Skip to main content

Rhowch wybod i'r Cyngor am ddraeniau a chwteri sydd wedi'u blocio

Drains

Er gwaethaf y tywydd da ar hyn o bryd, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes yn gwneud cynlluniau ar gyfer y gaeaf gydag adnoddau ychwanegol yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith cynnal a chadw pellach i gwteri a draeniau ledled y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â chaniatáu i waith cynnal a chadw wedi'i drefnu i ailddechrau.

O ganlyniad i'r adnoddau ychwanegol, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn am gymorth gan drigolion i nodi draeniau a chwteri sydd wedi'u blocio er mwyn gallu eu glanhau.

Yn dilyn Storm Dennis ac achosion eraill o dywydd garw, mae'r Cyngor wedi bod yn canolbwyntio ar wneud atgyweiriadau adweithiol i seilwaith sydd wedi'i ddifrodi.

Nawr, yn barod ar gyfer y gaeaf, mae'r Cyngor wedi sicrhau 2 uned gwagio cwteri ychwanegol am gyfnod byr i gefnogi'r 5 uned gwagio/jetio arferol sydd gan y Cyngor.

Bydd yr unedau ychwanegol yn canolbwyntio ar waith adweithiol (sef ymateb i adroddiadau gan drigolion am gwteri wedi'u blocio) a chaniatáu i unedau presennol y Cyngor ddychwelyd i wneud gwaith cynnal a chadw sydd wedi'i drefnu a chadw at amserlen o lanhau cwteri ar draws y Fwrdeistref Sirol, ar ôl cyflawni gwaith adweithiol dros yr 18 mis diwethaf.

Wrth droi ei sylw at fisoedd y gaeaf, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion “ein helpu ni i'ch helpu chi” trwy roi gwybod i'r Cyngor am ddraeniau a chwteri sydd wedi'u blocio. Mae modd gwneud hynny ar-lein drwy dudalennau 'Rhoi Adroddiad' y Cyngor neu drwy ddolenni ar gyhoeddiadau'r Cyngor ar y cyfryngau cymdeithasol.

Byddwn yn gwirio'r holl adroddiadau o ddraeniau a chwteri wedi'u blocio sy'n dod i law i ddarganfod a ydyn nhw'n destun gwaith cynnal a chadw sydd wedi'i drefnu. Bydd y garfan berthnasol yna'n mynd i'r afael â'r mater.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor RhCT: “Mae'r Cyngor wedi trefnu adnoddau ychwanegol i gynyddu ein gallu i gynnal cynlluniau clirio cwteri a draeniau ar draws Rhondda Cynon Taf.

“Mae'r 18 mis diwethaf wedi cyflwyno heriau enfawr a gwelwyd llifogydd dinistriol yn sgil Storm Dennis ac achosion o dywydd garw wedi hynny a achosodd ddifrod eang i'r seilwaith. Yn ogystal â hynny, bu pandemig COVID-19 yn straen sylweddol ar ein hadnoddau staffio.

“Wrth i ni ddod at ganol yr haf, mae ein sylw’n troi tuag at fisoedd y gaeaf. Gyda chymaint o waith adweithiol wedi'i wneud dros y 18 mis diwethaf, mae'n bwysig bod y Cyngor yn gallu ail-gychwyn rhaglen gynnal a chadw sydd wedi'i chynllunio a bydd yr adnoddau ychwanegol sydd wedi'u sicrhau yn caniatáu i hyn ailddechrau.

“Yn rhan o hyn, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i breswylwyr 'ein helpu ni i'ch helpu chi' trwy roi gwybod i ni am gwteri neu ddraeniau sydd wedi'u blocio. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein hadnoddau'n cael eu targedu'n briodol tu hwnt i'r rhaglenni glanhau arfaethedig sydd ar y gweill.”

Mae modd i chi roi gwybod i'r Cyngor am ddraeniau a chwteri sydd wedi'u blocio ar-lein yma

Fel arall, mae modd i chi ffonio'r Ganolfan Alwadau i  Gwsmeriaid i roi gwybod am ddraen neu gwter sydd wedi'i rwystro ar 01443 425001 (8.30am - 5pm, dydd Llun - dydd Gwener)

Wedi ei bostio ar 16/07/2021