Skip to main content

Datganiad Adroddiad Adran 19 – Pentre

Ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, mae'r Cyngor heddiw wedi cyhoeddi adroddiad Adran 19 yn dilyn ei ymchwiliad i lifogydd difrifol yn ardal Pentre yn ystod tywydd heb ei debyg Storm Dennis.

Dioddefodd Pentre, yng Nghwm Rhondda Fawr, yn sgil llifogydd ar bum achlysur gwahanol yn 2020. Mae Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, sef y Cyngor yn yr achos yma, nodi'r hyn a ddigwyddodd. Mae'n canolbwyntio ar y llifogydd cychwynnol yn ystod Storm Dennis (15-16 Chwefror), ond mae hefyd yn ystyried y pedwar achos o lifogydd dilynol, gan nodi'r mecanwaith ar gyfer llifogydd a'r Awdurdod Rheoli Risg sy'n gyfrifol am reoli'r risgiau, yn ogystal ag asesu'r camau gweithredu mae'r Awdurdodau Rheoli Risg wedi'u nodi.

Yn dilyn y glaw trwm heb ei debyg yn ystod Storm Dennis, cyrhaeddodd afonydd eu lefelau uchaf erioed, wrth i ardal Rhondda Cynon Taf wynebu'i llifogydd mwyaf arwyddocaol ers y 1970au. Cafodd 159 eiddo preswyl a 10 eiddo masnachol yn ardal Pentre eu difrodi gan lifogydd, a bu hefyd ddifrod sylweddol i briffyrdd yn yr ardal yn sgil llifogydd.

Dros y diwrnodau yn dilyn Storm Dennis, cafodd effeithiau sylweddol y llifogydd eu nodi gan garfan Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor, a chasglodd carfan Iechyd Cyhoeddus y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Dŵr Cymru (DC) wybodaeth a straeon trigolion ynghyd.

Mae adroddiad Adran 19 yn nodi mai prif ffynhonnell y llifogydd cychwynnol oedd deunyddiau coed gan gynnwys malurion, yng nghilfach cwlfert Heol Pentre. Y canlyniad oedd dŵr yn llifo i lawr Heol Pentre, tuag at Stryd Elisabeth a Stryd y Frenhines, ac yna tuag at strydoedd isaf y pentref.

Mae'r adroddiad yn nodi bod malurion coed wedi rhwystro cilfach y cwlfert, sy'n rhan o Ystâd Goedwigoedd Llywodraeth Cymru sy'n cael ei rheoli gan CNC. Fe lifodd y malurion yma oddi ar ochr y mynydd, sy'n cynnwys ardal lle'r oedd CNC wedi cynnal gwaith torri coed. Fe wnaeth hyn leihau cynhwysedd hydrolig y gilfach yn sylweddol.

Nododd adolygiad o'r gilfach y byddai wedi bod modd iddi ymdrin ag effeithiau'r storm pe na bai unrhyw rwystr. Arweiniodd y rhwystr yma hefyd at gryn dipyn o falurion coed yn llifo i mewn i rwydwaith y cwlferi, gan gyfrannu at lifogydd yn digwydd dro ar ôl tro yn rhannau isaf Pentre yn ystod stormydd dilynol. Llifodd mwd a silt i mewn i'r seilwaith draenio priffyrdd, a wnaeth yno leihau ei gapasiti yn sylweddol hefyd.

Mae modd dod o hyd i'r adroddiad llawn yma.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:“Caiff yr adroddiad Adran 19 yma, sy'n trafod ffactorau a gyfrannodd at y llifogydd difrifol yn ardal Pentre ym mis Chwefror 2020, ei gyhoeddi yn dilyn proses fanwl o werthuso a choladu tystiolaeth. Mae'r broses gadarn wedi cynnwys ymgysylltu'n sylweddol â thrigolion a busnesau wedi'u heffeithio, a dadansoddi data yn ymwneud â'r llifogydd yma. Mae modd bellach bennu'r achosion sylfaenol a gyfrannodd at y llifogydd penodol yma yn ystod Storm Dennis.

“Mae'n amlwg bod y deunydd coed a rwystrodd gilfach y cwlfert wedi cael effaith ddifrifol ar allu'r seilwaith draenio i reoli'r lefel law heb ei thebyg yma. Er gwaethaf natur ddifrifol Storm Dennis, mae asesiad technegol yn cadarnhau, heb y malurion yma, y byddai cilfach y cwlfert wedi bod â'r modd i reoli'r holl ddŵr a lifodd o'r mynydd. Pe bai'r dŵr wedi bod â'r modd i fynd i mewn i'r cwlfert, byddai'r cwlfert wedi lleihau effaith unrhyw lifogydd ar y gymuned leol yn sylweddol. Mae'r Cyngor o'r farn bod dim modd gwrthbrofi'r dystiolaeth yma.

“Mae'r Cyngor yn cydnabod bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rheoli’r tir uwchben y cwlfert ac yn nodi ei honiad bod gwaith torri coed yn y lleoliad yma wedi mynd rhagddo yn unol â'r arferion cenedlaethol gorau. Er bod adroddiad y Cyngor ddim yn rhoi sylwadau ar ei arferion o ran rheoli tir, rydyn ni'n dod i'r casgliad mai prif achos llifogydd oedd rhwystr yn y gilfach, gyda malurion coed yn ffurfio rhan sylweddol o'r rhwystr yma.

“Mae adroddiad Adran 19 yn nodi’n gywir bod y tywydd yn ystod Storm Dennis yn eithafol, ac mae’n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Mae'n dod i'r casgliad pwysig bod yr Awdurdodau Rheoli Risg (y Cyngor) wedi cyflawni eu swyddogaethau o ran ymateb i hyn mewn modd boddhaol.

“Yn yr adroddiad yma, mae'r Cyngor, ag yntau'n Awdurdod Rheoli Llifogydd Lleol, yn cynnig nifer o gamau i leihau’r risg y bydd llifogydd o'r fath yn digwydd eto.”

Y Cyngor yw'r Prif Awdurdod Llifogydd ac Awdurdod Draenio Tir Lleol, ac felly fe yw'r Awdurdod Rheoli Risg perthnasol sy'n gyfrifol am reoli'r llifogydd cwrs dŵr cyffredin a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis. Mae'n gweithio'n agos â sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i asesu'r risg y bydd llifogydd yn ardal Pentre yn y dyfodol, ac yn llunio amrywiaeth o opsiynau o ran lliniaru llifogydd. Hyd yma, mae wedi:

  • Cyflawni gwaith uwchraddio sylweddol yng nghilfach Heol Pentre er mwyn lleihau rhwystrau posibl, gyda nifer o systemau gorlifo wedi'u gosod yn y cwlfert pe bai rhwystr yn y prif dwll yn y dyfodol.
  • Gosod system larwm wedi'i monitro a theledu cylch cyfyng yng nghilfach y cwlfert i roi gwybod i'r Cyngor yn syth os bydd unrhyw broblemau'n codi – mae'r gwasanaeth yma ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
  • Datblygu man casglu gwastraff sylweddol, y mae modd iddo gasglu gwerth 6 thunnell o falurion yn Stryd Hyfryd i leihau'r perygl o ran cludo malurion i rannau isaf a gwastad y system cwlferi.
  • Llunio cynigion ar gyfer llwybrau llifogydd yn Stryd Hyfryd.
  • Wedi gweithio gyda Dŵr Cymru i adeiladu cyfleuster gorlif lefel uchel i gynyddu capasiti'r rhwydwaith draenio priffyrdd yn Stryd Lewis.
  • Dechrau llunio cynigion ar gyfer uwchraddio effeithlonrwydd gorsaf bwmpio Stryd y Gwirfoddolwr yn sylweddol.
  • Arwain ar y gwaith o lunio Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Pentre sy'n ceisio lliniaru risg llifogydd yn y gymuned.

Mae'r Cyngor hefyd wedi cyflwyno'r argymhellion canlynol mewn perthynas â rheoli tir:

  • Adolygu Cynlluniau Adnoddau Coedwig a Chynlluniau Llanerchau Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun ar gyfer rheoli dŵr, yn enwedig rheoli dŵr wyneb a thrin malurion sy'n agos at gwrs dŵr cyffredin.
  • Llunio Cynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer Cwm Rhondda Fawr mewn cydweithrediad â'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, a hynny er mwyn nodi ac adlewyrchu'r heriau allweddol sy'n wynebu cymuned Pentre.
  • Ymgorffori Cynlluniau Rheoli Dŵr Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei weithgarwch rheoli coedwigaeth er mwyn sicrhau bod effeithiau'r gwaith lleihau risg llifogydd i lawr yr afon yn cael eu gwireddu'n llawn.
  • Ymgysylltu â thrigolion mewn perthynas â Chynllunio Adnoddau Coedwig a gweithgarwch o ran coedwigoedd er mwyn helpu i feithrin rhagor o hyder yng nghyfraniad Ystâd Goedwigoedd Llywodraeth Cymru a sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru i reoli dŵr ffo wyneb o'u tir.
Wedi ei bostio ar 01/07/2021