Ar 17 Mehefin, yn rhan o Ddiwrnod Aer Glân, bydd ysgolion, ysbytai, gweithleoedd a chymunedau ledled y DU yn cynnal achlysuron i ysbrydoli pobl i gymryd camau syml i amddiffyn eu hiechyd, ac iechyd eu teuluoedd, rhag llygredd aer. Mae’r gwaith monitro rydyn ni wedi’i gyflawni yn dangos bod y rhan helaeth o RCT yn profi ansawdd aer da. Serch hynny, mae rhai ardaloedd ger ffyrdd prysur sy’n profi ansawdd aer drwg o ganlyniad i allyriadau gan gerbydau.
Fel sefydliad, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed carbon ac wedi addo i fod yn garbon niwtral erbyn 2030. Dyma'r rheswm pam rydyn ni'n cefnogi Diwrnod Aer Glân ddydd Iau 17 Mehefin, ac rydyn ni'n annog trigolion i ymuno â ni trwy adael eu ceir gartref, lle bo modd, a cherdded i'r ysgol, i'r siop leol a chrwydro ar droed yn yr awyr agored yn Rhondda Cynon Taf.
Eleni, rydyn ni'n gofyn i drigolion RhCT addo gweithio i leihau llygredd aer, a dangos ein brwdfrydedd dros sicrhau aer glân ar gyfer ein plant yn y dyfodol. Wrth i ni ailafael yn ein bywydau beunyddiol, rhaid i ni achub ar y cyfle yma i greu amgylchedd iach ar gyfer ein plant, lle mae modd iddyn nhw ddysgu a chwarae'n ddiogel. Dyma gyfle unigryw i sicrhau newid er gwell. Dewch i ni achub ar y cyfle.
Mae'r Cyngor yn parhau i ddangos ei ymrwymiad o ran gwella'r hinsawdd drwy leihau ei ôl troed carbon cymaint â phosibl. Bydd hefyd yn ystyried cyn bo hir sut i ddefnyddio ynni dros ben o safleoedd allweddol i greu cyfleusterau ynni gwynt a haul er mwyn meithrin economi gylchol werdd. Byddai amcangyfrif y gostyngiad o ran allbwn carbon y flwyddyn yn fwy na 25,700 tunnell.
Mae'r Cyngor hefyd wedi gwneud cynlluniau i leihau ei ddefnydd o gynnyrch plastig untro ledled safleoedd a redir gan y Cyngor ac ysgolion, ac mae'n parhau i annog caffael yn yr economi leol. Mae cynlluniau at y dyfodol yn cynnwys ystyried buddsoddi mewn cerbydau trydanol ar gyfer y Cyngor a sicrhau bod y copi drafft o'r Cynllun Datblygu Lleol yn ystyried ei effaith garbon. Yn ogystal â hynny, rhaid sicrhau ei fod yn cynnwys annog datblygwyr i ddefnyddio dyluniadau cynaliadwy a gosod pwyntiau trydanu.
Mae’r Cyngor wedi llunio Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer ar gyfer yr ardaloedd sy’n profi ansawdd aer drwg ac mae'n bwriadu gwneud nifer o newidiadau ledled y Fwrdeistref Sirol i wella ansawdd aer yn gyffredinol lle bo modd, yn arbennig o ran rheoli traffig ac annog rhagor o deithio llesol. Mae cynllun gweithredu bioamrywiaeth sydd â'r bwriad o sicrhau bod mannau agored yn cael eu defnyddio'n well i annog eu bywyd gwyllt i ffynnu.
Mae llygredd aer yn effeithio ar eich iechyd drwy gydol eich oes, ac mae modd iddo ddechrau gwneud niwed o'r cychwyn cyntaf. Serch hynny - does dim rhaid i ni dderbyn hyn. Mae modd datrys y problemau sy'n ymwneud â llygredd aer, ac mae modd i ni gyd gymryd camau a fydd yn helpu ein teuluoedd i osgoi llygredd gwenwynig a lleihau'r llygredd aer rydyn ni'n ei gynhyrchu. Bydd hyn o fudd i ni a'r blaned hefyd.
Meddai'rHyrwyddwr Newid Hinsawdd ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cryfach, Lles a Gwasanaethau Diwylliannol, Y Cynghorydd Rhys Lewis:
“Rydw i wrth fy modd bod y Cyngor yn cefnogi Diwrnod Aer Glân – dyma ddiwrnod gweithredu cenedlaethol i godi ymwybyddiaeth o beryglon aer gwenwynig a sut mae modd i ni i gyd gyfrannu at leihau llygredd. Rydw i'n credu ei bod hi mor bwysig gwybod am y niwed y mae llygredd yn ei achosi. Felly dyma annog pawb i ystyried yr hyn mae modd ei wneud i helpu i wella ansawdd aer a lleihau niwed llygredd. Rydyn ni'n lwcus i fyw yn un o rannau mwyaf prydferth y wlad – gadewch i ni ei chadw hi'n brydferth trwy weithio ar y cyd i ofalu am ein hamgylchedd.
Yn ddiweddar, lansiodd y Cyngor i ymgyrch Dewch i Siarad am Newid yn yr Hinsawdd #HinsawddYstyriolRhCT. Nod yw ymgyrch yma yw annog trigolion i rannu syniadau am sut y mae modd i bawb wneud gwahaniaeth - ewch i https://dewch-i-siarad.rctcbc.gov.uk/ i gymryd rhan.
Mae'r holl wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y Diwrnod Aer Glân ar gael ar y wefan Diwrnod Aer Glân www.diwrnodaerglan.org.uk/cymru. Mae gwefan yr Hwb Aer Glân hefyd yn darparu llawer o gyngor am lygredd aer, gan gynnwys yr hyn mae modd i bobl a chymunedau ei wneud i wella pethau.
ice on air pollution, including what actions people and their local communities can take to improve air quality.
Wedi ei bostio ar 17/06/21