiau difrifol y storm, o lifogydd mewn cymunedau lleol i'w effaith ar y rhwydwaith carthffosydd, gorsafoedd pwmpio a mathau eraill o seilwaith.
“Nid bwriad yr adroddiad yma yw nodi achosion llifogydd mewn achosion penodol ledled y Fwrdeistref Sirol. Bydd y manylion hyn yn dilyn ar gyfer 19 o ardaloedd a nodwyd yn Rhondda Cynon Taf trwy adroddiadau Adran 19 ar wahân - y mae un ohonyn nhw, yn ymwneud â llifogydd ym Mhentre, yn cael ei gyhoeddi heddiw."
Wedi ei bostio ar 01/07/21