Skip to main content

Gwaith i adeiladu maes parcio newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Hirwaun

Hirwaun Primary - External - May 2021-13

Bydd gwaith yn dechrau maes o law i greu maes parcio newydd yn Ysgol Gynradd Hirwaun. Mae'r gwaith yn rhan o fuddsoddiad diweddar Ysgolion yr 21ain Ganrif, a bydd yn ategu gwaith llwybrau diogel y Cyngor yn y gymuned a'r ardal leol. 

Mae Ysgol Gynradd Hirwaun wedi elwa o fuddsoddiad gwerth £10.2 miliwn sydd wedi'i ddarparu ar y cyd â Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Gorffennodd y contractwr Morgan Sindall adeilad newydd sbon yr ym mis Tachwedd 2020, ac fe ddaeth gwaith allanol i greu dwy ardal gemau aml-ddefnydd, ardal ddysgu mewn coetir a chae chwaraeon glaswellt i ben yn ddiweddar.

Bydd newidiadau i’r ddalgylch ysgolion lleol hefyd yn dod i rym ar gyfer y flwyddyn academaidd 2021/22. Yn sgil hynny, bydd disgyblion sy'n byw yn ardal Penderyn yn cael eu croesawu i'r cyfleusterau newydd gwych yn Ysgol Gynradd Hirwaun ym mis Medi 2021.

Ym mis Mai 2021, cychwynnodd y Cyngor gynllun i ddarparu croesfan newydd i gerddwyr ar Heol Aberhonddu yn Hirwaun. Bydd y groesfan yn darparu man croesi diogel ar draws y briffordd ger y gyffordd â Stryd y Groes. Aeth gwaith cyfleustodau hefyd rhagddo yn ystod yr wythnosau diwethaf ger Maes Manceinion, er mwyn paratoi ar gyfer y cynllun i ddarparu maes parcio ysgol newydd ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor, ond sydd ddim yn cael ei ddefnyddio.

Bydd y gwaith o osod maes parcio newydd yn dechrau Ddydd Llun, 5 Gorffennaf, ar ôl i'r Cyngor benodi cwmni Horan Civil Engineering yn gontractwr ar y prosiect.

Bydd y cynllun wedi'i gwblhau mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd sy'n dechrau ym mis Medi. Bydd y gwaith adeiladu yn gofyn am rywfaint o fesurau rheoli traffig lleol trwy gydol y cynllun.

Yn rhan o'n holl gynlluniau mawr gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif,  mae'r Cyngor yn edrych ar ffyrdd i wella'r llwybrau lleol i'r ysgol ym mhob cymuned er mwyn creu amgylchedd mwy diogel i rieni, gwarcheidwaid a disgyblion. Mae hyn yn amrywio o welliannau i’r priffyrdd a llwybrau troed i gyflwyno cyfleusterau i sicrhau bod modd i gerddwyr groesi'r ffordd yn fwy diogel a mesurau arafu traffig.

Cafodd gwaith llwybrau diogel mewn cymunedau eu cyflwyno yng Nghwmaman, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci ochr yn ochr â datblygiadau ehangach i ysgolion yn 2018/19. Yn ogystal â hynny mae cynlluniau tebyg, ond heb fod yn gysylltiedig â buddsoddiad mewn ysgolion, wedi mynd rhagddynt yn Abercynon a Llwynypia yn 2020, ac yng Nghilfynydd a Llantrisant yn 2021.

Mae angen rhywfaint o fesurau rheoli traffig, a bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gwblhau mor gyflym ac effeithlon â phosibl.

Wedi ei bostio ar 02/07/2021