Mae dau ddisgybl ysgol o Rondda Cynon Taf wedi cael eu derbyn i gymdeithas Mensa gyda sgoriau IQ uwch na rhai Albert Einstein a Syr Stephen Hawking.
Mae Jessica Casey, 13, o Aberdâr, wrth ei bodd â'r fraint, ac yn ymuno â'i brawd Harrison, 15 oed, sydd eisoes yn aelod o'r gymdeithas. Mae'r ddau'n astudio yn Ysgol Gymunedol Aberdâr, ble mae Jessica ym Mlwyddyn 8.
Dechreuodd Jessica ddarllen yn 1 oed ac roedd yn rhannu rhifau erbyn ei bod yn 3 oed. Sgoriodd hi 162, sef y sgôr uchaf bosibl, yn ei phrawf Mensa. Dim ond 1% o'r boblogaeth sydd wedi cyflawni'r sgôr yma.
Dywedodd Jessica ei bod hi ddim wedi ymarfer cyn sefyll y prawf dwy awr o hyd pan oedd hi'n 12 oed. Sgoriodd Harrison 162 hefyd, ac yntau wedi sefyll y prawf yn 12 oed fel ei chwaer.
Doedd Albert Einstein a Syr Stephen Hawking erioed wedi sefyll prawf Mensa, ond yn ôl amcangyfrif y gymdeithas, bydden nhw wedi sgorio 160.
Meddai'rCynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae'r newyddion yma'n wych. Llongyfarchiadau enfawr i Jessica a Harrison ar eu llwyddiant academaidd anhygoel.
“Rydyn ni'n falch o bawb sy'n astudio yn Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni'n dathlu eu cyflawniadau ar bob achlysur. Mae ymuno â Mensa yn un o'r cyflawniadau hynny ac rydyn ni'n dymuno'n dda i Jessica a Harrison gyda'u hastudiaethau a'r gyrfaoedd maen nhw'n eu dewis yn y dyfodol."
Dydy Jessica erioed wedi colli diwrnod yn yr ysgol, ac eithrio pan oedd ar gau oherwydd y pandemig. Ei hoff bynciau yw Celf a Saesneg, ond mae hi hefyd yn rhagori ym mhob pwnc arall.
Meddai'r aelod newydd o Mensa, Jessica: “Rwy’n berson eithaf hamddenol a doedd dim angen i mi adolygu ar gyfer y prawf Mensa. Mae'r prawf yn ymwneud ag adnabod patrymau ac rwy'n gallu cofio pethau'n weddol hawdd. Felly, roedd cael gwybod fy mod i'n rhan o 1% o'r boblogaeth yn eithaf diddorol.
“Ces i fy synnu ond erbyn hyn rwy'n derbyn ei fod yn rhan o bwy ydw i. A fydd e ddim yn newid hynny.”
Roedd Harrison yn darllen y papurau newydd yn 1 oed ac yn tynnu a rhannu rhifau yn 3 oed. Ei hoff bwnc yn yr ysgol yw Mathemateg.
Meddai'r aelod o Mensa, Harrison: “Mae'n dod yn naturiol i mi, ond mae fy chwaer a minnau'n hynod falch o fod yn aelodau o Mensa.”
Roedd rhieni Jessica a Harrison, Amy a Lee, sy'n beiriannydd mecanyddol, wedi sylweddoli bod eu plant yn ddawnus yn academaidd cyn eu bod yn ddigon hen i fynd i'r ysgol gan fod y ddau wrth eu bodd yn darllen a chyfrifo rhifau cyn eu pen-blwyddi'n 3 oed.
Meddai llefarydd ar ran Mensa: “Sgôr Jessica o 162 yw’r uchaf y mae modd ei chyflawni ym mhrawf Cattell III B gan rywun o dan 18 oed. I oedolion mae'n 161.
“Dydy hyn ddim yn golygu ei bod yn amhosibl bod yn fwy dawnus a deallus. Mae'r seicolegwyr a ddyfeisiodd y prawf o'r farn bod gwahaniaethu pellach rhwng lefelau gallu uwchlaw 162 ddim yn ddigon manwl gywir i fod yn ystyrlon.
“Gan fod 162 yn cynrychioli haen uchaf yr 1% cant uchaf o’r boblogaeth, hoffen ni groesawu Jessica i Mensa, lle mae’n ymuno â chymuned sy'n tyfu'n gyflym o bobl ifainc yn eu harddegau ac aelodau iau. Rydyn ni'n gobeithio y bydd hi'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sy'n dod yn sgil yr aelodaeth ac yn gwneud ffrindiau newydd a dysgu pethau newydd."
Cafodd Mensa, cymdeithas IQ uchel hynaf y byd, ei sefydlu yn Rhydychen yn 1946 gan ddau fargyfreithiwr. Ei hegwyddor yw bod pob aelod yn gyfartal waeth beth fo'u hoedran, eu rhywedd, eu cenedligrwydd, eu crefydd, eu hil neu'u gwleidyddiaeth. Dim ond un maen prawf sydd ar gyfer aelodaeth – IQ wedi'i fesur sy'n gosod aelodau yn 2% uchaf y boblogaeth.
Mae tua 140,000 o aelodau Mensa ledled y byd a thua 19,000 yn y DU ac Iwerddon. Mae'r aelod ieuengaf yn 4 oed a'r hynaf yn 102 oed.
Meddai Emma Harris, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gymunedol Aberdâr: “Rydyn ni i gyd yn hynod falch o Jessica a Harrison, a phob un arall sy'n astudio yn yr ysgol, yn enwedig pan maen nhw'n cael clod a'u cydnabod am eu doniau a'u gallu rhagorol.”
Wedi ei bostio ar 04/06/2021