Bydd crynodeb o'r ymatebion i ymgynghoriad y Cyngor ar Deithio Llesol yn cael ei rannu gyda'r Cabinet - gyda sawl newid i'r ddarpariaeth o ran cerdded a beicio bellach yn cael eu hystyried yn dilyn adborth gan 695 o gyfranogwyr.
Cynhaliodd y Cyngor yr ymgyrch ymgysylltu ar y cyd â Llywodraeth Cymru rhwng 23 Rhagfyr 2020 a 12 Chwefror 2021. Roedd hyn yn gyfle i breswylwyr ddweud eu dweud am y llwybrau cerdded a beicio cyfredol yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â nodi'r hyn yr hoffen nhw ei weld yn y dyfodol. Mae'r gwaith yma'n cefnogi Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ymgynghori ar lwybrau Teithio Llesol lleol o ansawdd uchel, sydd wedi'u cynnwys ar Fap Rhwydwaith Integredig, a'u datblygu.
Yn rhan o'r ymgynghoriad yma, roedd modd i breswylwyr adael sylwadau ar y Map cyfredol, gofyn am lwybr newydd rhwng dau bwynt penodol a rhoi gwybod am anawsterau o ran unrhyw lwybrau cyfredol. Mae'r adroddiad, a gaiff ei gyflwyno yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Iau, 17 Mehefin, yn cynnwys Atodiad sy'n rhestru'r 695 sylw yn eu cyfanrwydd, ynghyd ag ymateb y Cyngor a gwybodaeth o ran p'un a fydd y Map yn cael ei ddiweddaru ar gyfer pob pwynt penodol a nodwyd.
Mae'r Atodiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddemograffeg y rhai a ymatebodd - ynghyd â'r lleoliadau y gwnaethon nhw eu trafod. Yr ardaloedd mwyaf poblogaidd oedd Pontypridd (78 ymatebydd), Aberdâr (63), Llanharan (63), Llantrisant (56), Pentre'r Eglwys (28) a Ffynnon Taf (28).
Mae gwaith eisoes wedi mynd rhagddo ar rai elfennau a gafodd eu nodi gan gyfranogwyr, a hynny yn dilyn ymarferion ymgysylltu blaenorol. Bydd angen cynnal ymweliadau safle â'r mannau eraill lle mae preswylwyr wedi gofyn i'r Cyngor ddiweddaru ei Fap Rhwydwaith Integredig fel bod modd cyflawni gwaith ymchwil pellach. Bydd hyn yn digwydd cyn i'r Cyngor gynnal ymarfer ymgynghori statudol yn ddiweddarach eleni.
Bydd nifer o sylwadau eraill yn cael eu cyfeirio at garfanau gwahanol o fewn y Cyngor - er enghraifft, ceisiadau am groesfannau (Rheoli Traffig), cyrbiau wedi'u gostwng a llwybrau cerdded mwy llydan (Priffyrdd), a rhagor o oleuadau (Goleuadau Stryd). Er nad yw'r materion yma'n ymwneud yn uniongyrchol â Theithio Llesol, mae'r Cyngor yn cydnabod eu bod nhw'n ystyriaethau pwysig y mae modd iddyn nhw beri rhwystrau o ran cerdded a beicio. O ganlyniad i hyn, byddan nhw'n cael eu cynnwys mewn rhaglen waith ar wahân a fydd hefyd yn cael ei hystyried.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r ymateb sylweddol i’r ymgynghoriad Teithio Llesol diweddar yn galonogol iawn. Mae'n dangos bod preswylwyr lleol yn awyddus i ymgysylltu â’r Cyngor er mwyn gwella'r llwybrau cerdded a beicio yn eu cymunedau - nid yn unig er mwyn cyflawni gweithgareddau hamdden ond hefyd fel bod modd eu defnyddio bob dydd, yn hytrach na dibynnu ar y car.
“Mae llawer o fanteision yn gysylltiedig ag annog rhagor o bobl i gerdded a beicio, yn ogystal â gwella’r ddarpariaeth sy’n eu galluogi nhw i wneud hynny. Mae Teithio Llesol yn well i'r amgylchedd, yn hyrwyddo ymarfer corff yn yr awyr agored, yn gwella iechyd a lles, yn cysylltu cymunedau ac yn gwella cyfleoedd preswylwyr o ran cludiant cyhoeddus a chyflogaeth - a dyna pam ei fod e'n dal i fod yn fater blaenoriaeth i'r Cyngor.
“Mae ymgynghori â phreswylwyr sydd â gwybodaeth leol yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r broses ehangach o ran gwella Teithio Llesol. Mae ein Swyddogion wedi darllen pob un o'r 695 sylw a dderbyniwyd yn rhan o'r ymgynghoriad, ac mae sawl newid i'n cynlluniau cerdded a beicio yn y dyfodol bellach wedi'u hystyried. Mae llawer o awgrymiadau eraill, sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â Theithio Llesol, ond sy'n dal i fod yn ystyriaethau pwysig, wedi cael eu dwyn i sylw adrannau perthnasol y Cyngor.
“Bydd adroddiad ar ganlyniadau’r ymgynghoriad diweddar yn cael ei drafod gan y Cabinet yn ystod y cyfarfod ddydd Iau, a cham nesaf y broses fydd cynnal ymgynghoriad statudol yn ddiweddarach eleni."
Wedi ei bostio ar 11/06/21