Skip to main content

Athro'n Derbyn Gwobr Arwr y Cyfnod Clo

Neil Topping

Mae athro o Rondda Cynon Taf wedi derbyn Gwobr Arwr y Cyfnod Clo y DU ar gyfer Cymorth i Ddisgyblion a'r Gymuned yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol blynyddol Pearson.

Dywedodd Neil Topping, 55, aelod poblogaidd o staff yn Ysgol Gynradd Caegarw yn Aberpennar, ei fod yn anrhydedd mawr derbyn y wobr a derbyn cydnabyddiaeth o'r fath.

Cafodd Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson, sy'n cael ei alw'n 'Oscars' y byd addysg gan drefnwyr yr achlysur, eu sefydlu ym 1998 ac ers hynny mae'r achlysur blynyddol wedi bod yn ddathliad o ragoriaeth mewn addysg, gan gydnabod gwaith anhygoel athrawon ledled y DU.

Gyda 15 categori o wobrau yn cwmpasu'r sectorau cynradd, uwchradd ac Addysg Bellach a phob categori ar agor i ysgolion a cholegau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae pawb yn Ysgol Gynradd Caegarw wrth eu boddau â llwyddiant cenedlaethol Mr Topping.

Dywedodd Huw Griffiths, Pennaeth yn Ysgol Gynradd Caegarw:

“Mae Mr Topping yn gaffaeliad i'n hysgol ac i'r gymuned. Mae'n ymarferydd ymroddedig ac ymrwymedig ac rydyn ni'n hynod o lwcus i gael athro mor wych yn ein hysgol.

“Roedd ei waith yn ystod y cyfnod clo yn rhagorol ac aeth ati i sicrhau bod modd i'r plant barhau i dderbyn addysg o'r safon uchaf posibl. Ar ran y llywodraethwyr, staff, rhieni a disgyblion, hoffwn ddiolch iddo am ei waith rhyfeddol yn ein hysgol."

Fe wnaeth beirniaid Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson gydnabod holl waith caled ac ymroddiad Mr Topping yn ystod y pandemig byd-eang wrth iddo gynnal cysylltiad ar-lein â disgyblion ifainc Ysgol Gynradd Caegarw, gan ddarparu cymorth i gyfoedion a gwella sgiliau mathemateg y plant.

Nododd y beirniaid hefyd yr effaith y mae Mr Topping yn ei chael yn yr ysgol, wrth gynorthwyo ei ddisgyblion i gyrraedd eu potensial dan amgylchiadau eithriadol.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant

“Hoffwn longyfarch Neil Topping am ennill cydnabyddiaeth ar draws y DU yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson eleni.

“Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn i ni i gyd, ond yn fwy felly i'r disgyblion sydd wedi parhau â'u haddysg yn ystod amgylchiadau anodd.

“Mae Mr Topping yn gaffaeliad i Ysgol Gynradd Caegarw, y proffesiwn addysg ac i bob un o'n staff addysgu a staff cymorth ar draws Rhondda Cynon Taf, sydd wedi gweithio mor galed er budd eu disgyblion yn ystod y pandemig byd-eang yma.

“Yn ei ysgol, mae Mr Topping wedi darparu platfform cyfathrebu ar-lein hanfodol rhwng yr ysgol a’r disgyblion, sydd wedi bod yn amhrisiadwy, yn enwedig yn ystod y cyfnod clo llawn. Rwy’n falch iawn bod ei waith wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Addysgu Pearson 2021. ”

Dywedodd Neil Topping, enillydd Gwobr Arwr y Cyfnod Clo ar gyfer Cymorth i Ddisgyblion a'r Gymuned: “Mae ymgysylltu â phlant yn elfen hanfodol o addysgu ac roeddwn i'n awyddus i barhau â hyn yn ystod pandemig COVID-19, sydd wedi effeithio ar ein bywydau ni i gyd.

“Yn ogystal â helpu i wella sgiliau mathemateg ein disgyblion, roeddwn i hefyd eisiau sicrhau fod gyda nhw rhywun i siarad ag ef, naill ai yn ystod sesiynau ar-lein, gyda'u ffrindiau neu ar sail un wrth un.

“Mae ennill y wobr hon yn anrhydedd enfawr a hoffwn ddiolch i bawb am fy enwebu.”

Dechreuodd Mr Topping, sy'n byw yn Nhon-teg, ei yrfa ym maes addysg yn 1998 yn Ysgol Gynradd Ton Pentre, lle arhosodd am 13 mlynedd cyn symud i Ysgol Gynradd Caradog yn Aberdâr, lle bu'n dysgu am chwe blynedd. Ymunodd Mr Topping â'r staff addysgu yn Ysgol Gynradd Caegarw yn 2018.

Mewn llythyr i Mr Topping dywedodd Michael Morpurgo, Llywydd Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson: “Mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud, o ddydd i ddydd, yn gwella bywydau ac yn newid bywydau. Mae'n bwysig fod gan blant athro gwych fel chi. Rydych chi'n agor drysau iddyn nhw ac yn arwain y ffordd.”

Mae Gwobrau Addysgu Pearson 2019 yn dathlu'r athrawon gorau ledled y DU, sy'n cael eu henwebu gan ddisgyblion, rhieni a chydweithwyr.

 

Wedi ei bostio ar 27/07/2021