Skip to main content

Ailadeiladu waliau afon yn Ynys-hir ar ôl Storm Dennis

Ynyshir river walls 2

Gan gychwyn ddydd Llun, bydd y Cyngor yn cychwyn ar gynllun i atgyweirio ac ailadeiladu tair wal afon ger Stryd y Groes a Stryd yr Ynys yn Ynys-hir er mwyn adfer y difrod a ddaeth yn sgil Storm Dennis.

Yn ystod y tywydd gwael ym mis Chwefror 2020, roedd difrod i waliau'r afon yn y fan yma a chafodd gwaith atgyweirio brys dros dro ei gynnal i fynd i'r afael â hyn. Bydd y cynllun yma, sy'n dechrau ar y safle ddydd Llun, 12 Gorffennaf, yn golygu gwaith atgyweirio parhaol, atgyfnerthu'r waliau sy'n cynnal y briffordd a gwelliannau i'r system ddraenio.

Bydd gwaith adfer yn cynnwys clirio'r safle, ailadeiladu rhannau o'r wal gynnal a'r wal ganllaw, gwaith ail-bwyntio, ailosod nifer o ddarnau'r cerrig copa a gosod falfiau clec i'r allfeydd draenio sydd yno eisoes.

Mae'r Cyngor wedi penodi cwmni Walters Ltd yn gontractwr ar gyfer y gwaith, a fydd yn para tua 12 wythnos. Mae'r contractwr wedi dosbarthu llythyrau i drigolion sy'n egluro natur y gwaith.

Drwy gydol y gwaith bydd y lôn y tu ôl i Stryd yr Ynys wrth ymyl yr afon ar gau i gerbydau. Bydd mynediad i gerddwyr o hyd, gan gynnwys y lôn gefn a'r bont droed sy'n arwain at Drem y Faner.

Llywodraeth Cymru sy'n ariannu mwyafrif y gwaith, trwy gyllid a gafodd ei sicrhau gan y Cyngor sydd wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith atgyweirio o ganlyniad i Storm Dennis yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwaith gosod falfiau clep yn costio £15,000 ac mae 85% o hynny'n dod o grant Gwaith Mân Llywodraeth Cymru mewn perthynas â llifogydd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r Cyngor yn parhau â'i waith atgyweirio ac ailosod seilwaith y Fwrdeistref Sirol ryw 18 mis ar ôl Storm Dennis. Rydyn ni wedi dweud o hyd y byddai'r gwaith yma'n cymryd blynyddoedd i'w gwblhau o ganlyniad i'r difrod sylweddol. Bydd y Cyngor yn parhau â'i ymrwymiad i geisio cyllid ar gyfer y cynlluniau atgyweirio yma yn ein cymunedau.

“Bydd y gwaith yn Ynys-hir yn atgyweirio'r difrod i wal yr afon ger Stryd y Groes a’r lôn gefn wrth ymyl Stryd yr Ynys yn barhaol, a hynny ar ôl cynnal gwaith brys dros dro y llynedd. Dyma'r cynllun atgyweirio waliau afon diweddaraf yn sgil Storm Dennis, a hynny ar ôl cyflawni gwaith yn Heol Berw, Pontypridd, Ffordd Blaen-y-Cwm, Blaen-cwm, yr A4054 Heol Caerdydd yn Nhrefforest a ger Heol Caerdydd yn Aberpennar.

“Mae’r gwaith yn cael ei gynnal gan ddefnyddio cyllid sydd wedi’i glustnodi ar gyfer gwaith atgyweirio yn sgil Storm Dennis. Cafodd £4.4 miliwn ei ddyrannu i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2021, flwyddyn ar ôl y storm. Mae'n annhebygol y bydd y cynllun yn Ynys-hir yn tarfu'n sylweddol ar drigolion gan fod yr holl lwybrau i gerddwyr ar agor o hyd a dim ond un lôn gefn fydd ar gau i gerbydau. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda chontractwyr i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted ag y bo modd ac yn y ffordd fwyaf effeithlon ag sy'n bosib."
Wedi ei bostio ar 09/07/2021