Skip to main content

Cynllun arfaethedig i ddiwygio strwythur yr Uwch Reolwyr wedi'i gytuno gan y Cabinet

Byddai cynllun arfaethedig i ddiwygio strwythur yr Uwch Reolwyr sy'n cael ei drafod gan y Cabinet heddiw yn lleihau'r costau cysylltiedig cyfredol o dros £250,000 y flwyddyn, ar ben y gostyngiad o £3.19 miliwn er 2014.

Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet mewn cyfarfod ddydd Iau 24 Mehefin yn argymell y dylai'r Aelodau gytuno i adolygu strwythur y gyfarwyddiaeth. Byddai'r diwygiadau yn cael eu rhoi ar waith rhwng 1 Awst 2021 a Mai 2022.

Yn dilyn cytundeb y Cabinet, bydd y Cyngor nawr yn ymgynghori â'r rhanddeiliaid angenrheidiol ar y newidiadau arfaethedig a lle bo angen, cân nhw eu cyflwyno i'r Cyngor ym mis Gorffennaf er mwyn iddo ddod i benderfyniad.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar gynigion i ailstrwythuro nifer o swyddi Uwch Reolwyr ar draws Gwasanaethau'r Cyngor, trwy ymgysylltu â staff a fydd yn cael eu heffeithio ac undebau llafur. Os cân nhw eu gweithredu gan y Cyngor llawn, byddai'r cynigion yma'n sicrhau gostyngiad pellach o fwy na £250,000 mewn costau uwch reolwyr. Byddai gostyngiad o'r fath o gymorth wrth i ni gadw ein ffocws ar sicrhau arbedion effeithlonrwydd er mwyn darparu gwasanaethau ehangach a buddsoddi yn ein meysydd blaenoriaeth.

“Mae’r dull darbodus yma wedi galluogi’r Cyngor i nodi dros £4.6 miliwn o arbedion effeithlonrwydd yng Nghyllideb 2021/22 y Cyngor, sydd ar ben arbedion o £6 miliwn ym mhob un o’r tair blynedd flaenorol. Rydyn ni wedi cyflawni hyn heb yr angen i leihau gwasanaethau ac mae'r Cyngor wedi llwyddo i ddiogelu gwasanaethau allweddol dros y blynyddoedd diwethaf rhag gostyngiadau mewn gwariant cyhoeddus.

“Pe bai'r cynigion diweddaraf ar gyfer newidiadau yn strwythur yr Uwch Reolwyr yn mynd yn eu blaenau, byddai hynny’n codi’r gostyngiad cyffredinol mewn costau rheoli yn y maes yma i £3.44 miliwn dros yr wyth mlynedd ddiwethaf – gan barhau i ddarparu arweinyddiaeth gorfforaethol effeithiol yn y meysydd gwasanaeth allweddol.”

Wedi ei bostio ar 24/06/21