Skip to main content

Gwaith Ailddatblygu Adeiladau Rhydychen wedi'i Gwblhau

Oxford Buildings

Mae cynllun i ailddatblygu 1-4 Adeiladau Rhydychen yn Aberpennar bellach wedi'i gwblhau, ar ôl i'r Cyngor weithio gyda phartneriaid i adnewyddu'r adeiladau gwag amlwg fel bod modd eu defnyddio unwaith eto.

Mae 1-4 Adeiladau Rhydychen wedi bod yn nodwedd amlwg ger y fynedfa de-ddwyreiniol i ganol tref Aberpennar ers dros 100 mlynedd. Roedd yr adeiladau wedi'u gadael yn wag ers nifer o flynyddoedd.

Nawr mae'r cynllun wedi'i gwblhau, mae'r Cyngor a'i bartneriaid wedi llwyddo i sicrhau bod modd defnyddio’r adeiladau unwaith eto. Mae'r ailddatblygiad yn ffurfio agwedd allweddol ar strategaeth adfywio canol tref ehangach ar gyfer Aberpennar, sy'n cynnwys datblygu Canolfan Gofal Sylfaenol newydd Tŷ Calon Lan ac adfywio Sgwâr Guto.

Mae datblygu 1-4 Adeiladau Rhydychen wedi bod yn fenter ar y cyd rhwng Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru, gan weithio i ddod â chyfleuster tai â chymorth mawr ei angen i'r ardal. 

Mae Carfan Strategaeth Tai y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf ar y prosiect dros y 18 mis diwethaf - o gamau cychwynnol y datblygiad, ymgynghori ag aelodau’r gymuned ynghylch y cynlluniau a’r dyluniadau, a chyflawni’r cynllun gorffenedig. 

Mae'r datblygiad yn darparu hyd at 8 fflat hunangynhwysol o ansawdd uchel yn benodol ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu, lle bydd gan unigolion fynediad at gymorth wedi'i dargedu gan bartneriaid gofal DRIVE i'w galluogi i gynyddu eu hannibyniaeth i'r eithaf a hyrwyddo dewis.

Mae'r datblygiad yn creu amgylchedd diogel yng nghanol Aberpennar lle mae modd i breswylwyr integreiddio gyda'r gymuned ehangach, tra hefyd yn darparu mynedfa fwy croesawgar i ganol y dref. 

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a’r Gymraeg: “Rydw i'n falch fy mod wedi gweld y cynllun pwysig yma'n cael ei gwblhau yn Aberpennar. Mae Adeiladau Rhydychen a oedd gynt yn wag, wedi eu trawsnewid yn amgylchedd diogel, o ansawdd uchel i oedolion ag anableddau dysgu.

“Mae'r cynllun ailddatblygu yn rhan hanfodol o'r strategaeth adfywio ehangach ar gyfer Aberpennar, yr ymgynghorodd y Cyngor arni ddiwedd 2018. Roedd hyn yn rhan o arddangosfa a gefnogwyd yn eang gan y gymuned leol.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Sgwâr Rhos (Sgwâr Guto) yn ddiweddarach ym mis Ebrill 2019.

"Hoffwn ddiolch i Grŵp Tai Cymunedol Cynon Taf am gydweithio'n agos gyda'r Cyngor er mwyn cwblhau'r cynllun, er budd trigolion a'r gymuned leol."
Wedi ei bostio ar 15/06/21