Skip to main content

Rhaglen atgyweirio a chynnal a chadw ychwanegol gwerth £3.58 miliwn ar gyfer ysgolion

Nantgwyn - August 2018 -  (16)

Mae Aelodau'r Cabinet wedi cytuno ar raglen atgyweirio a chynnal a chadw ychwanegol ar gyfer ysgolion gan ddefnyddio cyllid gwerth £3.58 miliwn gan Lywodraeth Cymru a'r Cyngor - gan gynnwys dyraniadau i ddarparu canopïau ar gyfer 45 o ysgolion eraill i hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored.

Amlinellodd adroddiad i gyfarfod y Cabinet ddydd Iau, 24 Mehefin y rhaglen arfaethedig o oddeutu 120 o gynlluniau i atgyweirio, cynnal a gwella ysgolion y Cyngor. Cafodd yr Aelodau eu cynghori i gymeradwyo'r rhaglen waith ychwanegol, sy'n ychwanegol at y buddsoddiad presennol ar gyfer moderneiddio ysgolion a’r buddsoddiad yn rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Lluniwyd y rhaglen newydd o ganlyniad i gyllid a ddyranwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021, a chyfrannodd y Cyngor gyllid o'i gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi. Ym mis Ebrill, cytunodd y Cabinet i ddyrannu £3.58 miliwn i ysgolion o gyfanswm o £6.54 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer buddsoddi mewn nifer o flaenoriaethau ar draws y Cyngor.

Amlygodd adroddiad y Cabinet ddydd Iau y byddai'r buddsoddiad ychwanegol yn parhau ag ymdrech y Cyngor i greu rhagor o amgylcheddau Ysgolion yr 21ain Ganrif er mwyn rhoi'r ddarpariaeth ddysgu orau i ddisgyblion a'u cymunedau ehangach.

Amlinellodd hefyd sut mae'r Cyngor wedi cefnogi ysgolion i fodloni canllawiau gweithredol COVID-19, gan wynebu ystod o heriau i ddarparu lleoedd hyblyg, ardaloedd wedi'u hawyru'n dda a lleoedd sy'n addas ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. Un o'r ymyriadau mwyaf llwyddiannus fu darparu canopïau awyr agored, a byddai'r buddsoddiad ychwanegol hefyd yn helpu i ddarparu'r rhain mewn rhagor o ysgolion.

Argymhellodd yr adroddiad i'r Cabinet y dylid gwario cyllid o £3.58 miliwn ar y prosiectau a ganlyn - canopïau ar gyfer ardaloedd addysgu awyr agored (£700,000), gwell awyru (£300,000), toiledau a mannau hylendid newydd (£600,000), gwaith toi (£500,000), gwaith atgyweirio cyffredinol i adeiladau (£680,000), uwchraddio ystafelloedd dosbarth i gyrraedd safonau Ysgolion yr 21ain Ganrif (£500,000) a drysau a ffenestri newydd (£300,000).

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Mae Aelodau’r Cabinet wedi cytuno ar fanylion rhaglen waith ychwanegol arfaethedig ar draws ystâd ysgolion y Cyngor. Bydd hyn yn cyflwyno ystod o brosiectau o waith atgyweirio cyffredinol i uwchraddio ystafelloedd dosbarth a defnyddio lleoedd awyr agored presennol ar gyfer ardaloedd dysgu.

“Mae'r Cabinet wedi cytuno eisoes i ddyrannu cyllid o £3.58 miliwn i ysgolion ym mis Ebrill, yn rhan o fuddsoddiad ehangach ar gyfer meysydd blaenoriaeth diolch i arian gan Lywodraeth Cymru wedi'i ategu gan arian y Cyngor. Bydd y cyllid ychwanegol yma'n ategu ein buddsoddiad parhaus yn Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif a'n Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - a bydd yn sicrhau bod cyfleusterau gwell yn cael eu darparu er budd hyd yn oed rhagor o staff a disgyblion.

“Amlinellodd y manylion yn yr adroddiad i gyfarfod dydd Iau sut y byddai'r cyllid newydd yn cael ei ddyrannu, a dewisodd Aelodau'r Cabinet gytuno ar y rhaglen. Rydw i'n falch y bydd cyllid o £700,000 nawr yn darparu canopïau newydd ar gyfer 45 o ysgolion. Mae hyn wedi profi'n ffordd lwyddiannus o ddefnyddio lleoedd awyr agored i greu ardaloedd dysgu - at ddefnydd COVID-gyfeillgar yn y pandemig, ond hefyd fel cyfleuster parhaol i'w ddefnyddio yn y mwyafrif o dywydd trwy gydol y flwyddyn."

Mae atodiad i'r adroddiad yn rhoi rhagor o fanylion am y cynlluniau arfaethedig - gan gynnwys y prosiectau unigol ar gyfer pob ysgol a lefelau'r buddsoddiad. Yn dilyn cytundeb y Cabinet, bydd y gwaith yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl. Bydd y Cyngor yn gweithio gyda phob ysgol i gyflawni'r prosiectau ac i osgoi aflonyddwch.
Wedi ei bostio ar 25/06/2021