Skip to main content

Adborth ymgynghoriad ar gynigion YGG Llyn y Forwyn gwerth £8.5 miliwn

Tonyrefail Primary School - August 2018-17 generic

Mae ymgynghoriad cyhoeddus diweddar mewn perthynas ag ysgol newydd arfaethedig gwerth £8.5 miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog wedi dangos cefnogaeth yn lleol o ran y cynlluniau buddsoddi. Bydd y cynlluniau'n cael eu trafod gan y Cabinet yn fuan.

Mae adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Iau 17 Mehefin yn nodi canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus helaeth, a gafodd ei gynnal rhwng 1 Mawrth a 30 Ebrill eleni. Mae'r adroddiad yn argymell i Aelodau gytuno i fwrw ymlaen â'r cynigion. Yn ôl y cynigion, byddai ysgol newydd a chyfleusterau cymunedol yn cael eu cwblhau erbyn 2024, a hynny trwy gyhoeddi Hysbysiad Statudol priodol.

Bwriad cynigion YGG Llyn y Forwyn yw darparu cyfleusterau'r 21ain Ganrif ac ehangu'r cynnig addysg gynradd cyfrwng Cymraeg lleol wrth fynd i'r afael â nifer o gyfyngiadau sydd gan safle presennol yr ysgol. Yn ôl arolwg cyflwr y ddau adeilad Fictoraidd presennol a gafodd ei gynnal yn 2019, nodwyd ‘D’ o ran cyflwr a ‘C’ o ran addasrwydd (lle A yw'r gorau a D yw'r gwaethaf o ran safon). Yn ogystal â hynny, mae angen cynnal gwaith cynnal a chadw gwerth dros £1 miliwn.

Nodwyd safon ardaloedd awyr agored yr ysgol yn arolygiad Estyn yn 2019. Mae'r mannau chwarae serth yn gwneud dysgu yn yr awyr agored yn heriol, a does gan yr ysgol ddim mannau gwyrdd. Dydy'r safle presennol ddim yn hygyrch, mae bysiau'r ysgol yn defnyddio'r ardaloedd preswyl is, a does dim maes parcio i staff. Does dim modd gwneud llawer am broblemau'r safle presennol.

Byddai cynigion y Cyngor, gwerth £8.5 miliwn, yn defnyddio safle newydd yng Nglynrhedynog i ehangu cyfleusterau a chynyddu’r capasiti. Byddai'n cynnwys amgylcheddau dysgu modern a hyblyg, cyfleusterau mewnol ac allanol hygyrch y mae modd i'r gymuned eu defnyddio hefyd, mannau awyr agored gwell i gynnal holl weithgareddau'r cwricwlwm, maes parcio i staff a man gollwng ar gyfer bysiau. Y cynnig yw y bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu ar dir i'r gogledd o Grib-y-ddôl, a gaiff ei alw'n hen Ffatri Chubb.

Cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol a'r gymuned ehangach dros gyfnod o 8 wythnos rhwng mis Mawrth ac Ebrill 2021. Doedd dim modd cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb â'r gymuned o ganlyniad i'r pandemig. Serch hynny, cafodd cyfarfodydd rhithwir â staff, llywodraethwyr a disgyblion YGG Llyn y Forwyn eu cynnal drwy fideo.

Daeth 72 ymateb ysgrifenedig i law gan y gymuned, a hynny trwy arolwg ar-lein ar wefan y Cyngor. Roedd 70 o'r ymatebion yma o blaid y cynnig i adeiladu ysgol newydd. Mae crynodeb llawn o'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'w weld mewn Atodiad i’r adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Iau.

Os bydd Aelodau o'r Cabinet yn cytuno ag argymhellion yr adroddiad, bydd Hysbysiad Statudol ar gyfer y newidiadau yn cael ei gyhoeddi ar 25 Mehefin. Bydd cyfnod ar ôl ei gyhoeddi er mwyn gwrthwynebu. Bydd adroddiad arall yn cael ei drafod gan y Cabinet yn hwyrach y flwyddyn yma, er mwyn gwneud penderfyniad terfynol mewn perthynas â'r cynigion buddsoddi yma.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:  “Y tro diwethaf i'r Cabinet drafod y cynigion oedd mis Ionawr 2021, gan gymeradwyo cyfnod ymgynghori ffurfiol sydd bellach wedi'i gwblhau gan y Cyngor. Mae'r adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Iau yn amlinellu ymateb calonogol iawn gan y cyfranogwyr hynny yn y gymuned. Roedd 70 allan o'r 72 o ymatebion ysgrifenedig o blaid y cynigion.

“Byddai'r ysgol newydd i YGG Llyn y Forwyn yn cael ei chyflawni trwy Raglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, gan ategu prosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif sylweddol sy'n cael eu cyflawni yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r rhain yn cynnwys YGG Aberdâr, Ysgol Gyfun Rhydywaun, Ysgol Gynradd Ffynnon Taf ac ar draws ardal ehangach Pontypridd. Byddai'r buddsoddiad gwerth £8.5 miliwn ar gyfer Glynrhedynog yn darparu adeilad di-garbon gan gydymffurfio ag ymrwymiadau Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor.

“Byddai'r prosiect hefyd yn cyfrannu at y deilliannau, sydd i'w gweld yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor, i wella ac ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y Fwrdeistref Sirol. Byddai'r cynigion yn gwella safon y ddarpariaeth bresennol yng Nglynrhedynog, a hynny trwy fuddsoddi mewn safle hygyrch â chyfleusterau'r 21ain Ganrif, darpariaeth i'r gymuned a chyfleoedd ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. Dydy pob un o'r rhain ddim ar gael ar safle presennol yr ysgol ar hyn o bryd.

“Bydd y Cabinet yn ystyried yr adroddiad Swyddog a chanlyniad y broses ymgynghori yn y cyfarfod ddydd Iau. Gallai Aelodau ddewis symud y cynigion ymlaen at gam nesaf y broses ymgynghori.”

Wedi ei bostio ar 11/06/21