Skip to main content

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021

Armed

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn codi'r faner yn swyddogol i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021.

Yn sgil y cyfyngiadau cyfredol sydd ar waith oherwydd y pandemig byd-eang, mae achlysuron coffa wedi'u cyfyngu unwaith eto eleni. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn awyddus i ddangos ei gefnogaeth flynyddol.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ni i gyd ddangos ein cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o'n cymuned Lluoedd Arfog - mae arnon ni ddyled iddyn nhw.

“O'r milwyr sy'n gwasanaethu gartref a thramor ar hyn o bryd i deuluoedd milwyr, cyn-filwyr a'r Cadetiaid, fydd y Cyngor yma a’i drigolion byth yn anghofio’r aberthau rydych chi wedi’u gwneud ac yn parhau i’w gwneud.

“Unwaith eto eleni yn Rhondda Cynon Taf, byddwn ni'n nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog, gan gadw at yr holl gyfyngiadau cyfredol sydd ar waith, ac rydyn ni'n gofyn i bawb sy'n bwriadu mynychu barchu'r bobl o'i gwmpas.

“Gwisgwch orchudd wyneb pan fyddwch chi yn yr awyr agored, golchwch eich dwylo a defnyddiwch hylif diheintio yn rheolaidd, a chadwch bellter cymdeithasol bob amser. Gyda'n gilydd mae modd i ni sicrhau bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yma yn ein Bwrdeistref Sirol yn un diogel.”

Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012.

Ar 2 Mehefin 2018, rhoddodd yr Awdurdod Lleol hefyd Ryddfraint y Fwrdeistref Sirol i Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, a holl bersonél Yr Awyrlu Brenhinol, o'r gorffennol i'r presennol.

I nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog 2021, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal Gwasanaeth Codi'r Faner swyddogol yn yr awyr agored yn ei adeilad newydd yn Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, am 11am ddydd Mercher, 23 Mehefin.

Bydd ‘Forces Fitness’ hefyd yn cynnal hyn a hyn o sesiynau gweithgaredd hwyl yn yr awyr agored i deuluoedd i ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, ddydd Sadwrn, 26 Mehefin. Rhaid cadw at gyfyngiadau COVID-19 Llywodraeth Cymru bob amser.

Wedi ei bostio ar 25/06/21