Skip to main content

Trefniadau'r bws gwennol ar gyfer gwaith draenio sydd ar ddod yn Ynys-hir

Standard View 1

Mae'r Cyngor wedi cwblhau trefniadau ar gyfer y cynllun sydd ar ddod i gyflawni gwelliannau draenio yn Nhrem y Faner yn Ynys-hir. Mae hyn yn cynnwys manylion ffordd sydd angen ei chau a gwasanaeth bws gwennol am ddim i breswylwyr.

Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Cyngor ei fod wedi penodi DT Contracting i gyflawni'r cynllun gwerth £100,000, y mae cyfraniad o 85% wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru. Mae'r tair wythnos o waith, gan ddechrau o ddydd Llun, 19 Gorffennaf, yn cynnwys gwaith i'r leinin ar y rhwydwaith draenio presennol, er mwyn gwella'i gyflwr a sicrhau ei fod yn gweithredu'n effeithlon mewn cyfnodau o law trwm.

Er mwyn cyflawni'r gwelliannau, mae contractwr y Cyngor angen cau'r lôn sy'n cysylltu Trem y Faner a Theras y Waun. Felly mae'r cynllun wedi'i drefnu ar gyfer gwyliau'r ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl, mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Gymuned Ynys-hir gerllaw.

Bydd llwybr amgen ar gyfer modurwyr yn cael ei arwyddo'n glir ar hyd Teras y Waun, Heol Llanwynno, Ffordd liniaru'r Porth, Heol Llanwynno, Heol Ynys-hir, Heol yr Orsaf, Teras yr Afon a Threm y Faner.  Mae'r contractwr wedi rhoi gwybod y bydd mynediad ar gyfer cerddwyr, ond fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.

Trwy gydol y cyfnod cau, fydd Gwasanaeth Stagecoach 155 (Porth-Glynrhedynog) ddim yn gallu gwasanaethu Teras y Waun. Yn hytrach, bydd yn teithio ar hyd Heol Ynys-hir i'r ddau gyfeiriad, a bydd yn troi o gwmpas yn natblygiad tai Maes-y-gwanwyn.

Bydd bws gwennol am ddim yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng Teras y Waun a siop Morrisons, Porth. Bydd yn gadael o'r tu allan i 78 Teras y Waun am 9.50am, 11.50am, 1.50pm a 5pm, ac yn dychwelyd o Safle Bws Morrisons am 10.25am, 12.25pm a 3.25pm. Bydd y bws gwennol yn aros yn Morrisons ar gyfer Gwasanaeth Stagecoach 155 er mwyn cynnal yr holl gysylltiadau ar gyfer teithio parhaus.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Y cynllun yma yn Ynys-hir yw’r diweddaraf gan y Cyngor i wneud gwelliannau i ddraeniau mewn ardaloedd wedi’u targedu yn y Fwrdeistref Sirol - ar ôl sicrhau cyfraniad sylweddol gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r gwaith.

“Mae'n dilyn cynllun draenio ar wahân yn Nhy’n-y-Wern yn Ynys-hir, a ddechreuodd ganol mis Mehefin, yn ogystal â gwaith gwella gorchuddion cwteri yn Heol Pentre a gwaith gwella twll archwilio yn Stryd y Gwirfoddolwr yn ardal Pentre, a ddechreuodd ar ddiwedd mis Mehefin. Dechreuodd gwaith hefyd ar 12 Orffennaf i gyflawni gwelliannau i gefnfur a leinin cilfach y cwlfert yn Heol Cefnpennar yng Nghwm-bach.

“Mae’r gwaith sydd ar ddod yn Ynys-hir yn debygol o achosi rhywfaint o aflonyddwch yn lleol am fod angen cau ffordd. Mae'r Cyngor wedi rhoi nifer o fesurau ar waith i leihau'r aflonyddwch, gan gynnwys gwasanaeth bws gwennol am ddim a fydd yn gweithredu cyhyd â bod y ffordd ar gau, er mwyn sicrhau bod modd i breswylwyr barhau i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r gwaith hefyd wedi'i drefnu ar gyfer gwyliau haf yr ysgol, a fydd yn osgoi unrhyw darfu ar yr ysgol gynradd gyfagos.

“Diolch i drigolion lleol a defnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i’r gwaith gwella gael ei gynnal. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i gyflawni'r cynllun mor gyflym â phosibl.”

Sylwch, bydd y bws gwennol yn cael ei weithredu ar ran y Cyngor gan Techxi Ltd. Os oes ymholiadau gyda chi, mae modd i chi gysylltu â nhw ar 01179 777777.

Wedi ei bostio ar 14/07/2021