Skip to main content

Yr wybodaeth ddiweddaraf am Goridor Trafnidiaeth y Gogledd-orllewin - cyhoeddi cynlluniau penodol

talbot-green

Mae cynlluniau sylweddol mewn perthynas â gwella cyfleusterau teithio rhwng cymunedau yn Rhondda Cynon Taf a gogledd-orllewin Caerdydd wedi'u cyhoeddi, yn dilyn cam cyntaf astudiaeth drafnidiaeth sydd wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd yr astudiaeth sy'n ymwneud â 'Choridor Trafnidiaeth y Gogledd Orllewin' ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf 2019 ac mae bellach wedi nodi opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus tymor byr a hir dymor o Bont-y-clun, Tonysguboriau, Llantrisant, Beddau, Creigiau a Phlasdŵr tuag at Ganol Dinas Caerdydd - gan annog pobl i deithio i'r cyfeiriad arall tuag at ardal Rhondda Cynon Taf.

Bydd Cynghorau Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd nawr yn mynd ati i adolygu'r cynlluniau er mwyn ymchwilio i'r ffordd orau o wasanaethu trigolion lleol a chymudwyr yn y ddwy ardal. Cyn bo hir, bydd y cynlluniau'n cael eu cyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyngor Rhondda Cynon Taf (15 Mehefin) a'r Cabinet (17 Mehefin).

Yn dilyn yr astudiaeth, mae cynlluniau penodol wedi'u cyflwyno sy'n bwriadu gwella cysylltiadau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus ar hyd y Coridor erbyn 2025. Maen nhw'n cynnwys y canlynol:

  • Cynyddu nifer y gwasanaethau ar Linell y Ddinas gydag o leiaf bedwar trên yn teithio rhwng Caerdydd Canolog a Radur bob awr, gyda gorsaf newydd ym Melin Trelái.
  • Cynyddu nifer y gwasanaethau sy'n teithio ar Brif Linell Reilffordd De Cymru, er mwyn gwella gwasanaethau sy'n teithio o Bont-y-clun.
  • Gorsaf 'Parcffordd' newydd ar Brif Linell Reilffordd De Cymru ger Cyffordd 34 yr M4.
  • Gwella ansawdd y gyfnewidfa mewn gorsafoedd trên gan gynnwys cyfleusterau Teithio Llesol, bws, rheilffordd a char, er enghraifft yng ngorsafoedd Parc Waungron a Radur.
  • Gwasanaeth parcio a theithio strategol ar Gyffordd 33 yr M4.
  • Llwybr Cludiant Cyflym i Fysiau newydd rhwng canol Caerdydd a Chyffordd 33 ar hyd Heol Lecwydd a'r A4232.
  • Lôn fysiau a ffordd gangen sy'n rhoi mynediad i Blasdŵr o'r A4232 (tua'r gogledd a'r de).
  • Llwybr Cludiant Cyflym i Fysiau newydd o Ganol Caerdydd i Blasdŵr ar hyd Heol y Bont-faen tua'r Dwyrain, Parc Waungron a'r Tyllgoed.
  • Llwybr Cludiant Cyflym i Fysiau newydd o Gyffordd 33 i Donysguboriau ar hyd yr A4119 gyda chysylltiadau er mwyn parhau i deithio i gymunedau yn ne Rhondda Cynon Taf.

Mae'r cynlluniau cychwynnol yma (Achos Amlinellol Strategol) yn cynrychioli'r cyntaf o bum cam sydd wedi'u sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi cynlluniau seilwaith sylweddol ar waith. Y bwriad erbyn hyn yw bwrw ymlaen gydag ail gam y cynigion (Achos Amlinellol Strategol). Does dim penderfyniadau ffurfiol wedi'u gwneud eto, a bydd opsiynau strategol yn cael eu nodi a'u cynnwys yn y rhestr fer nes ymlaen yn y broses.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch bod y cynlluniau pwysig yma wedi’u cyflwyno yn dilyn yr astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Rhondda Cynon Taf ddwy flynedd yn ôl. Nod y cynigion penodol yw creu system drafnidiaeth gyhoeddus gyflym a fydd yn cysylltu cymunedau ar hyd y Coridor â Metro De Cymru ehangach.

“Cafodd y Coridor ei nodi ar gyfer yr astudiaeth yma am sawl reswm, nodwyd ardal Gogledd Orllewin Caerdydd ynghyd â Thonysguboriau a Llantrisant fel Ardal Cyfleoedd Strategol sydd â'r potensial am dwf economaidd yn rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Yma yn Rhondda Cynon Taf, mae'r Cyngor wedi nodi Coridor yr A4119 a Rhanbarth Porth Cwm Rhondda yn yr un modd.

“Mae'r A4119 sy'n gwasanaethu Coridor Gogledd Orllewin Caerdydd hefyd yn wynebu tagfeydd traffig mawr, yn enwedig yn ystod cyfnodau teithio prysur. Mae disgwyl y bydd hyn yn gwaethygu felly mae angen system drafnidiaeth wedi'i hintegreiddio'n o ansawdd uchel yn fwy nag erioed. Elfen allweddol arall yw'r datblygiadau preswyl a gweithgarwch economaidd yn Nhonysguboriau a Llantrisant, fel sydd wedi'i amlinellu yn y Cynllun Datblygu Lleol. Byddai datblygiadau yn y dyfodol yn rhoi pwysau sylweddol pellach ar y rhwydwaith trafnidiaeth presennol heb gynnig datrysiad effeithiol.

“Mae’r gwelliannau tymor byr a gafodd eu cyflwyno heddiw yn canolbwyntio ar wella cyfleusterau Teithio Llesol sy’n gysylltiedig â bysiau hyd at 2025, tra bod gwaith yn parhau er mwyn datblygu cynigion ar gyfer gwella llwybrau rheilffyrdd / tramiau sy’n gwasanaethu Gogledd Orllewin Caerdydd a thu hwnt i ardal Rhondda Cynon Taf rhwng 2025 a 2030. Mae'n bosibl y bydd modd i hyn ddefnyddio'r coridor rhwng canol Caerdydd, Cyffordd 33 a Chreigiau, a allai gael ei ymestyn i gynnwys Cross Inn, Pont-y-clun a Beddau.

“Mae'r cynigion cyffrous a gyhoeddwyd heddiw yn bwysig ar lefel ranbarthol, ac yn cynnig y potensial i ddenu cyllid enfawr i’r ardal gan leihau amseroedd teithio, trawsnewid ymddygiad wrth deithio a sicrhau bod gan drigolion mynediad gwell i swyddi a chyfleoedd eraill. Byddwn ni'n sicrhau ein bod ni'n rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau'r cynllun gyda thrigolion, bydd gwaith ymgynghori sylweddol â rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ystyriaeth bwysig wrth i ni fynd ati i ddatblygu'r cynlluniau.”

Wedi ei bostio ar 11/06/21