Mae menyw o Rondda Cynon Taf wedi cael ei herlyn yn llwyddiannus gan Adran Safonau Masnach y Cyngor am weithredu busnes twyllodrus ac am fwriadu gwerthu nwyddau ffug a oedd yn ei meddiant.
Rydyn ni wedi penderfynu peidio ag enwi'r fenyw 40 oed, o ardal Pentre, Cwm Rhondda. Ymddangosodd yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, a phlediodd hi'n euog i bob un o’r naw cyhuddiad o feddu ar nwyddau ffug at ddibenion gwerthu, yn groes i Ddeddf Nodau Masnach 1994, ac un cyhuddiad o gynnal busnes twyllodrus, sef gwerthu a dosbarthu dillad, esgidiau, persawr i fenywod a dynion, gemwaith, canhwyllau ac ategolion ffug. Bu'r busnes yma ar waith rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr 2019, yn groes i Ddeddf Twyll 2006.
Yn dilyn yr achos Llys, dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Unwaith eto, mae’r Cyngor wedi llwyddo i erlyn troseddwr mewn perthynas â gwerthu nwyddau ffug.
“Mae'r gyfraith yno i amddiffyn y cyhoedd a'r cwmnïau rhyngwladol diffuant hynny sydd ag enw da yn fyd-eang am werthu nwyddau o safon mewn mannau parchus.
“Gan weithio ar wybodaeth a ddaeth i law gan y cyhoedd, cynhaliodd ein swyddogion Safonau Masnach, ymchwiliad trylwyr, ac mae hynny wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus yma.
“Yn yr achos yma, cafodd y Ddeddf Twyll 2006 a Deddf Arwyddnod Masnach 1994 eu torri'n ddifrifol ac mae’r unigolyn bellach yn talu’r pris am ei gweithredoedd anghyfreithlon. Roedd gwerthu'r nwyddau ffug yma'n niweidiol i ddefnyddwyr, ac i'r masnachwyr gonest hefyd.
“Mae gan ddefnyddwyr hefyd hawl i wybod bod yr eitemau maen nhw'n eu prynu yn cyd-fynd â'u disgrifiad.”
Yn dilyn gwybodaeth daeth i law ynghylch nwyddau ffug yn cael eu gwerthu ar y platfform digidol Facebook, cafwyd ymchwiliad a daeth Safonau Masnach y Cyngor â chyhuddiadau llwyddiannus yn erbyn y fenyw.
Cafodd gwarant mynediad ei weithredu yng nghartref yr unigolyn ar 3 Rhagfyr, 2019, pan atafaelodd swyddogion Safonau Masnach y Cyngor nifer sylweddol o eitemau roedden nhw'n credu eu bod yn ffug, yn ogystal â ffôn symudol yr unigolyn.
Roedd yr eitemau a atafaelwyd yn cynnwys dillad, esgidiau, persawr i fenywod a dynion, gemwaith, dillad isaf, hetiau a chanhwyllau a oedd yn arddangos enwau brand dylunwyr adnabyddus, gan gynnwys Adidas, Alexander McQueen, Calvin Klein, Cartier, Chanel, Christian Dior, Creed, DSquared2, Fendi, Giorgio Armani, Givenchy, Gucci, Guess, Kenzo, Michael Kors, Moncler, Nike, Stone Island, The North Face, Ugg, Yankee ac Yves St Laurent.
Cadarnhaodd archwiliad diweddarach o rai samplau enghreifftiol gan berchnogion arwyddnod masnach, neu eu cynrychiolwyr, fod y nwyddau'n ffug. Gwerth yr eitemau ffug a atafaelwyd oedd £1,145. Pe byddai'r holl eitemau yma wedi bod yn rhai go-iawn, bydden nhw'n werth tua £12,000.
Yn dilyn archwiliad fforensig o'r ffôn symudol a atafaelwyd, cafodd negeseuon a delweddau sy'n gysylltiedig â gwerthu eitemau ffug eu canfod, yn ogystal ag archebion am nwyddau sydd werth miloedd o bunnoedd. Yn ystod y cam yma o'r ymchwiliad, gwrthododd y fenyw gael ei chyfweld yn ffurfiol er mwyn trafod ei rhan yn y gwaith o werthu a dosbarthu nwyddau ffug.
Wrth liniaru, dywedodd cynrychiolydd y fenyw wrth y llys ei bod bellach wedi derbyn cyfrifoldeb am ei hymddygiad dros gyfnod o dair wythnos, ac wedi cyfaddef ei bod wedi gwneud elw o £ 1,000 yn ystod y cyfnod yma.
Wrth Ddedfrydu, gosododd y llys Orchymyn Cymunedol 12 mis ar yr unigolyn, ac mae gofyn iddi wneud 100 awr o waith di-dâl. Cafodd hefyd orchymyn i dalu £2,000 o gostau erlyn, a thalu £90 i ddioddefwyr ei throseddau.
Yn ogystal â hynny, nododd y Llys y byddai'n rhaid fforffedu a dinistrio'r holl eitemau a atafaelwyd.
Wedi ei bostio ar 16/07/21