Skip to main content

Adleoli croesfan Cylchfan yr Ynys (A4059) yn Aberdâr

Aberdare crossing grid

Mae hysbysiadau cyhoeddus wedi'u cyhoeddi yn rhan o'r cynlluniau i adleoli'r groesfan i gerddwyr ar Gylchfan yr Ynys (A4059) yn Aberdâr er mwyn gwella'r cysylltiadau rhwng canol y dref, yr ysgol a'r ganolfan hamdden, a gwella llif y traffig ar yr A4059.

Ar hyn o bryd, mae dwy groesfan ar Gylchfan yr Ynys – croesfan twcan a phont droed serth dros y ffordd. Mae'r rhain yn galluogi cerddwyr i symud rhwng Stryd y Dug ac ysgol a safle hamdden Sobell, ac i gyfeiriad Gorsaf Reilffordd Aberdâr, Tresalem ac Aber-nant.

Cynllun arfaethedig y Cyngor yw cael gwared ar y ddwy groesfan, gan gynnwys y goleuadau traffig ar y Gylchfan, a gosod pont Teithio Llesol newydd dros Afon Cynon a chroesfan newydd ar yr A4059 yn eu lle. Lleoliad y bont fydd tua 80 metr i'r de, rhwng cefn Canolfan Hamdden Sobell a chefn Gorsaf Fysiau Aberdâr.

I ddarparu ar gyfer hyn, bydd llwybr troed a llwybr beicio Teithio Llesol yn cael eu creu ger mannau glanio'r bont. Mae hyn yn cynnwys gwella'r llwybr presennol y tu ôl i'r Ganolfan Hamdden i gyfeiriad Gorsaf Reilffordd Aberdâr, a chreu llwybr newydd o amgylch ymyl yr orsaf fysiau a fydd yn arwain at Stryd y Dug – ychydig o fetrau o'r fan croesi bresennol.

Mae nifer o fanteision i'r cynllun, sy'n cynnwys cael gwared ar y groesfan serth bresennol a chydymffurfio â'r safonau hygyrchedd cyfredol yn y lleoliad yma. Bydd yn creu mynediad dymunol i safle Sobell, gan wella'r cysylltedd rhwng yr ysgol, y ganolfan hamdden, yr orsaf fysiau a chanol y dref.

Bydd y cynllun hefyd yn gwella llif y traffig ar yr A4059 trwy gael gwared ar y goleuadau traffig sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r groesfan twcan. Bydd hyn yn atal rhesi o gerbydau ac oedi wrth y gylchfan. Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i wella'r goleuadau stryd a theledu cylch cyfyng ar gyfer y llwybr troed ar y naill ochr i'r bont.

Mae'r cynllun wedi cael caniatâd cynllunio, a chafodd hysbysiadau cyhoeddus ar gyfer adleoli'r groesfan i gerddwyr eu cyhoeddi ddydd Gwener, 25 Mehefin. Bydd rhagor o fanylion ynglŷn â gweithredu'r newidiadau yma ar gael maes o law.

Wedi ei bostio ar 28/06/21