Skip to main content

Dirwy am Werthu Nwyddau Ffug

Mae menyw o Rondda Cynon Taf wedi cael ei herlyn yn llwyddiannus gan Adran Safonau Masnach y Cyngor am weithredu busnes twyllodrus ac am fwriadu gwerthu nwyddau ffug a oedd yn ei meddiant.

Pan ymddangosodd y fenyw 29 oed o Gwm Rhondda yn Llys Ynadon Merthyr Tudful, plediodd yn euog i bob un o’r wyth cyhuddiad o fod â bwriad i werthu nwyddau ffug, yn groes i Ddeddf Arwyddnod Masnach 1994. Yn ogystal â hynny, plediodd yn euog i un cyhuddiad o gyflawni a chynnal busnes twyllodrus. Rydyn ni wedi penderfynu peidio â datgelu enw'r fenyw.

Cyfaddefodd y preswylydd iddi werthu a dosbarthu dillad, esgidiau, persawr, eli eillio, bagiau llaw, pyrsiau a cholur ffug rhwng Hydref a Rhagfyr 2019, yn groes i Ddeddf Twyll 2006.

Yn dilyn gwybodaeth daeth i law ynghylch nwyddau ffug yn cael eu gwerthu ar y platfform digidol Facebook, cafwyd ymchwiliad a daeth Safonau Masnach y Cyngor â chyhuddiadau llwyddiannus yn erbyn y wraig.

Meddai Paul Mee, Cyfarwyddwr Grŵp Cyngor Rhondda Cynon Taf am Wasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, ar ôl yr achos llys: “Mae'r gyfraith yno i amddiffyn y cyhoedd a'r cwmnïau rhyngwladol diffuant hynny sydd ag enw da yn fyd-eang am werthu nwyddau o safon mewn mannau parchus.

“Gan weithio ar wybodaeth a ddaeth i law gan y cyhoedd, cynhaliodd ein swyddogion Safonau Masnach, ymchwiliad trylwyr, ac mae hynny wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus yma.

“Yn yr achos yma, cafodd y Ddeddf Twyll 2006 a Deddf Arwyddnod Masnach 1994 eu torri'n ddifrifol ac mae’r unigolyn bellach yn talu’r pris am ei gweithredoedd anghyfreithlon. Roedd gwerthu'r nwyddau ffug yma'n niweidiol i ddefnyddwyr, ac i'r masnachwyr gonest hefyd.

“Mae gan ddefnyddwyr hefyd hawl i wybod bod yr eitemau maen nhw'n eu prynu yn cyd-fynd â'u disgrifiad.”

Cafodd gwarant mynediad ei weithredu yng nghartref yr unigolyn ar 3 Rhagfyr, 2019, pan atafaelodd swyddogion eitemau roedden nhw'n credu eu bod yn ffug. Roedd rhai o'r eitemau wedi'u pacio ac roedd cyfeiriadau arnyn nhw, yn barod i'w hanfon at gwsmeriaid.

Ymhlith yr eitemau cafodd eu atafael oedd dillad, esgidiau, persawr, eli eillio, bagiau llaw, pyrsiau a cholur a oedd yn arddangos enwau brand adnabyddus, gan gynnwys Christian Dior, Emporio Armani, Hugo Boss, Jimmy Choo, Mac, Michael Kors, Nike, Ted Baker, Thierry Mugler, Ugg a Vivienne Westwood.

Cadarnhaodd archwiliad diweddarach o rai samplau enghreifftiol gan berchnogion arwyddnod masnach, neu eu cynrychiolwyr, fod y nwyddau'n ffug.

Gwerth yr eitemau ffug a atafaelwyd oedd £582. Pe byddai'r eitemau yn rhai go iawn, bydden nhw werth mwy na £17,000.

Cafodd cyfrifon PayPal sy'n gysylltiedig â'r diffynnydd eu harchwilio a dangosodd y rhain ei bod yn derbyn arian yn rheolaidd am werthu amrywiaeth o eitemau ffug.

Wrth liniaru, dywedwyd wrth y llys fod y fenyw wedi dweud wrth swyddogion lle'r oedd y nwyddau yn ei chartref. Ar y pryd roedd hi'n berson sengl ac yn dioddef o iselder ac anawsterau ariannol. Roedd rhywun wedi dweud wrthi ei fod yn ffordd i wneud arian.

Wrth Ddedfrydu, nododd y llys fod y fenyw wedi ymgymryd â busnes twyllodrus am sawl mis, a oedd yn dangos cynllunio ar ei rhan hi, ac y byddai'n gwneud elw, er cyn lleied oedd yr elw hynny.

Cafodd y fenyw ddirwy o £600. Yn ogystal â hynny, roedd rhaid iddi dalu £150 o gostau erlyn a £60 yn Ordal Dioddefwr, gan ddod â'r cyfanswm i £810. Rhoddwyd gorchymyn hefyd i fforffedu a dinistrio'r holl eitemau cafodd eu hatafaelu.
Wedi ei bostio ar 06/07/21