Mae'r Cyngor wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei waith adfer yn dilyn tirlithriad Tylorstown, drwy gwblhau dau gam mawr o waith. O ganlyniad i hyn, mae modd i lwybrau cerdded a beicio lleol ailagor i'r cyhoedd eu defnyddio.
Digwyddodd y tirlithriad ar ochr bryn Llanwynno yn Nhylorstown yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, pan gafodd Rhondda Cynon Taf y glaw trymaf a'r llifogydd mwyaf difrifol ers y 1970au. Roedd y tirlithriad yn cynnwys 60,000 tunnell o ddeunydd gwastraff, ac fe rwystrodd ddyffryn yr afon, difrododd garthffos fudr, gorchuddiodd brif gyflenwad dŵr yfed strategol a gorchuddiodd lwybr troed/llwybr beicio.
Mae cynnydd sylweddol yn parhau i gael ei wneud tuag at gynllun adfer tirlithriad Tylorstown, sydd â 4 cam. Trwy weithio'n agos gyda'r contractwr, Walters Ltd, mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau gwaith i adfer glannau'r afon yn dilyn erydiad, yn ogystal â symud deunydd sydd wedi llithro i safleoedd derbyn ac adfer llwybrau troed. Mae modd i ddau o'r llwybrau lleol yma ailagor (Camau Dau a Thri).
Llwybrau Cerdded a Beicio Lleol
O ganlyniad i gwblhau'r gwaith yma, mae modd i’r ddau lwybr cerdded a beicio ar ochr Canolfan Hamdden yr afon ailagor (fel y dangosir ar y ddelwedd uchod) – gan gysylltu â'r rhwydwaith lleol o lwybrau trwy'r ardal. Mae'r llwybr y tu ôl i'r ganolfan hamdden, sydd wedi bod yn rhan o safle'r contractwr, a'r llwybr ger yr afon a orchuddiwyd yn llwyr gan y tirlithriad, wedi cael eu hadfer ac mae modd iddyn nhw ailagor yn ddiogel erbyn hyn.
Mae'r trydydd llwybr sy'n rhedeg trwy'r ardal, ar ochr arall yr afon, wedi'i atgyweirio ond bydd yn parhau i fod ar gau oherwydd bydd camau sydd i ddod o'r cynllun yn cynnwys gwaith i sefydlogi ochr y bryn cyfagos. Rydyn ni'n gofyn i drigolion beidio ag anwybyddu'r ffensys a'r arwyddion sydd wedi'u gosod yn yr ardal yma i ddangos bod y llwybr wedi cau.
Er bod y rhan o'r llwybr yma sydd ar gau oddeutu 1.5 cilomedr, mae'r llwybr ehangach y mae'n rhan ohono ar agor ac mae modd ei ddilyn o Heol yr Orsaf yng Nglynrhedynog. Pan fydd cerddwyr a beicwyr yn cyrraedd y pwynt i lawr yr afon lle mae'r llwybr yn cau, bydd modd iddyn nhw newid i un o'r llwybrau a ailagorwyd yn ddiweddar ar hyd pont droed bresennol. Mae rhaid i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau i groesi'r bont yma. Mae'r Cyngor yn bwriadu ailagor pob llwybr yn y dyfodol.
Camau Nesaf y Cynllun Adfer
Bydd rhywfaint o waith sefydlogi cychwynnol ger y llwybr yn ystod yr haf eleni, tra bydd ymarfer ymgynghori cais cyn-gynllunio yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnosau nesaf i lywio cais cynllunio llawn ar gyfer Cam Pedwar – adfer y domen sy'n weddill ar ochr y bryn. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am y manylion maes o law, gan gynnwys sut mae modd i drigolion gymryd rhan yn y broses.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Mae'r cyhoeddiad heddiw fod Camau Dau a Thri cynllun adfer tirlithriad Tylorstown wedi'u cwblhau, yn gam cadarnhaol pellach tuag at gyflawni'r cynllun tymor hir i unioni’r tirlithriad. Mae'n dilyn cwblhau gwaith diweddar ar y safle megis tynnu'r deunydd oedd wedi llithro o lawr y dyffryn, adfer yr afon i'w llinell a'i lefel gywir a chyfres o waith draenio.
“Rydw i'n falch bod dau o'r tri llwybr troed a rennir sy'n rhedeg trwy'r safle bellach wedi ailagor yn llawn. Mae'r trydydd llwybr hefyd wedi'i adfer yn rhannol. Mae'r llwybr yma, sef yr un agosaf at ochr y bryn, yn parhau i fod ar gau ar safle'r tirlithriad, ond mae pont droed bren yn galluogi mynediad i'r llwybr ar ochr arall yr afon. Mae'n bwysig ychwanegu bod y Cyngor yn bwriadu ailagor pob llwybr lleol yn y dyfodol.
“Gan edrych ymlaen at Gam Pedwar, mae'r Cyngor yn paratoi i gyflwyno cais cynllunio llawn i sefydlogi'r deunydd sy'n weddill ar ochr y bryn, ynghyd â gwneud gwelliannau i'r llwybr i'r gymuned a'r parc ger yr afon. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn ystod yr haf eleni i lywio'r cais. Os bydd yn llwyddiannus, mae'n bosibl bydd y cam yma o'r gwaith yn digwydd y flwyddyn nesaf.
“Mae'r Cyngor eisoes wedi ymrwymo i wneud gwaith pellach i greu Llwybr Teithio Llesol i'r Gymuned rhwng Maerdy a Phont-y-gwaith, yn dilyn Cam Pedwar. Byddai'r weledigaeth yma ar gyfer y dyfodol yn defnyddio'r parc ger yr afon yn Nhylorstown, tra byddai sawl cynllun atgyweirio neu ailosod strwythurau newydd ar hyd y llwybr yma yn cael ei gwblhau."
Wedi ei bostio ar 28/06/2021