Daw rhybudd tywydd MELYN y Swyddfa Dywydd oherwydd gwyntoedd a allai fod yn gryf, ar gyfer Rhondda Cynon Taf i gyd, i rym o 8pm heno (dydd Iau, 29 Gorffennaf) tan ganol dydd, yfory (dydd Gwener, Gorffennaf 30).
Mae disgwyl hefyd i gawodydd o law a glaw trwm ddod gyda'r gwyntoedd cryfion hyn ar brydiau. Dylai gyrwyr gymryd gofal ychwanegol yn ystod y cyfnod hwn a gyrru yn ôl yr amodau, gan ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu teithiau.
Bydd y Cyngor yn monitro'r tywydd yn ofalus tra bydd rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym, a bydd yn ymateb i unrhyw broblemau sy'n codi.
Os bydd unrhyw broblemau'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol
Wedi ei bostio ar 29/07/21