Skip to main content

Cabinet yn cytuno ar ymgynghoriad Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg

School classroom generic 1

Mae Aelodau'r Cabinet wedi cytuno i'r Cyngor gynnal proses ymgysylltu ac ymgynghori mewn perthynas â chyhoeddi'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg newydd, ar ôl trafod ei ddrafft diweddaraf.

Cyflwynodd adroddiad i gyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 20 Gorffennaf ddrafft o'r cynllun i Aelodau, gan argymell eu bod yn cytuno i gynnal proses ymgynghori gydag ystod eang o randdeiliaid. Y bwriad yw rhannu canlyniadau'r ymarfer ymgynghori yng nghyfarfod y Cabinet yn y dyfodol.

Rhaid i Awdurdodau Lleol yng Nghymru baratoi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae'n ofynnol o dan y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 ac mae'n cynnwys cynigion a thargedau i wella cynllunio a safonau Addysg ac Addysgu Cyfrwng Cymraeg, ac adrodd ar y cynnydd a wnaed tuag at dargedau penodol yn y meysydd yma.

Targed y Cyngor yn ystod oes 10 mlynedd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg cyfredol, hyd at 2032, yw cynyddu canran disgyblion Blwyddyn 1 mewn Addysg Cyfrwng Cymraeg o 8% i 12% (o 506 i rhwng 720 a 825). Mae'r ffigurau targed yma yn seiliedig ar fethodoleg Llywodraeth Cymru, sy'n cydnabod y gwahanol heriau sy'n wynebu Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg hefyd yn cynnwys nifer o ddeilliannau penodol, sy'n amrywio o weld rhagor o ddisgyblion meithrin a derbyn, i well darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, rhagor o ddisgyblion yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn Gymraeg a chynyddu nifer y staff sy'n gallu dysgu'r Gymraeg fel pwnc.

Ddydd Mawrth, cytunodd y Cabinet ag argymhellion yr adroddiad, a bydd y Cyngor nawr yn paratoi ymarfer ymgynghori dros gyfnod o wyth wythnos. Yn ogystal â hyn, bydd y Pwyllgor Craffu – Plant a Phobl Ifainc a Grŵp Llywio'r Cabinet ar faterion y Gymraeg yn craffu arno.

Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg drafft wedi'i gynnwys fel Atodiad i'r adroddiad gafodd ei gyflwyno i gyfarfod dydd Mawrth, ac mae ar gael i'r cyhoedd ei weld ar wefan y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Mae'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ganllaw pwysig i'r Cyngor allu cyfrannu at weledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae'r Cynllun yn amlinellu sawl deilliant allweddol yn rhan o un prif darged a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef cynyddu nifer y disgyblion Blwyddyn 1 mewn Addysg cyfrwng Cymraeg rhwng 8% a 12%, erbyn 2032.

“Mae angen dull amlochrog er mwyn cyrraedd y targed yma. Trwy sicrhau bod Addysg Cyfrwng Cymraeg ar gael yn y lleoliad cywir o'r Blynyddoedd Cynnar hyd at addysg gynradd ac uwchradd, gan symud ymlaen i addysg uwch ac addysg bellach i bob disgybl, beth bynnag fo'u hanghenion dysgu.

“Ym mis Ionawr 2021, derbyniodd y Cabinet ddiweddariad manwl ar weithredoedd a buddsoddiad y Cyngor tuag at ddeilliannau'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae dwy enghraifft gyfredol o fuddsoddiad rhagweithiol yn cynnwys datblygiadau cyffrous yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Rhydywaun. Bydd gwaith yno yn dechrau yn ystod y gwyliau haf. Bydd y prosiectau gwerth £4.5 miliwn a £12.1 miliwn yn cynyddu darpariaeth Gymraeg yn y ddwy ysgol erbyn 2022, a'r bwriad oedd targedu ardaloedd lle mae'r galw yn fwy na'r capasiti.

“Er mai'r Cyngor sydd â'r cyfrifoldeb statudol dros y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, mae yna sawl grŵp arall sy'n chwarae rhan allweddol wrth barhau i baratoi, gweithredu a gwerthuso'r cynllun. Mae'r Cyngor yn y broses o sefydlu grŵp llywio'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, a fydd yn darparu ffocws effeithiol yn yr Awdurdod Lleol ac yn gweithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau allanol yma.

“Bydd y sefydliadau yma yn rhanddeiliaid allweddol yn ein hymgynghoriad sydd ar ddod, nawr bod y Cabinet wedi cytuno i'w gynnal, a bydd yr adborth sy'n dod i law yn rhan o'r broses honno yn cael ei adrodd yn ôl i gyfarfod y Cabinet yn y dyfodol."

Wedi ei bostio ar 21/07/21