Skip to main content

Cyhoeddi Rhybudd am Fatris yn Achosi Tanau Gwastraf

Amcangyfrifir bod batris wedi achosi dros 260 o danau mewn safleoedd gwastraff ledled y DU yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac yn sgil hyn, mae'r ffordd y mae'r Cyngor yn casglu ac yn ailgylchu batris yn newid.

Fydd batris y cartref ddim yn cael eu casglu o ymyl y ffordd mwyach. Dylai preswylwyr fynd â'u batris i un o'r nifer o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar draws Rhondda Cynon Taf neu i siop manwerthu leol sy'n ailgylchu batris.

Mae batris rhydd wedi achosi nifer o broblemau i'r Cyfleuster Adennill Deunydd (MRF) yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd i'r batris fynd yn sownd a thorri'r peiriant neu achosi tân yn y safle didoli.

Does dim modd rhoi batris cartref, arferol (AA, AAA, C, D) mewn bagiau ailgylchu batri oren i'w gosod allan ar ymyl y ffordd i'w hailgylchu. Mae hyn yn dilyn nifer o achosion lle mae preswylwyr wedi gosod batris rhydd yn y bagiau anghywir – naill ai yn y bagiau ailgylchu CLIR neu yn y bagiau gwastraff du.

Mae'r Cyngor yn gofyn i breswylwyr gael gwared ar eu batris yn gyfrifol, trwy gadw gafael arnyn nhw a mynd â nhw naill ai i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned pan fyddan nhw'n mynd yno nesaf, neu i lyfrgell leol, Canolfan IBobUn neu un o'r nifer o siopau manwerthu sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth ailgylchu batris.

Os bydd batri'n cael ei gasglu yn rhan o gasgliad ailgylchu neu wastraff cyffredinol, yna mae risg y gallai'r peiriant gwasgu ar y cerbyd casglu greu twll yn y batri, a peri iddo fod yn ansefydlog. Gallai'r batri danio yn sgil hyn, gan achosi tân yng nghefn y cerbyd sbwriel. Bydd angen delio â'r tân yn ddiogel a gallai hyn oedi casgliadau. 

Mae nifer o eitemau o'r cartref hefyd yn cynnwys batris lithiwm ailwefradwy - mae'r eitemau yma hefyd yn beryglus a dylech chi ddim eu rhoi nhw yn eich bagiau gwastraff cyffredinol neu fagiau ailgylchu wrth ymyl y ffordd. Mae modd mynd â phob cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (WEEE) i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned.

Ar hyn o bryd mae chwe Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf:

  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Glynrhedynog, Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas, Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Glantaf, Heol Ffynnon Taf, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
  • Canolfan Ailgylchu Llantrisant, Heol Pant-y-Brad oddi ar Heol-y-Sarn, Ystad Ddiwydiannol Llantrisant, CF72 8YT
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ

Ar hyn o bryd, mae'r holl Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ledled Rhondda Cynon Taf ar agor rhwng 8am a 7.30pm ac yn gweithredu o dan reolau llym COVID-19.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Byddwn i'n annog preswylwyr i ddilyn y broses gasglu newydd ac i gael gwared ar eu batris yn gyfrifol.

“Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn cynnig  gwasanaethau ailgylchu bob dydd i’n preswylwyr. Yn syml, cadwch eich batris yn ddiogel a'r tro nesaf y byddwch chi'n ymweld â chanolfan, rhowch nhw yn y bin ailgylchu sydd ar gael. Fel arall, dylai fod gan bob siop manwerthu sy'n gwerthu batris gyfleusterau ailgylchu yn y siop.

”Mae preswylwyr RhCT bob amser wedi bod yn ailgylchwyr gwych ac rydw i'n siŵr y byddan nhw'n parhau â'u brwydr yn erbyn gwastraff i helpu RhCT i gyrraedd ei darged o ailgylchu dros 80% o'i wastraff erbyn 2024/25. Daliwch ati RhCT!”

I gael rhagor o wybodaeth am y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned a'r rheolau presennol sydd ar waith, ewch i www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.

Wedi ei bostio ar 29/07/21