Skip to main content

Y Maer yn Canmol Gorsaf Radio Leol

Mae'r Cynghorydd Jill Bonetto, Maer Rhondda Cynon Taf, wedi canmol gwaith gorsaf radio GTFM wrth iddi ymestyn ei harlwy i bobl Cwm Cynon yn dilyn derbyn caniatâd gan Ofcom i godi trawsyryddion-dderbynyddion newydd. 

Cafodd y gwasanaeth newydd ei lansio'n swyddogol gan y Maer ddydd Gwener, 11 Mehefin, yn ystod darllediad byw o Aberdâr.

Er bod yr orsaf bob amser wedi darlledu newyddion a gwybodaeth leol am Gwm Cynon, roedd y dirwedd yn golygu ei bod hi'n anodd i'r signal deithio lan y cwm. Bellach, mae modd gwrando ar GTFM yn glir ym mhob rhan o'r cwm, gan gynnwys Aberdâr ac Aberpennar, ar 100.7 a 107.1FM. Mae'r signal yn gorgyffwrdd â'r signal gwreiddiol (107.9FM) yn ardal Abercynon.

Cafodd y gwaith yma ei gyflawni ar ôl i'r orsaf dderbyn cyllid grant gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd, gyda chymorth ychwanegol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, cymdeithas dai Trivallis a Chlwb Golff Aberpennar.

Cafodd GTFM ei sefydlu fel prosiect radio cymunedol gan Gymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Glyn-taf yn 1999, a bu'r gymdeithas yn gweithio gydag unigolion oedd â diddordeb yn y maes i gefnogi'r orsaf. Yn 2001, cafodd ei dewis i fod yn rhan o brosiect 12 mis gan yr Awdurdod Radio, er mwyn gweld a oedd hi'n hyfyw i'w sefydlu fel 'Radio Mynediad' barhaus. Dim ond 15 o grwpiau a gafodd eu dewis ar gyfer y prosiect yma, a GTFM oedd yr unig grŵp yng Nghymru i gael ei ddewis.

O ganlyniad i'r cynllun yma, roedd modd dechrau darlledu GTFM drwy'r dydd, ac ers hynny, mae'r orsaf wedi mynd o nerth i nerth. Mae bellach yn elusen gofrestredig, ac mae wedi bod yn darlledu amserlen lawn ers 19 mlynedd.

Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Maer Rhondda Cynon Taf: "Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn anodd i bawb, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau symud, pan roedd gofyn i bawb aros gartref oni bai fod wir angen iddyn nhw fynd allan."

"Yn ystod y cyfnod yma, trodd rhagor o bobl at y radio, ac roedd hi'n braf clywed lleisiau cyfarwydd yn ein cyfarch - rhwng yr holl gerddooriaeth wych wrth gwrs.

"Mae GTFM yn orsaf radio leol i breswylwyr RhCT, ac felly, rydyn ni oll yn gyfarwydd â lleisiau'r cyflwynwyr.

"Rydw i felly'n falch iawn o lansio'r trawsyryddion-dderbynyddion newydd yma, a fydd yn sicrhau bod modd gwrando ar yr orsaf yng Nghwm Cynon. Mae GTFM yn darparu gwasanaeth cymunedol arbennig sy'n diddanu'r gwrandawyr yn ogystal â rhannu gwybodaeth bwysig."

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Mae'r newyddion da yma yn golygu bod modd i ragor o bobl ledled Rhondda Cynon Taf wrando ar GTFM, gan roi cyfle i ragor o wrandawyr fwynhau ei gynnwys, sy'n trafod materion a gwybodaeth leol."

Meddai Cadeirydd Ymddiriedolwyr GTFM, Colin Dixon: "Bydd penderfyniad Ofcom i ddyfarnu bod modd ymestyn ein signal i Gwm Cynon yn swyddogol yn ein helpu ni i ddarparu rhagor o hysbysebion cost-effeithiol i fusnesau lleol, yn ogystal â rhoi llwyfan i grwpiau cymunedol ac elusennau hyrwyddo eu gwaith arbennig i gynulleidfa ehangach."

Meddai Rheolwr Gorsaf GTFM, Terry Mann: "Rydw i wrth fy modd â'r ffaith ein bod ni bellach yn darlledu'n glir i Gwm Cynon. Rydyn ni bob amser wedi cynnwys newyddion a gwybodaeth am Gwm Cynon yn ein rhaglenni, felly bellach mae modd i ragor o bobl wrando ar ein gwasanaeth cymunedol hollgynhwysol a rhyngweithiol, a chyfrannu ato. 

Mae'r canwr adnabyddus Ragsy hefyd yn gwirfoddoli gyda GTFM, ac fe berfformiodd yn rhan o'r lansiad byw yn Aberdâr.

Nesaf, mae GTFM yn gobeithio gwella ei signal FM yn ardaloedd Ynys-hir/Porth a Thonyrefail, yn ogystal ag edrych ar ddarlledu digidol (DAB) yn 2022. 

Gwrandewch ar GTFM yma

Wedi ei bostio ar 15/06/21