Skip to main content

Dirwy am Werthu Nwyddau Ffug

Mae dau o drigolion Rhondda Cynon Taf wedi cael eu herlyn yn llwyddiannus gan Adran Safonau Masnach y Cyngor am weithredu busnes twyllodrus a gwerthu nwyddau ffug neu fod â nhw yn eu meddiant.

Plediodd y trigolion, sy’n 50 a 29 oed ac yn byw ym Mhenrhiwceibr, yn euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful i naw cyhuddiad yr un – un am weithredu busnes twyllodrus yn groes i Ddeddf Twyll 2006, ac wyth trosedd yn groes i Ddeddf Nodau Masnach 1994 ar gyfer gwerthu nwyddau â Nodau Masnach anawdurdodedig, neu 'nwyddau ffug', a bod â'r nwyddau hynny yn eu meddiant i'w gwerthu.

Daeth Adran Safonau Masnach y Cyngor â'r cyhuddiadau llwyddiannus yn eu herbyn yn dilyn ymchwiliad o ganlyniad i gŵyn amdanyn nhw mewn perthynas â gwerthu nwyddau ffug ar Facebook.

Meddai Paul Mee, Cyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau’r Gymuned a Gwasanaethau i Blant Cyngor RhCT, ar ôl yr achos llys: “Mae'r gyfraith yn bodoli i amddiffyn y cyhoedd a'r cwmnïau rhyngwladol go iawn hynny sydd ag enw da yn fyd-eang am werthu nwyddau o safon o ffynonellau cymeradwy.

“Gan weithio ar wybodaeth a ddaeth i law gan y cyhoedd, cynhaliodd ein swyddogion Safonau Masnach ymchwiliad trylwyr sydd wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus yma.

“Roedd y drosedd ddifrifol yma'n mynd yn groes i Ddeddf Twyll 2006 a Deddf Nodau Masnach 1994 ac mae'r fam a'r ferch bellach yn talu'r pris am eu gweithredoedd anghyfreithlon. Roedd gwerthiant y nwyddau ffug yma nid yn unig yn niweidiol i ddefnyddwyr, ond hefyd i'r masnachwyr go iawn.

“Mae gyda defnyddwyr hefyd yr hawl i wybod bod yr eitemau maen nhw'n eu prynu yn cyd-fynd â'u disgrifiadau.”

Ar ôl cynnal ymholiadau, daeth i'r amlwg fod y Grŵp Facebook dan sylw wedi bod ar waith am ddau fis. Ar 2 Rhagfyr 2019, cafodd gwarant ei ddefnyddio i gael mynediad at y cyfeiriad a gafodd ei nodi ar gyfer y diffynyddion. Cafodd eitemau â nodau masnach cofrestredig eu hatafaelu, gan gynnwys esgidiau, dillad, bagiau llaw, persawr i ferched a dynion, dol a setiau colur, yn ogystal â gwerth £843.96 mewn arian parod, offer cyfrifiadurol a ffonau symudol.

At ei gilydd, cafodd cyfanswm o 72 o eitemau ffug, yn ôl yr honiadau, eu hatafaelu. Roedd y brandiau dan sylw yn cynnwys Fred Perry, Chanel, Hugo Boss, Calvin Klein, Lacoste, GHD, Cloud 9, Jimmy Choo, Marc Jacobs, Beats, North Face, Levi, Dior, Michael Kors, Tommy Hilfiger a Ralph Lauren.

Wrth geisio lliniaru difrifoldeb y drosedd yn y llys, cafodd ei ddatgan fod y nwyddau'n ffug heb os, o ystyried y pris arnyn nhw.

Cafodd y ddwy a oedd yn euog ddirwy o £200 am weithredu busnes twyllodrus. Cawson nhw ddirwy o £200 hefyd am bedair o'r troseddau Nodau Masnach. Doedd cosb ar wahân am y pum trosedd a oedd yn weddill heb ei dyfarnu.  Hefyd, cafodd y ddwy orchymyn i dalu Gordal Dioddefwr o £100 a £75 o gostau'r llys, gan ddod â'r cyfanswm i £1,175 yr un.

Clywodd y llys fod yr arian a gafodd ei atafaelu'n eiddo i fab un o’r diffynyddion, a chafodd ei ddychwelwyd i'r diffynnydd. Hefyd, cafodd gorchymyn ei gyhoeddi ar gyfer fforffedu a dinistrio'r holl nwyddau eraill a gafodd eu hatafaelu, gan gynnwys y gliniadur a'r iPad.

Cafodd y nwyddau ffug dan sylw eu creu a'u cyflenwi heb awdurdod perchnogion y Nodau Masnach, sy'n frandiau mawr o fri. Yn ôl eu natur, fyddai'r gwiriadau diogelwch ac ansawdd trwyadl y mae'r brandiau yma'n hysbys amdanyn nhw ddim wedi'u cynnal ar y nwyddau yma. 

Wedi ei bostio ar 25/06/21