Skip to main content

Y newyddion diweddaraf am Raglen Fuddsoddi Ysgolion yr 21ain Ganrif mewn tair ysgol gynradd

21st Century Schools - Porth Community School-8 - Copy

Mae modd i aelodau'r Cabinet gytuno ar gyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - er mwyn darparu adeiladau newydd sbon i ysgolion cynradd yn Llanilltud Faerdref, Llantrisant a Phont-y-clun erbyn 2024.

Bydd Adroddiad i gyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth, 20 Gorffennaf, yn nodi'r newyddion diweddaraf am gais cyllido'r Cyngor trwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM), sef y llwybr cyllid refeniw ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif, Llywodraeth Cymru. Yn ystod mis Medi 2020, cytunodd y Cabinet i ddechrau'r broses gymeradwyo ffurfiol ar gyfer y prosiect yma yn ne'r Fwrdeistref Sirol.

Mae hyn yn cynnwys disodli'r holl lety presennol gydag adeiladau ysgol newydd sbon yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Penygawsi ac Ysgol Gynradd Pont-y-clun. Mae'r ysgolion i gyd o fewn ardal sydd wedi gweld llawer o dai newydd yn cael eu hadeiladu mewn cyfnod byr ac mae angen buddsoddi ar bob un er mwyn eu gwneud yn gwbl hygyrch ac i gyrraedd safon yr 21ain Ganrif. Y gobaith yw bod modd cynllunio'r ysgolion i fodloni'r holl ofynion mewn perthynas â'r targedau Carbon Niwtral. Mae gwaith dichonoldeb wedi'i wneud ar bob safle ysgol, gan gynnwys ymchwiliadau daear ac arolygon ecolegol.

Yn ddarostyngedig i gais cyllido llwyddiannus, y gobaith yw ceisio am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu'r dair ysgol erbyn mis Rhagfyr 2021 ac os bydd yn llwyddiannus, mae disgwyl i'r cyfnod adeiladu ddechrau ar gyfer pob ysgol rhwng haf 2022 a gorffen yn gynnar yn 2024.

Ddydd Mawrth, bydd modd i'r Cabinet gymeradwyo cyflwyno Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru i'w drafod erbyn Awst 2021. Bydd modd i aelodau hefyd gytuno i broses MIM gael ei symud at Gam 2, lle bydd WEPCo (partner cyflenwi sector preifat Llywodraeth Cymru) yn cynnal proses dendro ar gyfer y tair ysgol.

Yn ystod Cam 2 bydd dyluniad yn cael ei greu ar gyfer cynlluniau pob ysgol. Mae'r penaethiaid wedi bod yn rhan o'r gwaith dylunio cychwynnol, ac wrth i hyn fynd yn ei flaen bydd ymgysylltiad llawn ag ysgolion, cyrff llywodraethu ac Aelodau Etholedig - yn ogystal ag ymgynghori â'r gymuned ehangach yn rhan o'r broses gynllunio.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Bydd Aelodau’r Cabinet yn trafod adroddiad sy’n darparu diweddariad ar brosiect braenaru Model Buddsoddi Cydfuddiannol y Cyngor. Y bwriad yw ymgeisio am gyfraniad gan 81% o Raglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru ar gyfer tri buddsoddiad gyffrous ar gyfer ysgolion cynradd yn Llanilltud Faerdref, Llantrisant a Phont-y-clun, erbyn 2024.

“Rydyn ni wedi gweld sut mae buddsoddiad Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi trawsnewid profiadau a chyfleoedd pobl ifainc yn eu haddysg - ac mae gan y Cyngor hanes rhagorol o gyflawni cynlluniau o'r fath. Ysgol Gynradd Hirwaun oedd yr ysgol ddiweddaraf i elwa o'r cynllun, gyda chyfleusterau newydd sbon gwerth £10.2 miliwn bellach wedi'u cyflawni'n llawn ar ôl cwblhau gwaith allanol ar yr adeilad ym mis Mai 2021.

“Mae'r Cyngor hefyd wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer prosiectau yn y dyfodol yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yng Nghwm Dâr ac Ysgol Gyfun Rhydywaun ym Mhen-y-waun. Bydd y gwaith ar y ddau brosiect yma'n dechrau cyn bo hir. Mae buddsoddiad o £3 miliwn hefyd ar y gweill ar gyfer Ysgol Gynradd Ffynnon Taf yn Ffynnon Taf, ac mae pedwar prosiect cyffrous i ddarparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar draws ardal ehangach Pontypridd yn mynd yn eu blaenau, diolch i fuddsoddiad o oddeutu £56 miliwn.

“Bydd y prosiectau arfaethedig ar gyfer  Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Penygawsi ac Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn cael gwared ar yr holl adeiladau mae'r ysgolion yn eu defnyddio ar hyn o bryd, ac yn creu amgylcheddau dysgu deniadol y bydd staff a disgyblion yr ysgolion yn elwa ohonyn nhw. Bydd cyfleoedd hefyd i aelodau'r cymunedau lleol ddefnyddio'r cyfleusterau newydd. Bydd modd i aelodau'r Cabinet benderfynu symud y cynlluniau yma yn eu blaenau er mwyn datblygu eu dyluniad a bydd modd i Aelodau gymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru hefyd.”

Wedi ei bostio ar 14/07/2021