Mae gweithiwr gofal o Rondda Cynon Taf ymhlith 12 o weithwyr gofal rhyfeddol sydd wedi derbyn gwobr Sêr Gofal am eu gwaith anhygoel dros y 15 mis diwethaf.
Mae Conor O'Leary, ymarferydd gofal plant preswyl gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, wedi derbyn cydnabyddiaeth am fynd y filltir ychwanegol yn ystod y pandemig.
Pan fu raid i hanner staff y cartref preswyl lle'r oedd Conor yn gweithio hunanynysu, symudodd Conor i fyw yn y cartref preswyl am bythefnos. Cynigodd Conor gymorth a gofal amhrisiadwy i'r plant, gan ei gwneud hi'n haws i'r plant ddod o hyd i bethau cadarnhaol bob dydd yn ystod cyfnod brawychus iawn.
Cafodd ei enwebu am wobr Sêr Gofal gan ei reolwr Mandy Meredith, a ddywedodd: “Mae’n haeddu cael ei gydnabod am hyn ac am fod yn esiampl wych i bawb o fewn ein gwasanaeth. Fe wnaeth ddangos ei garedigrwydd a deall anghenion y plant.”
Cafodd Sêr Gofal 2021 ei drefnu gan sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru i ddathlu gweithwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn ystod y pandemig dros y 15 mis diwethaf.
Meddai'rCynghorydd Tina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Faterion Plant:
“Llongyfarchiadau i Conor am yr ymrwymiad a’r ymroddiad anhygoel a ddangosodd i’r bobl hynny dan ei ofal yn ystod y pandemig ac mae’n hyfryd gweld ei waith yn cael ei gydnabod.
“Hoffwn hefyd ddweud diolch yn fawr i bawb sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yn Rhondda Cynon Taf. Mae nifer o bobl wedi mynd yr ail filltir dros y 15 mis diwethaf, yn union fel Conor. Mae pob un ohonyn nhw'n sêr, a phob un yn gaffaeliad i'w gymuned.
“Mae proffesiynoldeb ac ymroddiad ein gweithlu mewn cyfnod anodd o'r fath yn rhyfeddol. Diolch i chi i gyd am bopeth rydych chi wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud."
Ym mis Mehefin, cafodd cyflogwyr, cydweithwyr ac aelodau o'r cyhoedd eu gwahodd i enwebu'r gweithwyr gofal roedden nhw'n teimlo eu bod yn haeddu cael eu cydnabod am eu gwaith dros y 15 mis diwethaf.
O ganlyniad, cafodd 120 o weithwyr gofal o bob rhan o Gymru eu henwebu. Yna, fe wnaeth panel o feirniaid, a oedd yn cynnwys aelodau o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru a chynrychiolwyr o sefydliadau partner, ddewis 12 Sêr Gofal roedden nhw'n credu oedd yn haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith ysbrydoledig.
Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:
“Mae pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl o ddydd i ddydd, mewn cymunedau ledled Cymru.
“Yn ystod yr 16 mis diwethaf, daeth y gwahaniaeth mawr mae gweithwyr gofal yn ei wneud i fywydau pobl i'r amlwg yn fwy nag erioed. Camodd ein gweithwyr gofal i'r adwy o dan amgylchiadau hynod heriol ac anodd i ddangos pa mor hanfodol a gwerthfawr ydyn nhw.
“Dangosodd pob un o’r 120 o weithwyr gofal a gafodd eu henwebu garedigrwydd, ymroddiad a phroffesiynoldeb yn eu gwaith. Doedd y gweithwyr ddim yn gwneud hynny er mwyn ennill gwobrau. Mae pob un o weithwyr y sector gofal wedi bod yn wych wrth ymateb i'r pandemig yn ystod y flwyddyn a hanner ddiwethaf. Dewisodd y beirniaid yr enghreifftiau mwyaf disglair o ran cynnig cymorth a gofal yn ystod y pandemig.
“Da iawn a diolch yn fawr i’n holl Sêr Gofal - mae eu straeon yn deimladwy ac yn ysbrydoledig, ac yn dangos eu hymroddiad anhygoel, nid yn unig i’w proffesiwn, ond i’r bobl a’r teuluoedd maen nhw’n eu cefnogi.”
Wedi ei bostio ar 26/07/2021